Cyfarfodydd

P-06-1281 Rhaid atal gollyngiadau carthion amrwd ar fyrder ym Mae'r Twr Gwylio a'r Hen Harbwr yn y Barri

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/07/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1281 Rhaid atal gollyngiadau carthion amrwd ar fyrder ym Mae'r Twr Gwylio a'r Hen Harbwr yn y Barri.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y pryderon cynyddol am gyflwr ein hafonydd a’r camau gweithredu sy’n cael eu cymryd gan bwyllgorau’r Senedd, mewn cyfarfodydd llawn, gan Lywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.

 

Cytunodd yr Aelodau i annog y deisebwyr i fynd ar drywydd y broses sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru i bobl wneud cais i ddynodi ardaloedd newydd o ddyfroedd ymdrochi, a chytunwyd i rannu adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.