Cyfarfodydd

Materion sy'n ymwneud â datganoli - Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/01/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Gohebiaeth â Llywodraeth y Deyrnas Unedig: Defnyddio pwerau o dan Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ei ohebiaeth â Llywodraeth y DU a’i hymateb. 


Cyfarfod: 10/07/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 14)

14 Ymchwiliad Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin i Allu Datganoli yn Whitehall: Galw am dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei dystiolaeth ddrafft i ymchwiliad Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷr Cyffredin i Allu Datganoli yn Whitehall.


Cyfarfod: 19/06/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 13)

Ystyried ymchwiliad Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin i Allu Datganoli yn Whitehall

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ymchwiliad Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷr Cyffredin i Allu Datganoli yn Whitehall. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried ei gyflwyniad drafft i’r ymchwiliad mewn cyfarfod yn y dyfodol.


Cyfarfod: 26/09/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Gohebiaeth gan Bwyllgor Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant Senedd yr Alban: Effaith Brexit ar Ddatganoli

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant.


Cyfarfod: 26/09/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau: Cysylltiadau rhynglywodraethol: cynigion ar gyfer Biliau’r DU i ddeddfu mewn meysydd datganoledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i ymateb i'r Ysgrifennydd Gwladol a oedd newydd ei benodi.


Cyfarfod: 16/06/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 1)

Ymweliad â San Steffan - gwaith rhyngseneddol gyda phwyllgorau cyfatebol

Cofnodion:

Cyfarfu’r Pwyllgor â’r pwyllgorau cyfatebol a ganlyn yn Senedd y DU fel rhan o’i waith rhyngseneddol:

·         Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷr Cyffredin;

·         Pwyllgor Materion Cymreig Tŷr Cyffredin;

·         Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷr Arglwyddi;

·         Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi;

·         Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi;

·         Pwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi; a

·         Phwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷr Arglwyddi.


Cyfarfod: 06/06/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 3)

3 Gohebiaeth â'r Llywydd a'r Gwir Anrhydeddus Syr Oliver Heald QC AS: cyfarfod cyntaf Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU-UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Llywydd ac Arweinydd a Chyd-gadeirydd Dirprwyaeth y DU i Gynulliad Partneriaeth Seneddol y DU-UE.

 

 


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 5)

5 Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi: Ymweliad y Pwyllgor Cyfansoddiad â Senedd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷr Arglwyddi.

 


Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 6)

6 Gohebiaeth mewn perthynas â Chynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE

LJC(6)-05-21 – Papur 77a – Llythyr at yr Arglwydd Kinnoull, Cadeirydd Pwyllgor Undeb Ewropeaidd, Tŷ'r Arglwyddi, 25 Awst 2021

LJC(6)-05-21 – Papur 77b – Llythyr at yr Arglwydd Kinnoull, Cadeirydd Pwyllgor Undeb Ewropeaidd, Tŷ'r Arglwyddi, 16 Gorffennaf 2021

LJC(6)-05-21 – Papur 77c – Llythyr at Syr Oliver Heald AS, 16 Gorffennaf 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth mewn perthynas â Chynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE