Cyfarfodydd
NDM7954 Plaid Cymru debate - The cost of living crisis - the effect on schools and children
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)
Dadl Plaid Cymru - Yr argyfwng costau byw - yr effaith ar ysgolion a phlant
NDM7954 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith
benodol ar ysgolion a phlant.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ymdrechion i
sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion
yn cael eu gweithredu mor effeithiol â phosibl drwy:
a) adolygu effeithiolrwydd canllawiau statudol ar
bolisïau gwisg ysgol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd cyson ledled Cymru;
b) cymryd camau brys i sicrhau nad yw dyled prydau ysgol
yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion;
c) gwella sut y cyfeirir at y grant datblygu
disgyblion – mynediad;
d) gweithio tuag at gofrestru pobl ar gyfer yr holl
bethau y gallant hawlio amdanynt yn awtomatig i gynyddu'r nifer sy'n
manteisio arnynt a sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o incwm;
e) darparu cymorth pellach i ysgolion i ddarparu teithiau
a gweithgareddau cynhwysol i bawb a sicrhau arferion cyson ledled Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:
Gwelliant 1 - Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt 2(a) ac ailrifo
yn unol â hynny:
'sicrhau nad yw symud i brydau ysgol am ddim cyffredinol
yn cael effaith negyddol ar unrhyw blant yng Nghymru a fyddai wedi cael cyllid
neu gymorth ychwanegol'
Cofnodion:
NDM7954 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod yr
argyfwng costau byw yn cael
effaith benodol ar ysgolion a phlant.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ymdrechion
i sicrhau bod mesurau i gefnogi
plant o gefndiroedd difreintiedig
mewn ysgolion yn cael eu
gweithredu mor effeithiol â
phosibl drwy:
a) adolygu effeithiolrwydd canllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd
cyson ledled Cymru;
b) cymryd camau brys i
sicrhau nad yw dyled prydau
ysgol yn cael effaith negyddol
ar ddisgyblion;
c) gwella sut y cyfeirir at y grant datblygu disgyblion – mynediad;
d) gweithio tuag at gofrestru pobl ar gyfer yr holl bethau y gallant hawlio amdanynt yn awtomatig i
gynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt a sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o incwm;
e) darparu cymorth pellach i ysgolion i
ddarparu teithiau a gweithgareddau cynhwysol i bawb a sicrhau
arferion cyson ledled Cymru.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.