Cyfarfodydd

Item for decision: Pensions (9.20 - 9.50)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/01/2024 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Gwaith a Phensiynau

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/05/2022 - Bwrdd Taliadau (Eitem 2)

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Pensiynau (9.20 - 9.50)

Papur 2 – Diweddariad ar Gynllun Pensiwn yr Aelodau

Papur 2 (Atodiad) – Rheolau'r Cynllun fel y'u diwygiwyd

Papur 3 – Cynllun pensiwn Staff Cymorth - cymariaethau

 

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 6
  • Cyfyngedig 7
  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

2.1 Bu’r Bwrdd yn ystyried newidiadau i’r Rheolau ar Gynllun Pensiwn yr Aelodau, a chytunwyd arnynt, i adlewyrchu dyfarniadau McCloud a Sargeant ac i osgoi darpariaethau a allai fod yn wahaniaethol:

2.2 Cymeradwywyd y newidiadau canlynol hefyd i adlewyrchu newidiadau i’r Rheolau y cytunwyd arnynt yn flaenorol gan y Bwrdd:

·    diwygio Rheolau 30.3 a 30.4, sy’n ymwneud â chyfraniadau gan ddeiliaid swyddi sy’n cymryd rhan ac sy’n aelodau o adran Enillion Cyfartalog Gyrfa wedi’u Hailbrisio y Cynllun (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 15 Awst 2016);

·    nifer o newidiadau i gydymffurfio â gofynion gwahaniaethu ar sail oedran mewn perthynas ag Aelodau 75 oed neu hŷn (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 19 Medi 2019);

·    diwygio’r Rheolau i ganiatáu cyfnewid pensiwn afiechyd yn llawn am gyfandaliad arian parod mewn achosion o ddisgwyliad oes byr o lai na 12 mis (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 21 Tachwedd 2019);

·    iaith wedi’i diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau enw a gyflwynwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, er enghraifft Senedd Cymru yn hytrach na Chynulliad Cenedlaethol Cymru (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 9 Gorffennaf 2020);

·    newid yr amserlen ar gyfer prisiadau’r Cynllun o dan Reolau 19.2, i ganiatáu ar gyfer tarfu a achosir gan COVID-19 (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 9 Gorffennaf 2020); a

·    diwygiadau i adlewyrchu’r penderfyniad i newid y diffiniad o “partner” i gydymffurfio â dyfarniad Brewster (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 30 Medi 2021).

2.3 Cytunodd y Bwrdd, yn amodol ar wneud un cywiriad i ddileu iaith rhyw-benodol, y byddai'r rheolau diwygiedig yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd Pensiynau.  

2.4 Ystyriodd y Bwrdd gymhariaeth o gynllun pensiwn staff cymorth yr Aelodau â chynlluniau pensiwn adrannau cyhoeddus a phreifat tebyg eraill, gan gynnwys cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil a’r cyfyngiadau cyfreithiol ynghylch pa weithwyr yn y sector cyhoeddus a all ymuno â’r cynllun.

2.5 Cafodd y Bwrdd wybodaeth am y cyfraniadau y mae’n ofynnol i gyflogeion eu gwneud, am y cyfraniadau a wneir gan gyflogwyr, ac am y buddion a geir o dan wahanol gynlluniau.  

2.6 Cytunodd y Bwrdd fod y cynllun pensiwn staff cymorth o werth tebyg i gynlluniau eraill a adolygwyd, ac nid oedd yn ystyried bod angen gwneud newidiadau ar hyn o bryd. 

Camau i’w cymryd:   Yr Ysgrifenyddiaeth i wneud y canlynol:

·      Gwneud trefniadau i’r newidiadau i Reolau Pensiynau yr Aelodau gael eu gwneud ac i'r Cadeirydd gymeradwyo’r rheolau fel y’u diwygiwyd.

·      Cyflwyno fersiwn derfynol o’r rheolau diwygiedig i’r Bwrdd Pensiynau.