Cyfarfodydd

P-06-1203 Peidiwch â chyflwyno pasbortau brechlyn COVID-19 ar gyfer lleoliadau manwerthu a lletygarwch neu leoliadau eraill

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1203 Peidiwch â chyflwyno pasbortau brechlyn COVID-19 ar gyfer lleoliadau manwerthu a lletygarwch neu leoliadau eraill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O ystyried bod y mater hwn wedi cael ei drafod a'i gymeradwyo yn y Senedd, a'i fod ar waith ers hynny, nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 


Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1203 Peidiwch â chyflwyno pasbortau brechlyn COVID-19 ar gyfer lleoliadau manwerthu a lletygarwch neu leoliadau eraill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y byddai'r mater hwn yn cael ei drafod ac yn destun pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Hydref 2021. Felly, cytunodd yr Aelodau i aros am ganlyniad y Cyfarfod Llawn hwnnw, gan gytuno i gyflwyno'r ddeiseb yn ôl i'w thrafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor, yn dilyn y sesiwn honno yn y Cyfarfod Llawn.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i hysbysu'r deisebydd am ganlyniad y bleidlais a gynhaliwyd yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 5 Hydref 2021.