Cyfarfodydd

NDM7954 Plaid Cymru debate - The cost of living crisis - the effect on schools and children

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)

Dadl Plaid Cymru - Yr argyfwng costau byw - yr effaith ar ysgolion a phlant

NDM7954 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith benodol ar ysgolion a phlant.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu mor effeithiol â phosibl drwy:

a) adolygu effeithiolrwydd canllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd cyson ledled Cymru;

b) cymryd camau brys i sicrhau nad yw dyled prydau ysgol yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion;

c) gwella sut y cyfeirir at y grant datblygu disgyblion – mynediad; 

d) gweithio tuag at gofrestru pobl ar gyfer yr holl bethau y gallant hawlio amdanynt yn awtomatig i gynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt a sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o incwm;

e) darparu cymorth pellach i ysgolion i ddarparu teithiau a gweithgareddau cynhwysol i bawb a sicrhau arferion cyson ledled Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt 2(a) ac ailrifo yn unol â hynny:

'sicrhau nad yw symud i brydau ysgol am ddim cyffredinol yn cael effaith negyddol ar unrhyw blant yng Nghymru a fyddai wedi cael cyllid neu gymorth ychwanegol'

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.45

NDM7954 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith benodol ar ysgolion a phlant.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu mor effeithiol â phosibl drwy:

a) adolygu effeithiolrwydd canllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd cyson ledled Cymru;

b) cymryd camau brys i sicrhau nad yw dyled prydau ysgol yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion;

c) gwella sut y cyfeirir at y grant datblygu disgyblionmynediad

d) gweithio tuag at gofrestru pobl ar gyfer yr holl bethau y gallant hawlio amdanynt yn awtomatig i gynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt a sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o incwm;

e) darparu cymorth pellach i ysgolion i ddarparu teithiau a gweithgareddau cynhwysol i bawb a sicrhau arferion cyson ledled Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.