Cyfarfodydd

P-06-1269 Peidiwch â gadael i'r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy'n marw yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1269 Peidiwch â gadael i'r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy'n marw yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y deisebwyr yn croesawu ymateb y Gweinidog ac yn falch bod ffrydiau gwaith a grwpiau arbenigol wedi'u sefydlu. Er bod gan y deisebwyr gwestiynau pellach ar y mater, maent yn cydnabod eu bod yn mynd y tu hwnt i gwmpas y ddeiseb. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am ei ymgysylltiad parhaus.

 


Cyfarfod: 05/06/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1269 Peidiwch â gadael i'r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy'n marw yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a diolchodd i'r deisebwyr am eu hymgysylltiad parhaus â'r broses hon, gan gytuno i ysgrifennu at y Gweinidog i rannu gohebiaeth ddiweddaraf y deisebydd a gofyn am ymateb i'r tri phwynt a godwyd.

 


Cyfarfod: 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1269 Peidiwch â gadael i'r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy'n marw yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ei bod wedi hybu ymgysylltiad cadarnhaol â'r Gweinidog a bod camau cadarnhaol wedi'u cymryd ers hynny. Yn unol â chais y deisebwyr, cytunodd yr Aelodau i ailedrych ar y ddeiseb yn nhymor y gwanwyn, pan fydd mwy o gynnydd i'w weld.

 


Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1269 Peidiwch â gadael i’r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy’n marw yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn y cwestiynau dilynol ynghylch capasiti ac amserlenni a ddarparwyd gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1269 Peidiwch â gadael i’r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy’n marw yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog eto i ofyn am ymateb i’r cynigion a gyflwynwyd gan y deisebwyr yn eu hymateb i’r Pwyllgor.