Cyfarfodydd

Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Drafft o ganllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canllawiau yn amodol ar ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion ar yr elfennau sy'n ymwneud â busnes pwyllgorau yn ei gyfarfod nesaf. Caiff y canllawiau diweddaraf sy'n ymwneud â busnes y Cyfarfod Llawn eu cyhoeddi a'u darparu i'r Aelodau ar ôl datrys ymholiad technegol yn ymwneud â'r defnydd o iPads gan yr Aelodau ar gyfer pleidleisio, gyda'r canllawiau terfynol i ddilyn ar ôl ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion.

 

 


Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Adolygu Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell


Cyfarfod: 12/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell


Cyfarfod: 12/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Canllawiau drafft cyntaf ar drafodion rhithwir a hybrid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 9

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ganllawiau drafft a luniwyd yn dilyn ei Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd, a chytunwyd ar sawl newid yn ymwneud â’r lleoliadau y gall Aelodau bleidleisio ohonynt ac yn ymwneud â’r trefniadau ar gyfer cyfranogiad Aelodau a Gweinidogion mewn cyfarfodydd pwyllgor.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd y canllawiau hefyd yn destun ymgynghori gyda Fforwm y Cadeiryddion cyn eu cyhoeddi gan y Llywydd yn ystod yr hydref. Bydd rhagor o wybodaeth am faterion technegol yn ymwneud â chyfranogiad a phleidleisio yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei darparu ar ddechrau tymor yr hydref.

 

 


Cyfarfod: 05/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 12

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad ar yr adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd, a chytuno arno, yn amodol ar welliant mewn perthynas â phresenoldeb mewn cyfarfodydd pwyllgor y cytunir arnynt y tu allan i’r cyfarfod. Byddai’r Pwyllgor yn trafod canllawiau drafft cychwynnol ar gyfranogiad mewn trafodion rhithwir a hybrid yn ei gyfarfod nesaf.

 

 


Cyfarfod: 05/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell


Cyfarfod: 21/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Darpariaethau Rheol Sefydlog 34

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig y caniateir i Reolau Sefydlog 34.2-4 (Llywydd Dros Dro Dynodedig) fynd yn ddi-rym ar 1 Awst 2022 a bod Rheolau Sefydlog RhS 34.5-8 (Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfodydd Llawn) yn cael eu hymgorffori yn Rheol Sefydlog 6.

 

 


Cyfarfod: 21/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Adolygu Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell


Cyfarfod: 21/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Cyfranogi a phleidleisio o bell mewn Cyfarfodydd Llawn a phwyllgorau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 22
  • Cyfyngedig 23
  • Cyfyngedig 24
  • Cyfyngedig 25
  • Cyfyngedig 26
  • Cyfyngedig 27

Cofnodion:

Fel rhan o'i adolygiad o Reol Sefydlog 34 (gweithdrefnau brys), ystyriodd y Pwyllgor Busnes a ddylai cyfranogiad a phleidleisio o bell mewn Cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd pwyllgorau barhau y tu hwnt i bandemig Covid-19. Wrth wneud hynny, ystyriodd y Pwyllgor yr ymatebion a gafwyd gan Aelodau unigol, grwpiau pleidiau, Fforwm y Cadeiryddion a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:

 

  • dylid parhau â chyfranogi o bell mewn Cyfarfodydd Llawn, gyda chanllawiau pellach i'w cyhoeddi yn cwmpasu ystod o faterion yn ymwneud â phresenoldeb ac ymddygiad, gan gynnwys pwysleisio mai cyfrifoldeb yr Aelodau sy'n cyfranogi o bell yw sicrhau cysylltiad dibynadwy â’r trafodion;
  • dylai pwyllgorau barhau i gael dewis fformat eu cyfarfodydd fesul cyfarfod ac mai cadeiryddion pwyllgorau ddylai wneud y penderfyniadau hynny, gan gynnwys penderfyniadau mewn cysylltiad â thystion, ar ôl ymgynghori â'u pwyllgorau;
  • Dylai Rheolau Sefydlog 34.14A-D sy'n caniatáu pleidleisio electronig o bell yn y Cyfarfod Llawn gael eu hymgorffori yn Rheol Sefydlog 12, i gynnwys mai cyfrifoldeb yr Aelodau eu hunain yw sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad i'r system bleidleisio cyn unrhyw bleidleisiau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyhoeddi canllawiau pellach mewn perthynas â chynnal pleidlais;
  • Dylid caniatáu i Reolau Sefydlog 34.14E-F sy'n caniatáu pleidleisio electronig o bell mewn cyfarfodydd pwyllgorau fynd yn ddi-rym a chynnig y dylid diwygio Rheol Sefydlog 17 i alluogi pleidleisio drwy alw'r gofrestr yn nhrafodion pwyllgorau;
  • Y dylid caniatau i Reolau Sefydlog 34.15-17 (Hygyrchedd Cyfarfodydd Llawn) a 34.19-21 (Hygyrchedd Cyfarfodydd Pwyllgor) fynd yn ddi-rym.
  • Bod Rheolau Sefydlog 12.1 a 17.40 yn cael eu diwygio i’w gwneud yn glir bod cyfarfodydd rhithwir a hybrid yn gymwys fel cyfarfodydd cyhoeddus pan fo darllediad byw ar gael.

 

Gofynnodd y Pwyllgor Busnes hefyd am roi ystyriaeth bellach i'r angen parhaus am seibiannau technegol cyn y cyfnod pleidleisio a'r defnydd o PIN ar gyfer pleidleisio, a hefyd a ellid rhoi mwy o wybodaeth i grwpiau pleidiau o ran pa Aelodau sy'n bresennol i bleidleisio.

 

 


Cyfarfod: 14/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Adolygu Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell


Cyfarfod: 14/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Papur ar ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 32

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o’r darpariaethau presennol a gynhwysir yn Rheol Sefydlog 34 (Gweithdrefnau Brys) a chytunodd i gynnig caniatáu i’r Rheolau Sefydlog a ganlyn fynd yn ddi-rym ar 1 Awst 2022:

  • Y Llywydd yn adalw’r Senedd (Rheol Sefydlog 34.9)
  • Cworwm yn y Cyfarfod Llawn (Rheol Sefydlog 34.10)
  • Pleidleisio (wedi’i bwysoli) yn y Cyfarfod Llawn (Rheol Sefydlog 34.11-14)
  • Cwestiynau llafar (Rheol Sefydlog 34.18)
  • Pwyllgor Cyfrifol o dan Reol Sefydlog 21 (Rheol Sefydlog 34.22-23)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at drafodaeth bellach ar y Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Llywydd Dros Dro Dynodedig (Rheol Sefydlog 34.2-4) a Chadeirydd Dros Dro yn y Cyfarfodydd Llawn (Rheol Sefydlog 34.5-8) yn y cyfarfod canlynol.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y byddai pleidleisio electronig o bell yn cael ei gadw yn y Rheolau Sefydlog i'w ddefnyddio mewn sefyllfaoedd brys yn y dyfodol, ni waeth beth fo'r penderfyniadau a wneir mewn cyfarfodydd dilynol ynghylch ei ddefnydd rheolaidd parhaus.