Cyfarfodydd

Pwyllgor y Llywydd - Gweithdrefnau’r pwyllgor a’i ffyrdd o weithio

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/10/2021 - Pwyllgor y Llywydd (Eitem 6)

Sesiwn friffio technegol: Swyddogaethau Pwyllgor y Llywydd a'i gefndir deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd aelodau’r Pwyllgor friff technegol ar swyddogaethau a chefndir deddfwriaethol y Pwyllgor.


Cyfarfod: 11/10/2021 - Pwyllgor y Llywydd (Eitem 3)

3 Datganiad o Egwyddorion y Pwyllgor Cyllid ar gyfer cyrff a ariennir yn uniongyrchol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ystyriodd y Pwyllgor ddatganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid, a nodwyd ei fod wedi'i fabwysiadu gan Bwyllgor y Llywydd y Bumed Senedd.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i fabwysiadu datganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid a gofynnodd fod y Comisiwn Etholiadol yn rhoi sylw iddo wrth baratoi ei gynigion cyllidebol.

 


Cyfarfod: 11/10/2021 - Pwyllgor y Llywydd (Eitem 2)

Gweithdrefnau'r Pwyllgor a'i ffyrdd o weithio

Cofnodion:

2.1 Nid yw’r Rheolau Sefydlog yn galluogi Pwyllgor y Llywydd i ethol Cadeirydd dros dro, felly cytunodd y Pwyllgor, pe bai'r Cadeirydd yn profi anawsterau technegol yn ystod y cyfarfod, y byddai Peredur Owen Griffiths AS yn arwain y trafodaethau yn ei absenoldeb.