Cyfarfodydd
NDM7779 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Amseroedd ymateb ambiwlansys
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/09/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 22/09/2021 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 22/09/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Amseroedd ymateb ambiwlansys
NDM7779 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch
wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o wyth munud ym mis Gorffennaf 2021.
2. Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol y mae Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru oddi tano gydag amseroedd trosglwyddo gofal cynyddol o hyd at
18 awr.
3. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru mewn amgylchiadau mor heriol.
4. Yn cydnabod y pwysau mewn gofal cymdeithasol a
sylfaenol a'r sgil-effeithiau ar y gwasanaeth ambiwlans.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datgan argyfwng yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru.
b) cyflwyno cynllun cynhwysfawr i wella amseroedd ymateb
ambiwlansys, gan gynnwys camau i:
i) sicrhau gweithlu gofal cymdeithasol digonol;
ii) gwella mynediad i apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb
yn wyneb; a
iii) cynyddu capasiti gwelyau mewn ysbytai.
c) nodi cynllun ac amserlen glir ar gyfer codi cyflog
gweithwyr gofal ledled Cymru.
d) ystyried defnyddio cefnogaeth Lluoedd Arfog Ei
Mawrhydi i helpu i gynyddu capasiti ymateb ambiwlansys.
e) ymdrechu'n galetach i recriwtio parafeddygon yn
gyflym.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu’r
cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig
bod y Senedd:
1. Yn nodi, yng nghyd-destun lefelau digynsail
o alw, fod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch wedi cyrraedd targed
Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2021.
2. Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol ar yr
holl wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru gan gynnwys Gwasanaeth Ambiwlans
Cymru a’r ystod o heriau cenedlaethol a lleol sy’n effeithio ar lif cleifion.
3. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a holl staff gwasanaethau iechyd a gofal mewn
amgylchiadau mor heriol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod y camau a nodir yng nghynllun
cyflawni Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cael eu cyflawni’n gyflym ac
yn bwrpasol;
b)
cefnogi ystod o fentrau i helpu i recriwtio a chadw staff yn y sector gofal
cymdeithasol a rhoi cymorth i gyflogwyr gofal cymdeithasol;
c)
gwella mynediad i apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb pan yn glinigol
briodol;
d)
gwireddu ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i dalu’r cyflog byw
gwirioneddol i weithwyr gofal;
e)
parhau i gydweithio â Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi i helpu i gynyddu capasiti
ymateb ambiwlansys; a
f)
ymdrechu'n galetach i recriwtio clinigwyr ambiwlans yn gyflym.
Os derbynnir gwelliant 1, fe fydd gwelliant 2 yn
cael ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 – Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu
is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5
Integreiddio
gwasanaethau iechyd a gofal yn wirioneddol ar lefel genedlaethol
Hyfforddi
a recriwtio 6,000 o staff ychwanegol i'r GIG, gan gynnwys meddygon, nyrsys a
gweithwyr proffesiynol perthynol eraill ym maes iechyd
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.49
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7779 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch wedi
cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o wyth munud ym mis Gorffennaf 2021.
2. Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
oddi tano gydag amseroedd trosglwyddo gofal cynyddol o hyd at 18 awr.
3. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
mewn amgylchiadau mor heriol.
4. Yn cydnabod y pwysau mewn gofal cymdeithasol a sylfaenol a'r
sgil-effeithiau ar y gwasanaeth ambiwlans.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datgan argyfwng yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru.
b) cyflwyno cynllun cynhwysfawr i wella amseroedd ymateb ambiwlansys, gan
gynnwys camau i:
i) sicrhau gweithlu gofal cymdeithasol digonol;
ii) gwella mynediad i apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb; a
iii) cynyddu capasiti gwelyau mewn ysbytai.
c) nodi cynllun ac amserlen glir ar gyfer codi cyflog gweithwyr gofal ledled
Cymru.
d) ystyried defnyddio cefnogaeth Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi i helpu i
gynyddu capasiti ymateb ambiwlansys.
e) ymdrechu'n galetach i recriwtio parafeddygon yn gyflym.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
34 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu’r cyfan a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi, yng nghyd-destun lefelau digynsail
o alw, fod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch wedi cyrraedd targed
Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2021.
2. Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol ar yr
holl wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru gan gynnwys Gwasanaeth Ambiwlans
Cymru a’r ystod o heriau cenedlaethol a lleol sy’n effeithio ar lif cleifion.
3. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a holl staff gwasanaethau iechyd a gofal mewn
amgylchiadau mor heriol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod y camau a nodir yng nghynllun
cyflawni Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cael eu cyflawni’n gyflym ac
yn bwrpasol;
b) cefnogi ystod o
fentrau i helpu i recriwtio a chadw staff yn y sector gofal cymdeithasol a rhoi
cymorth i gyflogwyr gofal cymdeithasol;
c) gwella mynediad i
apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb pan yn glinigol briodol;
d) gwireddu ei
hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr
gofal;
e) parhau i gydweithio â
Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi i helpu i gynyddu capasiti ymateb ambiwlansys; a
f) ymdrechu'n galetach i
recriwtio clinigwyr ambiwlans yn gyflym.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
22 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel wedi’i ddiwygio:
NDM7779
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi, yng nghyd-destun lefelau digynsail
o alw, fod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch wedi cyrraedd targed
Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2021.
2. Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol ar yr
holl wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru gan gynnwys Gwasanaeth Ambiwlans
Cymru a’r ystod o heriau cenedlaethol a lleol sy’n effeithio ar lif cleifion.
3. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a holl staff gwasanaethau iechyd a gofal mewn
amgylchiadau mor heriol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod y camau a nodir yng nghynllun
cyflawni Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cael eu cyflawni’n gyflym ac
yn bwrpasol;
b) cefnogi ystod o
fentrau i helpu i recriwtio a chadw staff yn y sector gofal cymdeithasol a rhoi
cymorth i gyflogwyr gofal cymdeithasol;
c) gwella mynediad i
apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb pan yn glinigol briodol;
d) gwireddu ei
hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr
gofal;
e) parhau i gydweithio â
Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi i helpu i gynyddu capasiti ymateb ambiwlansys; a
f) ymdrechu'n galetach i
recriwtio clinigwyr ambiwlans yn gyflym.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
10 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig fel wedi’i ddiwygio.