Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch Adeiladau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 8)

8 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

 


Cyfarfod: 29/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 13)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

NNDM7973 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diogelwch Adeiladau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Gorffennaf 2021 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Medi 2021, 20 Ionawr 2022, 22 Chwefror 2022 a 25 Mawrth 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Diogelwch Adeiladau (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai  (Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Rhif 2)
Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Memorandwm Rhif 3 a Rhif 4)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Rhif 2)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 3 a Rhif 4)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.41

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NNDM7973 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diogelwch Adeiladau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Gorffennaf 2021 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Medi 202120 Ionawr 202222 Chwefror 2022 a 25 Mawrth 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Diogelwch Adeiladau (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 3 a Rhif 4)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

11

50

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 28/03/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 14)

14 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a chytunodd na fyddai’n cyflwyno adroddiad arno yn sgil y terfyn amser tynn ar gyfer gwneud hynny.


Cyfarfod: 28/03/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.


Cyfarfod: 14/03/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 11)

11 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau – trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 


Cyfarfod: 09/03/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 8)

8 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 4) ar gyfer y Bil Diogelwch Adeiladau.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1. Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau.

 


Cyfarfod: 09/03/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 9)

9 Trafod yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) a chytunodd i ddiwygio’r adroddiad yn seiliedig ar ei drafodaethau o dan eitem 8.

 


Cyfarfod: 07/03/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 6)

6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau - trafod y nodyn cyngor cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a chytunwyd i drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 14/02/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 12)

12 Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (Memorandwm Rhif 3) - trafod y nodyn cyngor cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a chytunodd i drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 09/02/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 6)

6 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Diogelwch Adeiladau.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1. Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau.

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, i’w adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau.

 


Cyfarfod: 06/12/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 13)

13 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau - trafod yr adroddiad drafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a chytunodd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 


Cyfarfod: 01/12/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 6)

6 Llythyr gan Rhys ab Owen AS ynghylch cladin a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Rhys ab Owen AS ynghylch cladin a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a chytunodd i ymateb.

 


Cyfarfod: 01/12/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 8)

8 Trafod yr adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a thrafod newidiadau i'w gwneud.

 


Cyfarfod: 29/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau – Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diogelwch Adeiladau. Cytunodd y Pwyllgor i drafod adroddiad drafft diwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 17/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 3)

3 Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diogelwch Adeiladau - sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd.

Julie James MS, Minister for Climate Change

Anna Hind, Government Lawyer, Welsh Government

Francois Samuel, Head of Building Regulations Policy, Welsh Government

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

·         Anna Hind, Cyfreithiwr y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru

·         Francois Samuel, Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 17/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 7)

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diogelwch Adeiladau

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3, er mwyn llywio ei adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 03/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 5)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau, yn ogystal â llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a chytunodd i wahodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i ddod i sesiwn yn gysylltiedig â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 03/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

 


Cyfarfod: 03/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau, cyn ei drafod mewn rhagor o fanylder o dan eitem 5 yn ystod y cyfarfod hwn.

 


Cyfarfod: 03/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

 


Cyfarfod: 18/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

LJC(6)-10-21 – Papur 7 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 13 Hydref 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Gweinidog Newid Hinsawdd. Nododd y Pwyllgor y byddai'n derbyn tystiolaeth gan y Gweinidog mewn perthynas â'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladu a'r Bil Diwygio Prydles (Rhent Tir) ar 15 Tachwedd 2021.

 


Cyfarfod: 11/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 12)

12 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladu a chytunodd i wahodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i roi tystiolaeth mewn perthynas â’r Memoranda, ac mewn perthynas â’r Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).

 


Cyfarfod: 06/10/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 1)

1 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydynsiad Deddfwriaethol a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn am wybodaeth bellach. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.