Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Asiantaeth Ymchwil A Dyfeisio Blaengar
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/12/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar
NDM7857 - Vaughan Gething (De
Caerdydd a Phenarth)
Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau ym Mil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2021
a 24 Tachwedd
2021, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil yr Asiantaeth Ymchwil a
Dyfeisio Blaengar (Saesneg yn unig)
Dogfen Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Hydref 2021)
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Tachwedd 2021)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.16
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7857 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau ym Mil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2021 a 24 Tachwedd 2021, yn y drefn honno, yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil yr Asiantaeth
Ymchwil a Dyfeisio Blaengar (Saesneg yn
unig)
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
11 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 06/12/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 12)
12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar - trafod yr adroddiad drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5 , View reasons restricted (12/1)
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar Fil yr
Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a chytunodd arno, ac y byddai’r
adroddiad yn cael ei osod erbyn 5pm.
Cyfarfod: 30/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a'r wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol (Rhif 2) ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar at Bwyllgor yr
Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Nododd y Rheolwyr Busnes y cyfnod eithriadol o dynn ar gyfer craffu a
chytunodd, o ystyried nad oedd pwyllgorau'n debygol o allu bodloni'r terfyn
amser adrodd o 2 Rhagfyr a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, y byddai'n bosibl
gosod adroddiadau pwyllgorau ar unrhyw adeg cyn cynnal dadl y Cyfarfod Llawn ar
7 Rhagfyr.
Bil Diwygio
Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) at y Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
gyda dyddiad cau o 9 Rhagfyr ar gyfer cyflwyno adroddiad arno. Nododd y
Rheolwyr Busnes y cyfnod cywasgedig ar gyfer craffu.
Y wybodaeth
ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Nododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru.
Cyfarfod: 29/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 10)
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12 , View reasons restricted (10/1)
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a’r
prif bwyntiau y dylid eu cynnwys yn ei adroddiad. Cytunodd y Pwyllgor i drafod
ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 25/11/2021 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)
2 Llythyr gan Weinidog yr Economi
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.3.1 Nododd y Pwyllgor y
llythyr.
Cyfarfod: 18/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 6)
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar - trafod yr adroddiad drafft
LJC(6)-10-21 –
Papur 8 – Adroddiad
drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20 , View reasons restricted (6/1)
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor fersiwn ddiwygiedig o’i adroddiad ar
Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil
a Dyfeisio Blaengar, a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad
yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.
Cyfarfod: 11/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar - trafod yr adroddiad drafft
LJC(6)-09-21 –
Papur 20 – Adroddiad
drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24 , View reasons restricted (9/1)
Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth a Dyfeisio Blaengar a chytunodd
arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn
cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.
Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 6)
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar
LJC(6)-08-21 –
Papur 13 – Nodyn cyngor
cyfreithiol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28 , View reasons restricted (6/1)
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Llywodraeth Cymru ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a chytunodd
i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 30/09/2021 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 7)
7 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar
Dogfennau ategol:
- Nodyn Cyngor Cyfreithiol
- Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil
Cofnodion:
7.1 Trafododd y Pwyllgor y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
Cyfarfod: 30/09/2021 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 10)
10 Trafod Adroddiad Drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar
Dogfennau ategol:
- Adroddiad drafft (Saesneg yn unig)
Cofnodion:
10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar
yr adroddiad drafft ac i ysgrifennu at y Gweinidog ynglŷn â’i gais am ragor o
wybodaeth, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Cyfarfod: 13/07/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 a'r wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 40
Cofnodion:
Memoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, y Bil Sgiliau
ac Addysg Ôl-16 a'r wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
cyfredol
Nododd y
Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol,
a chytunodd i gyfeirio'r Memorandwm ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio
Blaengar at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Plant,
Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 21 Hydref 2021.
Cytunodd y pwyllgor hefyd i gyfeirio’r Memorandwm ar y Bil Sgiliau ac
Addysg Ôl-16 at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 21 Hydref 2021.