Cyfarfodydd

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/03/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 9 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar Alldro 2021-22 – 24 Chwefror 2023

Dogfennau ategol:

Cyfarfod: 11/05/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rhagor o wybodaeth am faterion a godwyd yn ystod y sesiwn ar yr ail gyllideb atodol - 23 Mawrth 2022

Dogfennau ategol:

Cyfarfod: 11/05/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 4 - Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyllid - 26 Ebrill 2022

Dogfennau ategol:

Cyfarfod: 15/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2021 i 2022

NDM7926 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 15 Chwefror 2022.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i)            y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii)          yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii)         cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv)         cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v)          cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi)         manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

25

0

52

Derbyniwyd y cynnig.

Cyfarfod: 11/03/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-09-22 P1 – Addrodiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol ar fân newidiadau.

Cyfarfod: 02/03/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 5)

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

Cyfarfod: 02/03/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)

3 Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol, Llywodraeth Cymru

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22

Papur Briffio gan Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid a Busnes y Llywodraeth ynghylch Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22.

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r eitemau a ganlyn i’r Pwyllgor:

·         Diweddariad ar y newidiadau i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22 sydd wedi’u cynnwys yn Amcangyfrifon Atodol y DU 2021-22, a’r effaith ar y cyllid sydd ar gael am weddill y flwyddyn.

·         Diweddariad ar y gorwariant ar wasanaethau gofal iechyd sydd wedi ei ddileu yn Lloegr, ac unrhyw symiau canlyniadol Barnett a gafodd Llywodraeth Cymru o ganlyniad.

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am y dyraniad cyllid ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y sector gwirfoddol, yn enwedig hosbisau a gofalwyr di-dâl.

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am y dyraniad cyllid ar gyfer y cwricwlwm newydd, yn enwedig amcanion penodol y cyllid hwn.

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am y dyraniad cyllid ar gyfer uwchraddio adeiladau ysgolion mewn perthynas â darparu prydau ysgol am ddim.

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am y gwerthusiad ffurfiol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ei chynlluniau cymorth busnes a gyflwynwyd yn ystod pandemig COVID-19.

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am waith modelu sy'n cael ei wneud mewn perthynas â bil cyflogau'r sector cyhoeddus yn y dyfodol.

Cyfarfod: 21/01/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 7)

7 Ceisiadau o ran Cyllideb Atodol 2021-22 gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol

FIN(6)-03-22 P3 – Papur blaen

FIN(6)-03-22 P4 – Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22

FIN(6)-03-22 P5 – Amcangyfrif Atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2021-22

FIN(6)-03-22 P6 – Amcangyfrif Atodol Archwilio Cymru ar gyfer 2021-22

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ceisiadau o ran cyllideb atodol gan gyrff a ariennir yn uniongyrchol.