Cyfarfodydd

P-06-1212 Cyfraith Mark Allen - rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dwr agored yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor hanes y ddeiseb a nododd ganlyniad llwyddiannus y ddeiseb. Diolchodd yr Aelodau i Leeanne Bartley a’i theulu, a phawb sydd wedi ymgysylltu â’r ymchwiliad hwn, ac wedyn cytunodd i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 07/12/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi

NDM8157 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Cyfraith Mark Allen Diogelwch dŵr ac atal boddi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Awst 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.25

NDM8157 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Cyfraith Mark Allen Diogelwch dŵr ac atal boddi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Awst 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 21/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a llongyfarchodd y deisebydd Leanne Bartley, teulu Mark a phawb sydd wedi ymgyrchu’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth a gwella diogelwch dŵr.  Diolchodd y Cadeirydd i'r rhai a gyfrannodd at yr ymchwiliad i helpu i atal pobl eraill rhag profi colled drasig o'r fath.

 

Cydnabu’r Pwyllgor y cyd-destun ehangach a’r gwaith sy’n digwydd o ran gweithgareddau antur, a chroesawodd y Cadeirydd y gwahoddiad i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r Grŵp Trawsbleidiol ar y sector Gweithgareddau Awyr Agored yng Nghymru yn y dyfodol.

 

Cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr a bydd y Pwyllgor yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb ar ôl hyn.

 

 


Cyfarfod: 11/07/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

6 Adroddiad drafft - P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad gyda rhai newidiadau mân.

 


Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1212 Deddf Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith diweddar y mae’r Pwyllgor wedi’i wneud ar y ddeiseb. Bydd adroddiad drafft yn cael ei baratoi yn awr, a bydd gwybodaeth ysgrifenedig a gesglir ar hyn o bryd gan lawer o deuluoedd, hefyd yn cyfrannu ato. Cytunodd yr Aelodau y dylid cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn yn nhymor yr hydref.

 

Mynegodd yr Aelodau hefyd gofnod o’u diolch i'r holl deuluoedd sydd wedi bod yn ymwneud â'r gwaith ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 8)

Trafod y dystiolaeth - P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

Sesiwn Dystiolaeth (Panel 2) P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru

Nikki Kemmery, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch,

Dŵr Cymru

 

Paula Steer, Cyfarwyddwr Iechyd, Diogelwch a Llesiant a Gwasanaethau Ystadau, United Utilities

 

Dominic Robinson, Arweinydd Profiad Ymwelwyr, Severn Trent a Hafren Dyfrdwy

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nikki Kemmery, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch, Dŵr Cymru, Paula Steer, Cyfarwyddwr Iechyd, Diogelwch a Llesiant a Gwasanaethau Ystadau, United Utilities, a Dominic Robinson, Arweinydd Profiad Ymwelwyr, Severn Trent a Hafren Dyfrdwy.

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 Sesiwn Dystiolaeth (Panel 1) P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru

 

Chris Cousens, RNLI a Chadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru

 

Bleddyn Jones, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac

Aelod o Grŵp Llywio Diogelwch Dŵr Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru a Bleddyn Jones o wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac Aelod o Grŵp Llywio Diogelwch Dŵr Cymru.

 

 

 


Cyfarfod: 29/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i’r Pwyllgor ynghylch ei gyfarfod gyda'r deisebwyr.

 

Cytunodd y Pwyllgor i wneud gwaith mwy manwl ar y ddeiseb dan sylw, gan ganolbwyntio ar safleoedd dŵr a ariennir yn gyhoeddus. Cytunodd yr Aelodau i wahodd tystion i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor, gan gynnwys Diogelwch Dŵr Cymru, y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau, Cyfoeth Naturiol Cymru, a theuluoedd eraill sydd wedi dioddef colled drasig debyg.

 

Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r teulu am y dewrder y maent wedi’i ddangos wrth fynd i'r afael â'r mater hwn, ac am roi o’u hamser i gwrdd ag ef.