Cyfarfodydd
NDM7871 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/12/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru
NDM7871
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn cefnogi ymgyrch COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru ar gyfer
ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru i'r ffordd y mae Llywodraeth
Cymru wedi ymdrin â phandemig COVID-19.
2.
Yn croesawu galwadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ymchwiliad COVID-19
sy'n benodol i Gymru.
3.
Yn nodi y bydd ymchwiliad COVID-19 a arweinir gan farnwr yn cael ei sefydlu
erbyn diwedd y flwyddyn yn yr Alban.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i
bandemig COVID-19 yng Nghymru.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1. Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn nodi:
a)
cyfarfodydd Prif Weinidog Cymru ag aelodau grŵp COVID-19 Bereaved Families
for Justice Cymru;
b)
ymchwiliad ar draws y DU ynghylch y pandemig a fydd yn ystyried y
penderfyniadau a wnaed a’r camau a gafodd eu cymryd gan ac o fewn y pedair
gwlad;
c)
bydd ymchwiliad COVID-19 o dan arweiniad barnwr yn cael ei sefydlu erbyn diwedd
y flwyddyn yn yr Alban.
2.
Yn croesawu’r sicrwydd gan y Prif Weinidog y bydd ymchwiliad y DU yn cynnwys
sylw priodol i Gymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.25
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr
eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7871 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi ymgyrch COVID-19
Bereaved Families for Justice Cymru ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol
i Gymru i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phandemig
COVID-19.
2. Yn croesawu galwadau
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ymchwiliad COVID-19 sy'n benodol i Gymru.
3. Yn nodi y bydd ymchwiliad
COVID-19 a arweinir gan farnwr yn cael ei sefydlu erbyn diwedd y flwyddyn yn yr
Alban.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, fe
wnaeth y Llywydd arfer ei phleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig.
Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) cyfarfodydd Prif Weinidog Cymru ag aelodau grŵp
COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru;
b) ymchwiliad ar draws y DU ynghylch y pandemig a fydd yn
ystyried y penderfyniadau a wnaed a’r camau a gafodd eu cymryd gan ac o fewn y
pedair gwlad;
c) bydd ymchwiliad COVID-19 o dan arweiniad barnwr yn
cael ei sefydlu erbyn diwedd y flwyddyn yn yr Alban.
2. Yn croesawu’r sicrwydd gan y Prif Weinidog y bydd
ymchwiliad y DU yn cynnwys sylw priodol i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, fe
wnaeth y Llywydd arfer ei phleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn gwelliant 1.
Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod
y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.19 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.