Cyfarfodydd

Goruchwylio gwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/06/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 Papur i’w nodi 1 - Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Caniatâd i apelio yn erbyn penderfyniad gan Banel Dyfarnu Cymru - 22 Mehefin 2023

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 22/09/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 8 - Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Gwaith ynghylch Safonau Cwynion - 7 Medi 2022

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/05/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 13 - Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Tueddiadau o ran gwaith achos ac arferion ymdrin â chwynion awdurdodau lleol - 8 Mawrth 2022

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/01/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

NDM7893 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn mynegi ei diolchgarwch am gyfraniad Nick Bennett yn ystod ei dymor yn swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 10.5 a, gan weithredu o dan baragraff 1 i Atodlen 1 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, yn enwebu Michelle Morris i’w phenodi i swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan Ei Mawrhydi am dymor o saith mlynedd i ddechrau ar 1 Ebrill 2022.

Dogfen ategol:
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.10

NDM7893 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn mynegi ei diolchgarwch am gyfraniad Nick Bennett yn ystod ei dymor yn swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 10.5 a, gan weithredu o dan baragraff 1 i Atodlen 1 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, yn enwebu Michelle Morris i’w phenodi i swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan Ei Mawrhydi am dymor o saith mlynedd i ddechrau ar 1 Ebrill 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 14/01/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 8)

8 Enwebu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-01-22 P5 – Adroddiad drafft

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad.


Cyfarfod: 16/12/2021 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)

3 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Gwrandawiad cyn enwebu.

Michelle Morris, ymgeisydd dewisol o ran swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

 

Papurau ategol:

FIN(6)-12-21 P1 - Curriculum Vitae ar gyfer Michelle Morris

Papur Briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor Wrandawiad Cyn-enwebu ynghylch yr ymgeisydd a ffefrir ar gyfer swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Michelle Morris.


Cyfarfod: 16/12/2021 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 5)

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Trafod y gwrandawiad cyn enwebu.

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor addasrwydd yr ymgeisydd a ffefrir.


Cyfarfod: 10/11/2021 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 8)

8 Goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Telerau ac Amodau penodi’r Ombwdsmon

Dogfennau ategol:

 

FIN(6)-09-21 P8 Telerau ac Amodau'r Ombwdsmon newydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur.

 


Cyfarfod: 15/09/2021 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)

3 Arolygu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Ystyried trefniadau tâl

Papurau ategol:

FIN(6)-04-21 P2 – Trefniadau cydnabyddiaeth ariannol OGCC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y trefniadau tâl ar gyfer recriwtio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru nesaf a chytunwyd arnynt.

 


Cyfarfod: 14/07/2021 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 Penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Dull Recriwtio

Papurau ategol:

FIN(6)-03-21 P1 - Penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar y dull ar gyfer recriwtio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.