Cyfarfodydd

P-06-1273 Lleihau amseroedd amser am ambiwlansys ac mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ddirfawr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1273 Lleihau amseroedd aros am ambiwlansys ac mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ddirfawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac oherwydd yr ymchwiliad manwl a'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion mewn egwyddor, cytunodd yr Aelodau fod llawer o'r materion a godwyd yn y ddeiseb a'r sylwadau dilynol wedi'u nodi a chael sylw. Felly cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd am godi’r mater pwysig hwn.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw'r deisebydd at ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 


Cyfarfod: 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1273 Lleihau amseroedd aros am ambiwlansys ac mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ddirfawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd yr amgylchiadau anodd a arweiniodd at y ddeiseb hon, a’r ffaith druenus nad yw'r profiad yn unigryw i'r deisebydd. Nododd y Pwyllgor fod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cynnal ymchwiliad yn ddiweddar i amseroedd aros mewn ysbytai ac amseroedd aros ambiwlansys. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gadw llygad ar y ddeiseb wrth aros i'r adroddiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol gael ei gyhoeddi ac i Llywodraeth Cymru ymateb.