Cyfarfodydd

NDM8005 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl plant a'r glasoed

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl plant a'r glasoed

NDM8005 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

2. Yn gresynu bod amseroedd aros iechyd meddwl plant a'r glasoed yn parhau i fod yn wael, gyda llai nag un o bob dau o bobl o dan 18 oed yn derbyn asesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod i'w hatgyfeirio.

3. Yn mynegi ei phryder ynghylch nifer y plant a phobl ifanc o dan 18 oed sy'n cael eu cadw o dan adran 136.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad brys o hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed;

b) sicrhau bod gwasanaeth argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru; ac

c) ystyried dichonoldeb agor uned anhwylderau bwyta yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith y pandemig ar iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc.

2. Yn cydnabod effaith y pandemig ar amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).

3. Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar helpu gwasanaethau i wella wrth iddynt adfer a gwaith parhaus gyda phartneriaid i atal dwysáu i argyfwng a darparu ymateb amlasiantaeth, priodol.

4. Yn nodi adolygiad Uned Gyflawni’r GIG o CAMHS, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac y disgwylir ei adroddiad erbyn diwedd 2022.

5. Yn croesawu’r gwaith i barhau i gyflwyno 111, pwyso 2 ar gyfer iechyd meddwl i oedolion a phobl ifanc ledled Cymru.

6. Yn nodi ymgynghoriad presennol Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar Strategaeth Gwasanaeth Arbenigol Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru, gyda rhanddeiliaid allweddol, sy’n cynnwys cwmpasu dichonoldeb Uned Anhwylderau Bwyta ar gyfer Cymru.

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt (2) ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi'r prosiect peilot arfaethedig i sefydlu cyfleusterau yn y gymuned, i bobl ifanc gael mynediad hawdd at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol, er mwyn cynnig ymyrraeth gynnar ac osgoi uwchgyfeirio, ac yn annog cyflwyno cyfleusterau ymyrraeth gynnar i Gymru gyfan.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.45

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8005 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

2. Yn gresynu bod amseroedd aros iechyd meddwl plant a'r glasoed yn parhau i fod yn wael, gyda llai nag un o bob dau o bobl o dan 18 oed yn derbyn asesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod i'w hatgyfeirio.

3. Yn mynegi ei phryder ynghylch nifer y plant a phobl ifanc o dan 18 oed sy'n cael eu cadw o dan adran 136.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad brys o hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed;

b) sicrhau bod gwasanaeth argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru; ac

c) ystyried dichonoldeb agor uned anhwylderau bwyta yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith y pandemig ar iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc.

2. Yn cydnabod effaith y pandemig ar amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).

3. Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar helpu gwasanaethau i wella wrth iddynt adfer a gwaith parhaus gyda phartneriaid i atal dwysáu i argyfwng a darparu ymateb amlasiantaeth, priodol.

4. Yn nodi adolygiad Uned Gyflawni’r GIG o CAMHS, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac y disgwylir ei adroddiad erbyn diwedd 2022.

5. Yn croesawu’r gwaith i barhau i gyflwyno 111, pwyso 2 ar gyfer iechyd meddwl i oedolion a phobl ifanc ledled Cymru.

6. Yn nodi ymgynghoriad presennol Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar Strategaeth Gwasanaeth Arbenigol Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru, gyda rhanddeiliaid allweddol, sy’n cynnwys cwmpasu dichonoldeb Uned Anhwylderau Bwyta ar gyfer Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt (2) ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi'r prosiect peilot arfaethedig i sefydlu cyfleusterau yn y gymuned, i bobl ifanc gael mynediad hawdd at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol, er mwyn cynnig ymyrraeth gynnar ac osgoi uwchgyfeirio, ac yn annog cyflwyno cyfleusterau ymyrraeth gynnar i Gymru gyfan.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8005 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

2. Yn gresynu bod amseroedd aros iechyd meddwl plant a'r glasoed yn parhau i fod yn wael, gyda llai nag un o bob dau o bobl o dan 18 oed yn derbyn asesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod i'w hatgyfeirio.

3. Yn nodi'r prosiect peilot arfaethedig i sefydlu cyfleusterau yn y gymuned, i bobl ifanc gael mynediad hawdd at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol, er mwyn cynnig ymyrraeth gynnar ac osgoi uwchgyfeirio, ac yn annog cyflwyno cyfleusterau ymyrraeth gynnar i Gymru gyfan.

4. Yn mynegi ei phryder ynghylch nifer y plant a phobl ifanc o dan 18 oed sy'n cael eu cadw o dan adran 136.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad brys o hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed;

b) sicrhau bod gwasanaeth argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru; ac

c) ystyried dichonoldeb agor uned anhwylderau bwyta yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

23

48

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.40 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.