Cyfarfodydd

P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/07/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y cafodd ei thrafod yn angerddol yn y Senedd ar 29 Mehefin, ac mae’n cydnabod nad dyma’r ddadl gyntaf nac yn debygol o fod y tro olaf i’r mater pwysig hwn ddod gerbron y Senedd. Fodd bynnag, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd, gan ei fod wedi cynnal dadl ar y mater hwn eisoes. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater pwysig.

 


Cyfarfod: 29/06/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl ar ddeiseb P-06-1277 - Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.22

NDM8040 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb, P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol, a gasglodd 11,168 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Bwyllgor Busnes y Senedd i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.