Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Asiantaeth Ymchwil A Dyfeisio Blaengar

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/12/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar

NDM7857 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2021 a 24 Tachwedd 2021, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar (Saesneg yn unig)

Dogfen Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Hydref 2021)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Tachwedd 2021)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.16

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7857 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2021 a 24 Tachwedd 2021, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

11

51

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 06/12/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 12)

12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a chytunodd arno, ac y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn 5pm.

 


Cyfarfod: 30/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a'r wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y cyfnod eithriadol o dynn ar gyfer craffu a chytunodd, o ystyried nad oedd pwyllgorau'n debygol o allu bodloni'r terfyn amser adrodd o 2 Rhagfyr a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, y byddai'n bosibl gosod adroddiadau pwyllgorau ar unrhyw adeg cyn cynnal dadl y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr.

 

Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau o 9 Rhagfyr ar gyfer cyflwyno adroddiad arno. Nododd y Rheolwyr Busnes y cyfnod cywasgedig ar gyfer craffu.

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru.

 

 

 


Cyfarfod: 29/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a’r prif bwyntiau y dylid eu cynnwys yn ei adroddiad. Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 25/11/2021 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Llythyr gan Weinidog yr Economi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.


Cyfarfod: 18/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 6)

6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar - trafod yr adroddiad drafft

LJC(6)-10-21 – Papur 8 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor fersiwn ddiwygiedig o’i adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 


Cyfarfod: 11/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar - trafod yr adroddiad drafft

LJC(6)-09-21 – Papur 20 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth a Dyfeisio Blaengar a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 


Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 6)

6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar

 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar

 

LJC(6)-08-21 – Papur 13 – Nodyn cyngor cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 30/09/2021 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 10)

10 Trafod Adroddiad Drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar

Dogfennau ategol:

  • Adroddiad drafft (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft ac i ysgrifennu at y Gweinidog ynglŷn â’i gais am ragor o wybodaeth, fel y nodwyd yn yr adroddiad.


Cyfarfod: 30/09/2021 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 7)

7 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar

Dogfennau ategol:

  • Nodyn Cyngor Cyfreithiol
  • Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.


Cyfarfod: 13/07/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 a'r wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 40

Cofnodion:

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 a'r wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol, a chytunodd i gyfeirio'r Memorandwm ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 21 Hydref 2021.

 

Cytunodd y pwyllgor hefyd i gyfeirio’r Memorandwm ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 21 Hydref 2021.