Cyfarfodydd
P-06-1192 Dylid sicrhau bod graddau asesu canolfannau yn cyfrannu at y graddau TGAU a Safon Uwch terfynol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
2 P-06-1192 Dylid sicrhau bod graddau asesu canolfannau yn cyfrannu at y graddau TGAU a Safon Uwch terfynol
Dogfennau ategol:
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 89 KB
- Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, 20 Medi 2021, Eitem 2 PDF 223 KB
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor yr anawsterau y mae cyrff cymwysterau
yn eu hwynebu wrth lunio eu cynlluniau asesu yn ystod pandemig - a'r effaith
enfawr y mae hyn yn ei chael ar fyfyrwyr ac athrawon mewn cyfnod pan maent
eisoes dan lawer o bwysau. Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor, gan fod addysg a
dysgu mewn ysgolion yn dychwelyd i'r arfer, i ddiolch i'r deisebydd – gan
ddymuno'n dda iddo yn ei astudiaethau - a chau’r ddeiseb.