Cyfarfodydd

NDM7992 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cymunedau Lleol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cymunedau Lleol

NDM7992 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gadael cymunedau lleol i lawr.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i amddiffyn cymunedau ledled Cymru rhag methiant Llywodraeth y DU i gymryd yr argyfwng costau byw o ddifrif a'i gwrthodiad i wrthdroi’r toriad niweidiol i gredyd cynhwysol

[Os derbynnir Gwelliant 1, bydd Gwelliant 2 yn cael ei dad-ddethol]

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod polisïau anflaengar llywodraethau olynol San Steffan – o dan y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr – a diffyg uchelgais Llywodraethau Llafur Cymru wedi gadael cymunedau Cymru i lawr.

2. Yn credu bod y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn sicrhau nifer o bolisïau trawsnewidiol a fydd o fudd i bobl a chymunedau Cymru.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7992 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gadael cymunedau lleol i lawr.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

36

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i amddiffyn cymunedau ledled Cymru rhag methiant Llywodraeth y DU i gymryd yr argyfwng costau byw o ddifrif a'i gwrthodiad i wrthdroi’r toriad niweidiol i gredyd cynhwysol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

10

15

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7992 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i amddiffyn cymunedau ledled Cymru rhag methiant Llywodraeth y DU i gymryd yr argyfwng costau byw o ddifrif a'i gwrthodiad i wrthdroi’r toriad niweidiol i gredyd cynhwysol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

15

51

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.