Cyfarfodydd

P-06-1217 Agor canolfannau/clinigau meddygol un stop Covid Hir

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/04/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3.2)

3.2 P-06-1217 Agor canolfannau/clinigau meddygol un stop Covid Hir

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/01/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1217 Agor canolfannau / clinigau meddygol un stop Covid Hir

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd ei siom nad oedd cyfarfod rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a'r deisebydd wedi'i gynnal ac na chafwyd unrhyw gyswllt. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog yn mynegi siom y Pwyllgor ac yn gofyn am gysylltu â'r deisebydd cyn gynted â phosibl.

 

 


Cyfarfod: 21/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1217 Agor canolfannau / clinigau meddygol un stop Covid Hir

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor, er bod Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion llawer o bobl â COVID hir, ei bod yn amlwg nad yw’r gwasanaethau hyn yn briodol i bawb, fel y mae’r deisebydd wedi’i nodi. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog, gan awgrymu y gallai fod yn brofiad gwerthfawr i Lywodraeth Cymru pe bai’n cwrdd â’r deisebydd a chleifion eraill i wrando ar eu pryderon a’u hawgrymiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol creu cyswllt rhwng y deisebydd a’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Grŵp Trawsbleidiol ar COVID Hir.

 

 


Cyfarfod: 24/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1217 Agor canolfannau / clinigau meddygol un stop Covid Hir

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y bydd y Gweinidog yn adolygu’r gwasanaeth yn fuan a chytunodd i:

  • ysgrifennu eto at y Gweinidog yn gofyn sut mae’r ddarpariaeth hon yn y dyfodol yn cael ei llunio a’i hannog i gynnwys llais y claf yn y cynllun cyflawni; ac
  • amlygu’r ddeiseb i’r grŵp trawsbleidiol ar Covid hir.

 


Cyfarfod: 29/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1217 Agor canolfannau / clinigau meddygol un stop Covid Hir

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut mae gwasanaethau yng Nghymru yn diwallu canllawiau cyflym NICE ar reoli effeithiau tymor hir COVID-19, p'un a ydynt yn bwriadu cyflwyno clinigau COVID hir sy’n cael eu harwain yn feddygol, a sut y bydd y broses o rannu â gwledydd eraill a dysgu oddi wrthynt yn cael ei datblygu.