Cyfarfodydd
NDM7912 Plaid Cymru debate - Welsh resources
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 09/02/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)
Dadl Plaid Cymru - Adnoddau Cymru
NDM7912 Siân
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r enghreifftiau niferus o gyfoeth sy'n deillio
o adnoddau Cymru yn cael ei fwynhau y tu allan i Gymru, fel asedau Ystâd y
Goron, ynni adnewyddadwy, cynhyrchu bwyd a phlannu coed ar dir amaethyddol.
2. Yn cytuno:
a) bod hyn yn cynrychioli tuedd hanesyddol a chyfoes o
echdynnu a manteisio ar adnoddau Cymru gan fuddiannau allanol;
b) y dylid cadw'r asedau hyn, a'r manteision sy'n deillio
ohonynt, yng Nghymru, er budd pawb sy'n byw yng Nghymru.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cytuno mai'r ffordd orau o sicrhau'r manteision
mwyaf posibl o adnoddau naturiol yng Nghymru yw mewn Teyrnas Unedig ddiwygiedig
lle mae penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru.
2. Yn cydnabod ein cyfrifoldeb byd-eang i reoli adnoddau
naturiol yn gynaliadwy, gan weithio mewn cymunedau lleol a chyda phartneriaid
rhyngwladol.
3. Yn gresynu at gamreolaeth ddi-drefn Llywodraeth y DU
ar ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd ac effaith hynny ar sut y mae’r
manteision economaidd sy’n gysylltiedig ag adnoddau naturiol yng Nghymru yn
cael eu gwasgaru, gan gynnwys yr effaith ar gymunedau gwledig a'n hymateb i'r
argyfwng hinsawdd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.39
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y
Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7912 Siân Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r enghreifftiau niferus o gyfoeth
sy'n deillio o adnoddau Cymru yn cael ei fwynhau y tu allan i Gymru, fel asedau
Ystâd y Goron, ynni adnewyddadwy, cynhyrchu bwyd a phlannu coed ar dir
amaethyddol.
2. Yn cytuno:
a) bod hyn yn cynrychioli tuedd hanesyddol a
chyfoes o echdynnu a manteisio ar adnoddau Cymru gan fuddiannau allanol;
b) y dylid cadw'r asedau hyn, a'r manteision
sy'n deillio ohonynt, yng Nghymru, er budd pawb sy'n byw yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
39 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cytuno mai'r ffordd orau o sicrhau'r manteision mwyaf posibl o
adnoddau naturiol yng Nghymru yw mewn Teyrnas Unedig ddiwygiedig lle mae
penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru.
2. Yn cydnabod ein cyfrifoldeb byd-eang i reoli adnoddau naturiol yn
gynaliadwy, gan weithio mewn cymunedau lleol a chyda phartneriaid rhyngwladol.
3. Yn gresynu at gamreolaeth ddi-drefn Llywodraeth y DU ar ein perthynas
â'r Undeb Ewropeaidd ac effaith hynny ar sut y mae’r manteision economaidd sy’n
gysylltiedig ag adnoddau naturiol yng Nghymru yn cael eu gwasgaru, gan gynnwys
yr effaith ar gymunedau gwledig a'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei
phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod
y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.22 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.