Cyfarfodydd

NDM8015 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/06/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

NDM8015 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni'r gwelliannau a addawyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

2. Yn credu bod y penderfyniad i symud y bwrdd iechyd o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 yn amhriodol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod trefn mesurau arbennig ddiwygiedig i roi'r arweiniad a'r adnoddau sydd eu hangen ar y bwrdd iechyd i fynd i'r afael â methiannau, a darparu'r gofal iechyd o ansawdd uchel y mae pobl Gogledd Cymru yn ei haeddu.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am gomisiynu adolygiad annibynnol i ystyried manteision posibl disodli Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr â strwythurau newydd i ddarparu gofal iechyd yn y gogledd, oherwydd ei broblemau cronig.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.14

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8015 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni'r gwelliannau a addawyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

2. Yn credu bod y penderfyniad i symud y bwrdd iechyd o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 yn amhriodol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod trefn mesurau arbennig ddiwygiedig i roi'r arweiniad a'r adnoddau sydd eu hangen ar y bwrdd iechyd i fynd i'r afael â methiannau, a darparu'r gofal iechyd o ansawdd uchel y mae pobl Gogledd Cymru yn ei haeddu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

13

27

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am gomisiynu adolygiad annibynnol i ystyried manteision posibl disodli Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr â strwythurau newydd i ddarparu gofal iechyd yn y gogledd, oherwydd ei broblemau cronig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.