Cyfarfodydd

Blaenraglen waith - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/02/2024 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 5)

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Biliau Diwygio'r Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 04/12/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Diweddariad gan y Cadeirydd

Cofnodion:

2.1 Rhoddodd y Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ei thrafodaethau gyda’r Comisiynydd Safonau.

 

2.2 Rhoddodd y Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ddigwyddiad lobïo yng Nghymru yr oedd yn bresennol ynddo ar 28 Tachwedd.

 


Cyfarfod: 06/11/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Ymchwiliad i Urddas a Pharch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymgynghoriad drafft a chytunodd arno.

 

2.2 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd y dylai fod yn rhan o’r dystiolaeth ar gyfer yr ymgynghoriad urddas a pharch.

 


Cyfarfod: 10/07/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 4)

Diwygio'r Mesur Comisiynydd Safonau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor i ddechrau gwaith paratoi ar Fil i ddiwygio Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.

 


Cyfarfod: 12/06/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Gohebiaeth gan y Glymblaid dros Hawliau Cymunedau Teithio (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn cyfarfod â chynrychiolydd o'r Glymblaid i drafod y mater.

 


Cyfarfod: 12/06/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Cyflwyniad gan Uned y Cyfansoddiad yng Ngholeg Prifysgol Llundain

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus ag Uned y Cyfansoddiad yng Ngholeg Prifysgol Llundain.

 


Cyfarfod: 13/02/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Cylch Gorchwyl yr Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl ar gyfer yr Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau, fel y’i drafftiwyd.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

 


Cyfarfod: 16/01/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 5)

Blaenraglen Waith: ymchwiliadau yn y dyfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor flaenraglen waith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, wrth i'r ymchwiliad cyfredol i lobïo ddirwyn i ben.

 


Cyfarfod: 06/12/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Papur cwmpasu ar ymchwiliad i lobïo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor bapur cwmpasu ar gyfer ei ymchwiliad i lobïo.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod dogfen ymgynghori ddrafft yn y flwyddyn newydd.

 

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi'r ymgynghoriad hwn unwaith y bydd yr ymgynghoriad ar y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd wedi cau.


Cyfarfod: 22/11/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor fersiwn ddrafft y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd.

 

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod dogfen ymgynghori ddiwygiedig yn ei gyfarfod nesaf.


Cyfarfod: 13/07/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 6)

Gwaith cynnar y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei weithgaredd cynnar a chytunodd ar flaenoriaethau'r rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref a thu hwnt.


Cyfarfod: 13/07/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 5)

Gweithdrefnau’r pwyllgor a’i ffyrdd o weithio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Cadeirydd y Comisiynydd Safonau i'r cyfarfod.

 

5.2 Trafododd y Pwyllgor ei weithdrefnau a'i ffyrdd o weithio.

 

5.3 Yn unol â pharagraff 10.2 o'r weithdrefn, cytunodd y Pwyllgor i ethol Andrew RT Davies yn gadeirydd dros dro mewn achosion lle na all y Cadeirydd gyflawni ei ddyletswyddau.


Cyfarfod: 13/07/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

2 Cylch gwaith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor ei gylch gwaith a’i nodi, fel sydd wedi’i ragnodi gan Reol Sefydlog 22.