Cyfarfodydd

NDM7771 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mynediad at ddiffibrilwyr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/09/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mynediad at ddiffibrilwyr

NDM7771 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai dim ond 1 o bob 10 o bobl sy'n goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty.

2. Yn nodi ymhellach bod pob munud nad oes gan glaf fynediad at ddiffibriliwr neu adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn golygu bod eu siawns o oroesi yn gostwng 10 y cant.

3. Yn cydnabod y bydd rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn achub bywydau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid grant neu fenthyciadau i alluogi neuaddau cymunedol, meysydd chwaraeon a siopau annibynnol i brynu a gosod diffibriliwr.

Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 4 a rhoi pwyntiau newydd yn ei le:

4.  Yn cydnabod y cyllid gwerth £2.5 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Achub Bywydau Cymru i wella ymwybyddiaeth a mynediad at CPR a diffibrilwyr.

5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ychwanegu £500,000 eleni at y cymorth hwn i gynyddu ymhellach nifer y diffibrilwyr mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.32

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

DM7771 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai dim ond 1 o bob 10 o bobl sy'n goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty.

2. Yn nodi ymhellach bod pob munud nad oes gan glaf fynediad i ddiffibriliwr neu adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn golygu bod eu siawns o oroesi yn gostwng 10 y cant.

3. Yn cydnabod y bydd rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn achub bywydau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid grant neu fenthyciadau i alluogi neuaddau cymunedol, meysydd chwaraeon a siopau annibynnol i brynu a gosod diffibriliwr.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 4 a rhoi pwyntiau newydd yn ei le:

4.  Yn cydnabod y cyllid gwerth £2.5 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Achub Bywydau Cymru i wella ymwybyddiaeth a mynediad at CPR a diffibrilwyr.

5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ychwanegu £500,000 eleni at y cymorth hwn i gynyddu ymhellach nifer y diffibrilwyr mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

12

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

DM7771 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai dim ond 1 o bob 10 o bobl sy'n goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty.

2. Yn nodi ymhellach bod pob munud nad oes gan glaf fynediad i ddiffibriliwr neu adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn golygu bod eu siawns o oroesi yn gostwng 10 y cant.

3. Yn cydnabod y bydd rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn achub bywydau.

4.  Yn cydnabod y cyllid gwerth £2.5 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Achub Bywydau Cymru i wella ymwybyddiaeth a mynediad at CPR a diffibrilwyr.

5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ychwanegu £500,000 eleni at y cymorth hwn i gynyddu ymhellach nifer y diffibrilwyr mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

11

0

54

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.