Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/03/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Llythyr gan Weinidog yr Economi

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws)

NNDM7948 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2021 a 3 Mawrth 2022, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

 

Y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws) (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.12

NDM7941 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2022-23 fel a ganlyn:

a) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;

b) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt;

c) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 08/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws) - TYNNYWD YN ÔL

NDM7943 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws) (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Cyfarfod: 07/03/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rhenti Masnachol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Llywodraeth Cymru ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws).

 


Cyfarfod: 03/03/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/02/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 8)

8 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws).

Dogfennau ategol:

  • Nodyn Cyngor Cyfreithiol (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws). Yn ddiweddarach, mewn sesiwn breifat, cytunodd y Pwyllgor ar adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i'w gyhoeddi erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau, sef 10 Chwefror.


Cyfarfod: 31/01/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 15)

15 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws, a chytunodd arno.

 


Cyfarfod: 17/01/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 12)

12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws).

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws), a chytunodd i drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.