Cyfarfodydd

NDM7782 Dadl: Defnyddio Adolygiad Llywodraeth y DU o Wariant i fynd i’r afael â diogelwch tomenni glo yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/09/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Dadl: Defnyddio Adolygiad Llywodraeth y DU o Wariant i fynd i’r afael â diogelwch tomenni glo yng Nghymru

NDM7782 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau o ran cymeradwyo rhaglen gyllid ar gyfer adfer ac adennill tomenni glo yng Nghymru a’u haddasu at ddibenion gwahanol.

Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:

Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu 'Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau' a rhoi 'Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyflawni eu cyfrifoldebau' yn ei le.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.14

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7782 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau o ran cymeradwyo rhaglen gyllid ar gyfer adfer ac adennill tomenni glo yng Nghymru a’u haddasu at ddibenion gwahanol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu 'Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau' a rhoi 'Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyflawni eu cyfrifoldebau' yn ei le.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

39

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM7782 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau o ran cymeradwyo rhaglen gyllid ar gyfer adfer ac adennill tomenni glo yng Nghymru a’u haddasu at ddibenion gwahanol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

14

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.