Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Etholiadau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/05/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 7)

7 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn ymwneud â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Etholiadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.6.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn ymwneud â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Etholiadau.

 


Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 8)

8 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Memorandwm Cysyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Etholiadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 


Cyfarfod: 30/03/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Etholiadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Etholiadau.

 


Cyfarfod: 29/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 14)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau

NDM7968 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Etholiadau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2021 a 22 Mawrth 2022, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Etholiadau

Dogfen Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.22

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7968 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Etholiadau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2021 a 22 Mawrth 2022, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Etholiadau

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

12

50

Derbyniwyd y cynnig.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.49 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

 


Cyfarfod: 28/03/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Etholiadau – Trafod y nodyn cyngor cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Llywodraeth Cymru ar y Bil Etholiadau. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a’r llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ynglŷn â’r memorandwm atodol.

 

Nododd y Pwyllgor fod dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil wedi’i threfnu ar gyfer 29 Mawrth 2022. Cytunodd y Pwyllgor na fyddai’n cyflwyno adroddiad ar y memorandwm atodol yn sgil y terfyn amser tynn ar gyfer gwneud hynny.


Cyfarfod: 09/03/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch LCM y Bil Etholiadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch LCM y Bil Etholiadau.

 


Cyfarfod: 28/02/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 8)

8 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 11)

11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Etholiadau – Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Etholiadau a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y terfyn amser gofynnol.

 


Cyfarfod: 03/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Llywydd at y Gweinidog Gwladol dros Godi'r Gwastad a Chydraddoldeb, Llywodraeth y DU, ynghylch y Bil Etholiadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Llywydd at y Gweinidog Gwladol dros Godi'r Gwastad a Chydraddoldeb, Llywodraeth y DU, ynghylch y Bil Etholiadau

 


Cyfarfod: 03/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 4)

4 Trafod yr adroddiad drafft ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau cyn cytuno arno.

 


Cyfarfod: 03/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau

 


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Bwyllgor y Llywydd: Bil Etholiadau

LJC(6)-11-21 - Papur 8 - Llythyr gan Bwyllgor y Llywydd i’r Gweinidog Gwladol dros Godi’r Gwastad a Chydraddoldeb, 18 Hydref 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Bwyllgor y Llywydd.

 


Cyfarfod: 18/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – y Bil Etholiadau

 

LJC(6)-10-21 – Papur 12 – Nodyn cyngor cyfreithiol

LJC(6)-10-21 – Papur 13 – Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

LJC(6)-10-21 – Papur 14 – Papur briffio gan y Comisiwn Etholiadol: Bil Etholiadau Llywodraeth y DU – yr effaith ar etholiadau yng Nghymru

LJC(6)-10-21 – Papur 15 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, 12 Hydref 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Etholiadau, a chytunodd i drafod ei adroddiad ar y Memorandwm mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 11/10/2021 - Pwyllgor y Llywydd (Eitem 7)

Trafod gohebiaeth ynghylch Bil Etholiadau Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr gan Chloe Smith AS, Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros y Cyfansoddiad a Datganoli ar y pryd yn gofyn barn y Llywydd ynghylch Bil Etholiadau Llywodraeth y DU.

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ymateb i'r llythyr ac anfon copi at Weinidogion perthnasol Cymru a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar gyfer eu hystyriaeth o’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.


Cyfarfod: 06/10/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.