Cyfarfodydd
P-06-1190 Gwahardd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth ac unrhyw ddeunydd tyfu erbyn 2023
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)
5 P-06-1190 Gwahardd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth ac unrhyw ddeunydd tyfu erbyn 2023
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Adran yr
Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wrthi’n ymgynghori ynghylch y mater.
Cytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa ac ailystyried y ddeiseb pan fydd
Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r casgliadau.
Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)
2 P-06-1190 Gwahardd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth ac unrhyw ddeunydd tyfu erbyn 2023
Dogfennau ategol:
- Briff Ymchwil, Eitem 2
PDF 115 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, 21 Medi 2021, Eitem 2
PDF 307 KB
- Gohebiaeth gan y deisebydd, 28 Medi 2021 [Saesneg yn unig], Eitem 2
PDF 342 KB Gweld fel HTML (2/3) 4 KB
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog Materion Gwledig a
Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn gweithio ar ymgynghoriad ynghylch y mater hwn ac
anogodd y deisebydd a'r cefnogwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pan gaiff ei
gynnal. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gadw golwg ar y mater a dod yn ôl ato pan
fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben.