Cyfarfodydd

P-06-1275 Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1275 Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd rwystredigaeth y gymuned leol. Fodd bynnag, o ystyried bod adroddiad yr Adolygiad Ffyrdd yn dweud yn glir na fydd cynllun ffordd osgoi Llanbedr yn mynd rhagddo a bod Llywodraeth Cymru wedi nodi ei pharodrwydd i weithio gyda Chyngor Gwynedd a bod cyfarfodydd wedi’u trefnu gyda’r gymuned leol i ystyried dulliau eraill o ymdrin â’r anawsterau, cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer mwy y gallent ei wneud a chytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y mater hwn.

 


Cyfarfod: 11/07/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1275 Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1275 Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i gadw llygad arni wrth aros i gynllun newydd gael ei gyhoeddi yn dilyn yr Adolygiad Ffyrdd.