Cyfarfodydd

Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Ynni adnewyddadwy yng Nghymru

NDM8102 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Ynni adnewyddadwy yng Nghymru', a osodwyd ar 26 Mai 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Gorffennaf 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.39

NDM8102 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Ynni adnewyddadwy yng Nghymru', a osodwyd ar 26 Mai 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Gorffennaf 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 22/09/2022 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 6)

6 Ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Ynni adnewyddadwy yng Nghymru - Gohiriwyd o 14 Medi - Tynnwyd yn ôl

Tynnwyd y cynnig yn ôl

Cofnodion:

Tynnwyd y cynnig yn ôl


Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 4)

4 Ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/05/2022 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 7)

7 Ynni adnewyddadwy yng Nghymru - trafod adroddiad drafft y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno.

 


Cyfarfod: 28/04/2022 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 9)

9 Ynni adnewyddadwy yng Nghymru – trafod adroddiad drafft y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Yn sgil diffyg amser, cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf ar 11 Mai.

 


Cyfarfod: 03/03/2022 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 6)

6 Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/03/2022 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 8)

Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3, 4 a 5.

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd o dan eitemau 2, 3, 4 a 5.

 


Cyfarfod: 03/03/2022 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 5)

5 Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru – Sesiwn dystiolaeth 4

Tom Glover, Cadeirydd Gwlad y DU – RWE Renewables UK Ltd

Dan McCallum, Cyfarwyddwr – Awel Aman Tawe ac Egni Co-op

Sarah Merrick, Prif Weithredwr – Ripple Energy

Jon O'Sullivan, Cyfarwyddwr, Gwynt a Solar ar y Tir – EDF Renewables UK

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr RWE Renewables UK Ltd, Awel Aman Tawe ac Egni Co-op, Ripple Energy, ac EDF Renewables UK.

 


Cyfarfod: 03/03/2022 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 4)

4 Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru – Sesiwn dystiolaeth 3

Huub den Rooijen, Rheolwr Gyfarwyddwr, Materion Morol – Ystâd y Goron

Olivia Thomas, Pennaeth Cynllunio Morol – Ystâd y Goron

Dr John Goold, Cyfarwyddwr, Tystiolaeth a Chyngor Morol – Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC)

Karema Randall, Cyd-Arweinydd y Tîm Rheoli Morol – Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Ystâd y Goron, a'r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur.

 


Cyfarfod: 03/03/2022 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 3)

3 Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru – Sesiwn dystiolaeth 2

Peter Bingham, Prif Beiriannydd a Dirprwy Gyfarwyddwr Sicrwydd a Dadansoddi – Ofgem

Graham Halladay, Cyfarwyddwr Gweithrediadau – Western Power Distribution

Liam O'Sullivan, Cyfarwyddwr SP Manweb – SP Energy Networks

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Ofgem, Western Power Distribution, a SP Energy Networks.

 


Cyfarfod: 03/03/2022 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 2)

2 Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru – Sesiwn dystiolaeth 1

Will Henson, Rheolwr Polisi a Materion Allanol – Sefydliad Materion Cymreig

Rhys Wyn Jones, Cyfarwyddwr – RenewableUK Cymru

Robert Proctor, Rheolwr Datblygu Busnes – Ynni Cymunedol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr y Sefydliad Materion Cymreig, RenewableUK Cymru ac Ynni Cymunedol Cymru.

2.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Jenny Rathbone AS ddatganiad o fuddiant perthnasol.