Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/09/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Cyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - 5 Gorffennaf 2023: Sesiwn graffu ar y cyd gyda Gweinidogion ar addysg a sgiliau ôl-16

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 24/01/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 6)

6 Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg

 


Cyfarfod: 20/01/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at y Gwir Anrhydeddus Nadhim Zahawi AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/01/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 6)

6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/01/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

NDM7876 - Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2021 a gosodwyd dau Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2021 a 10 Rhagfyr 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. 

Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 3)

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.55

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7876 - Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2021 a gosodwyd dau Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2021 a 10 Rhagfyr 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. 

Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

12

56

Derbyniwyd y cynnig.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.12 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16. Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad drafft ar y Memorandwm, a chytunodd arno, a nododd y byddai'r adroddiad yn cael ei osod cyn 5pm.

 


Cyfarfod: 13/12/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 9)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 – trafod yr adroddiad drafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor newidiadau i'r adroddiad drafft. O ganlyniad i amserlenni ar gyfer adrodd, cytunodd yr Aelodau i ystyried y diwygiadau terfynol yn electronig. Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei osod erbyn 16 Rhagfyr.

 


Cyfarfod: 02/12/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/12/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 9)

9 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/12/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

 


Cyfarfod: 25/11/2021 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.


Cyfarfod: 22/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 - trafod yr adroddiad drafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 


Cyfarfod: 18/11/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 11)

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol.

11.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o eglurhad.

 


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 8)

8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, gan drafod y prif faterion i’w cynnwys yn ei adroddiad. Cafodd adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei drafod ar 11 Hydref 2021 ond nid yw wedi'i osod eto. Nododd y Pwyllgor y câi’r adroddiad hwnnw ei ddiwygio i gyfeirio at y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol. Cytunodd y Pwyllgor i drafod drafft diwygiedig o'r adroddiad yn ei gyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 04/11/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 2)

2 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/11/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 2)

2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 a Bil yr Amgylchedd; a'r wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 70

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:

  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar bob Memorandwm ar y Bil hwn ar 16 Rhagfyr 2021;
  • peidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar Fil yr Amgylchedd ar gyfer craffu gan bwyllgorau;
  • nodi'r ddadl ar 2 Tachwedd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd; a
  • nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

 


Cyfarfod: 02/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 73

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a'r penderfyniad a wnaed o ran y dyddiad cau ar gyfer adrodd fel rhan o'r eitem flaenorol.

 

 


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 12)

12 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

LJC(6)-11-21 – Papur 23 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc Addysg, 29 Hydref 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Nododd y Pwyllgor hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 ar 29 Hydref 2021.

 


Cyfarfod: 11/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 - trafod yr adroddiad drafft

LJC(6)-09-21 – Papur 21 – Adroddiad drafft

LJC(6)-09-21 – Papur 22 Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 1 Hydref 2021

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, a chytunodd i gwblhau'r adroddiad y tu allan i’r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 


Cyfarfod: 07/10/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 1)

1 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Oherwydd yr amserlenni adrodd, cytunodd yr Aelodau i drafod y gwelliannau terfynol yn electronig.

 


Cyfarfod: 07/10/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 7)

7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/10/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 7)

7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

 

LJC(6)-08-21 – Papur 14 – Nodyn cyngor cyfreithiol

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 23/09/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 4)

Ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Cytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg i gael rhagor o wybodaeth.

 

4.2 Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod ar 7 Hydref.