Cyfarfodydd

Lobïo

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/11/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 4)

Canllawiau lobïo diwygiedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y canllawiau diwygiedig.

 


Cyfarfod: 20/03/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Ymchwiliad Lobïo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Safonau.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i rannu ei safbwynt presennol ar lobïo gyda grwpiau allweddol cyn cwblhau ei ganfyddiadau.

 


Cyfarfod: 30/01/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Ymateb gan y Prif Weinidog ynghylch Fferm Gilestone

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y llythyr gan y Prif Weinidog, a chytunwyd i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 30/01/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Ymchwiliad i Lobïo: Crynodeb o'r dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd gan dystion yn ystod y sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd fel rhan o’r ymchwiliad i lobïo.

 

2.2 Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth gan swyddogion am amrywiaeth o faterion cysylltiedig, cyn dychwelyd at y pwnc ar gyfer ei drafod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 16/01/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 4)

Ymchwiliad i Lobïo: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

 


Cyfarfod: 16/01/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth

Rachel Davies Teka – Tryloywder Rhyngwladol y DU

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor lobïo â Rachel Davies Teka, Cyfarwyddwr Eiriolaeth, Tryloywder Rhyngwladol y DU.

 

 


Cyfarfod: 12/12/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 1

Naomi Williams – Cadeirydd, Materion Cyhoeddus Cymru

Gemma Roberts - Materion Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor lobïo gyda swyddogion Materion Cyhoeddus Cymru.

 


Cyfarfod: 12/12/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 5)

Ymchwiliad i Lobïo: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 12/12/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 2

Ben Lloyd – Pennaeth Polisi, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor lobïo gyda Phennaeth Polisi Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

 


Cyfarfod: 28/11/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 6)

Ymchwiliad i Lobïo: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 28/11/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 4)

Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 3

Harry Rich - Cofrestrydd Lobïwyr Ymgynghorol, San Steffan

Cofnodion:

4.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod trefniadau lobïo yn San Steffan gyda’r Cofrestrydd Lobïwyr Ymgynghorol, San Steffan.

 


Cyfarfod: 28/11/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 2

Anthony Murray – Pennaeth Cynorthwyol yr Uned Rheoleiddio Lobïo, Iwerddon.

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod trefniadau lobïo yng Ngweriniaeth Iwerddon gyda Phennaeth Cynorthwyol yr Uned Rheoleiddio Lobïo, y Comisiwn Safonau Swyddi Cyhoeddus, Iwerddon.

 


Cyfarfod: 28/11/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 1

Billy McLaren - Cofrestrydd Lobïo, yr Alban

James Drummond – Cofrestrydd Lobïo Cynorthwyol, yr Alban

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod trefniadau lobïo yn yr Alban gyda Chofrestrydd Lobïo a Chofrestrydd Lobïo Cynorthwyol Senedd yr Alban.

 


Cyfarfod: 24/10/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Ymchwiliad i lobïo - Sesiwn gyda Dr John William Devine

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Hwylusodd Dr John William Devine drafodaeth gyda'r Pwyllgor ynghylch lobïo a nod yr ymchwiliad.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd cofrestryddion o San Steffan, Yr Alban ac Iwerddon i gyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 26/09/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Ymchwiliad i lobïo - cymorth academaidd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Dr John William Devine i gyfarfod yn y dyfodol i hwyluso trafodaeth bellach ynghylch lobïo.

 

3.2 Gofynnodd y Pwyllgor i swyddogion ymchwilio i'r posibilrwydd o gael cymorth academaidd o'r tu allan i Gymru.

 


Cyfarfod: 26/09/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 4)

Fferm Gilestone a Chod y Gweinidogion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a'r adroddiad a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog.

 


Cyfarfod: 04/07/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 4)

Trafodaeth anffurfiol gyda Chynullydd Pwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus yr Alban

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod lobïo â Chynullydd Pwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus yr Alban.

 


Cyfarfod: 04/07/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Trafod Grwpiau Trawsbleidiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymgynghoriad ar Grwpiau Trawsbleidiol yn ystod toriad yr haf, ac i adolygu’r dystiolaeth sy’n dod i law yn gynnar yn nhymor yr hydref.


Cyfarfod: 04/07/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Ymatebion i'r ymgynghoriad ar lobïo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i’r ymgynghoriad a chytunodd i drefnu grwpiau ffocws, yn ogystal â gofyn am ragor o dystiolaeth gan grwpiau penodol.