Cyfarfodydd

SL(6)055 - Rheoliadau'r Pwer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/10/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)

Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021

NDM7807 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 2021.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.40

NDM7807 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 11/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 2)

SL(6)055 - Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn drafft a derbyniodd ei adroddiad drafft.