Cyfarfodydd

Dadl gan Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/03/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 20 Mawrth:

 

Heledd Fychan

NNDM8505 

 

Cynnig bod y Senedd: 

1. O’r farn: 

a) bod casgliadau cenedlaethol Cymru – sydd o dan ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru – yn perthyn i bawb yng Nghymru; 

b) bod angen gwarchod y casgliadau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, tra hefyd yn parhau i gael eu defnyddio i ysbrydoli ac ysgogi pobl o bob oed; a 

c) bod mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol wedi bod yn llwyddiant diamheuol ers cyflwyno’r polisi yn 2001, a bod y polisi hwn yn un y dylid ei warchod. 

2. Nodiadau: 

a) rhybuddion gan y sefydliadau bod toriadau cyllidol refeniw a chyfalaf yn peryglu’r casgliadau cenedlaethol, oherwydd llefydd a storfeydd anaddas, a hefyd gostyngiad yn nifer y staff arbenigol sydd bellach yn cael eu cyflogi i ofalu amdanynt; 

b) y pryderon y bydd toriadau pellach yn gwaethygu'r sefyllfa; a hefyd 

c) cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 am ein casgliadau cenedlaethol. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau a ganlyn:            

a) comisiynu panel o arbenigwyr i sefydlu beth yw’r perygl i’r casgliadau, a gweithio gyda’r sefydliadau a Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun i’w diogelu; 

b) gweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru – a’r undebau sy’n cynrychioli’r staff yn y sefydliadau hyn – i sicrhau eu hyfywedd i’r dyfodol; a 

c) gweithio gydag Amgueddfa Cymru i gadw’r polisi mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol. 

 

 


Cyfarfod: 16/01/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 24 Ionawr: 

 

Mabon ap Gwynfor

NNDM8448

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:       

a) bod darparwyr gofal hosbis elusennol yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu gofal a chymorth hanfodol i bobl sydd wedi'u heffeithio gan salwch angheuol ledled Cymru;

b) bod y sector hosbis elusennol yn darparu gofal i fwy na 20,000 o bobl bob blwyddyn, gyda'u gwasanaethau yn cefnogi pobl sy'n marw i aros yn eu cartrefi eu hunain a lleihau derbyniadau i'r ysbyty, gan sicrhau canlyniadau gwell i unigolion a'r GIG;

c) bod costau cynyddol o ran ynni a staff, pwysau ar y gweithlu, a galw cynyddol am ofal cymhleth yn fygythiad dirfodol i gynaliadwyedd y sector;

d) bod 90 y cant o hosbisau yn cyllidebu ar gyfer diffyg yn 2023/24 ac yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i gwrdd â'r diffyg; a

e) y bydd y galw a'r angen am ofal lliniarol yn tyfu'n sylweddol wrth i'r boblogaeth heneiddio ac mae mwy o bobl yn byw yn hirach gyda chyflyrau cronig lluosog.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymrwymo i weithio gyda'r sector i fynd i'r afael â'r heriau cyllido uniongyrchol, gan gynnwys sicrhau cynnig cyflog teg i weithlu hosbisau, sy'n cyfateb i'r cynnydd yn yr Agenda ar gyfer Newid, fel bod cydraddoldeb â chydweithwyr yn y GIG;

b) datblygu ateb ariannu cynaliadwy hirdymor mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys fformiwla ariannu genedlaethol newydd, cynllun gweithlu, a manyleb gwasanaeth gofal lliniarol a diwedd oes; ac

c) ymestyn adolygiad cyllid gofal diwedd oes Llywodraeth Cymru, y disgwylir iddo ddod i ben ym mis Ionawr 2024, os nad yw hyn yn ymarferol o fewn yr amserlen hon. 

 

 

 


Cyfarfod: 17/10/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 25 Hydref:

 

Alun Davies

NNDM8381 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn credu bod yr Holodomor yn drosedd a bennwyd ymlaen llaw, a gyflawnwyd ac a arweiniwyd gan Stalin a'r Llywodraeth Sofietaidd yn erbyn pobl Wcráin. 

2. Yn ystyried bod yr Holodomor yn weithred o hil-laddiad. 

3. Yn nodi rôl hollbwysig y newyddiadurwr o Gymru, Gareth Jones, wrth ddod â chreulondeb yr Holodomor i sylw'r byd. 

4. Yn parhau i sefyll gyda phobl Wcráin wrth iddynt wynebu rhyfel anghyfreithlon Putin. 

 

A'r cynnig canlynol ar gyfer dyddiad i'w gadarnhau ym mis Tachwedd:

 

Mark Isherwood

NNDM8385 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi: 

a) bod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas, ac mai 16 Tachwedd 2023 yw Diwrnod Byd-eang Canser y Pancreas; 

b) bod y cyfraddau goroesi yng Nghymru a'r DU yn dal i fod ar ei hôl hi o gymharu â llawer o Ewrop a'r byd; 

c) bod canser y pancreas yn anodd ei ganfod a bod diagnosis yn cymryd gormod o amser gyda phrosesau araf a phrofion niferus yn gadael pobl yn y tywyllwch; 

d) ar ôl canfod y canser, mae pobl yn wynebu rhwystrau enfawr o ran cael y wybodaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt i fod yn ddigon da i gael triniaeth, gyda llawer o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu gadael heb unrhyw gynllun cymorth ar waith, a heb help i reoli symptomau; ac 

e) ar ôl cael diagnosis, dim ond 3 o bob 10 o bobl sy'n cael unrhyw driniaeth, y gyfran isaf o bob math o ganser, a bod hanner y bobl yn marw o fewn mis i'r diagnosis. 

2. Yn deall bod angen i bobl sydd â chanser y pancreas gael llwybr cyflymach a thecach a ariennir drwy gydol eu diagnosis, triniaeth a gofal, a hynny ar frys. 

3. Yn cefnogi ymdrechion Pancreatic Cancer UK i sicrhau bod llwybr o'r fath yn cael ei weithredu.  

4. Yn canmol yr holl elusennau a sefydliadau ymgyrchu a'u cefnogwyr ymroddedig am eu hymdrechion diflino i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas, ac yn dymuno pob llwyddiant i bawb sy'n ymwneud â Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas yn eu hymdrechion. 

 

 


Cyfarfod: 19/09/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynnig arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i’w amserlennu ar 27 Medi:  

 

Rhys ab Owen

NNDM8274 

Mae’r Senedd hon: 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol i Lywodraeth y DU gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio'r ffin cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer dŵr gyda'r ffin genedlaethol. 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am y pwerau i drwyddedu cyflenwad dŵr neu drwyddedai carthffosiaeth a thrwy hynny ddatganoli dŵr yn llawn i Gymru. 

 

 


Cyfarfod: 06/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynigion canlynol i gael eu trafod:

 

14 Mehefin: 

Hefin David

NNDM8275

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn wynebu argyfyngau lluosog, sef yr argyfwng costau byw, yr argyfwng ynni, a'r argyfyngau hinsawdd a natur, a bod ymgyrch Warm This Winter yn cydnabod bod yr argyfyngau hyn yn gysylltiedig ac wedi'u hymblethu, a bod yr un ffactorau wedi'u hachosi a'r un atebion sydd iddynt.

2. Yn nodi bod ymgyrch Warm This Winter yng Nghymru yn galw am gymorth brys i'r rhai mwyaf bregus.

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno buddsoddiad i gefnogi aelwydydd bregus y gaeaf diwethaf, ei bod wedi cyhoeddi cwmni ynni cyhoeddus newydd i Gymru, a chynlluniau effeithlonrwydd ynni ychwanegol ar gyfer ein cartrefi, ond bod angen gwneud mwy.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio i weithredu atebion ar gyfer llwybr gwirioneddol allan o'r argyfwng costau byw, drwy gydnabod bod camau allweddol i fynd i'r afael â diogelwch ynni a'r argyfwng hinsawdd - fel cynnydd mawr mewn effeithlonrwydd ynni a chyflwyno ynni cymunedol ledled Cymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi pryderon gyda Llywodraeth y DU am gost ynni, a'r angen i sicrhau bod cynlluniau cymorth y DU ar waith i sicrhau bod pobl yn gynnes y gaeaf hwn, a phob gaeaf i ddod. 

 

5 Gorffennaf:

Luke Fletcher

NNDM8273

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod cyffredinrwydd epilepsi ledled Cymru yn 1 y cant (tua 32,000 o bobl ag epilepsi), gydag amrywiad lleol yn gysylltiedig â lefelau amddifadedd;

b) bod 11.5 o nyrsys arbenigol epilepsi cyfwerth ag amser cyfan yng Nghymru, sy'n cyfateb i gymhareb o 1 nyrs i bob 2,823 o gleifion;

c) bod adroddiad Steers (2008) yn argymell cymhareb o 300 o gleifion i un nyrs arbenigol epilepsi a fyddai'n cyfateb i gyfanswm o 107 o nyrsys arbenigol epilepsi yng Nghymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi mesurau i leihau amseroedd aros presennol i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth sy'n defnyddio gwasanaethau epilepsi;

b) cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, drwy sicrhau bod y lefelau staffio ar draws byrddau iechyd Cymru yn cael adnoddau priodol i gyflawni a chynnal cynaliadwyedd, diogelwch cleifion, ac ansawdd gwasanaeth.

Adroddiad Argymhellion Grŵp Adolygu Arbenigol Allanol Niwrowyddoniaeth Cymru ar gyfer Canolbarth a De Cymru

 

 


Cyfarfod: 02/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17

Cyfarfod: 14/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 22 Mawrth:

 

Jack Sargeant

NNDM8219

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu:

a) ei fod yn sgandal genedlaethol bod 600,000 o bobl wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu yn 2022 oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni;

b) bod rheoleiddiwr ynni Ofgem wedi methu â diogelu aelwydydd bregus drwy ganiatáu i gyflenwyr ynni osgoi gwiriadau priodol;

c) y dylai'r rhai sy'n cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu gael eu digolledu'n briodol gan gyflenwyr ynni a'u newid yn ôl yn rhad ac am ddim.

2. Yn nodi:

a) y cafodd cyflenwad ynni 3.2 miliwn o bobl ei dorri y llynedd oherwydd eu bod wedi rhedeg allan o gredyd ar eu mesuryddion rhagdalu;

b) y gallai biliau ynni cyfartalog cartrefi godi hyd yn oed ymhellach, gan roi baich ychwanegol ar aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd oherwydd yr argyfwng costau byw.

3. Yn cydnabod cynllun peilot ynni yn y cartref 2021-22 Llywodraeth Cymru, a oedd yn rhoi cyngor rhagweithiol a chefnogaeth allgymorth i bobl a oedd, neu a oedd mewn perygl o fod, mewn tlodi tanwydd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaeth cyngor ynni yn y cartref ledled Cymru i sicrhau bod pob cartref yn gallu cael y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt.

 

 


Cyfarfod: 31/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 15 Chwefror:

 

NNDM8187

Luke Fletcher

Cyd-gyflwynwyr: Mike Hedges, Heledd Fychan, Jane Dodds, Adam Price, Carolyn Thomas, Sioned Williams

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod Llywodraeth Cymru wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg, yn wahanol i Lywodraeth y DU yn Lloegr;

b) nad yw gwerth y lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru wedi newid ers 2004, ac nad yw'r trothwyon cymhwysedd wedi newid ers 2011;

c) er bod y lwfans cynhaliaeth addysg yn fath pwysig o gymorth ariannol i ddysgwyr ôl-16, nid yw wedi cadw i fyny â phwysau costau byw.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried codiad sy'n gysylltiedig â chwyddiant i werth y lwfans cynhaliaeth addysg ac adolygiad o'r trothwyon.

 

A'r cynnig canlynol ar 1 Mawrth:

 

NNDM8131

Sarah Murphy

Cyd-gyflwynydd: Jane Dodds

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod yr arfer cyffredinol o gasglu a defnyddio data biometreg mewn ysgolion ledled Cymru yn peryglu data personol a phreifatrwydd plant.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n:

a) sicrhau bod Erthygl 16 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sef hawl plentyn i breifatrwydd, yn cael ei gadarnhau o fewn Cymru; 

b) sicrhau bod ysgolion a lleoliadau gofal plant yn defnyddio technolegau nad ydynt yn fiometrig ar gyfer gwasanaethau, yn hytrach na defnyddio systemau biometrig a allai beryglu diogelwch data biometreg plant; 

c) sicrhau bod asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn lleoliadau addysgol yn cael eu rhoi ar waith;

d) cydnabod y niwed posibl o'r defnydd anrheoledig o ddata biometreg;

e) cydnabod diffyg caniatâd pobl ifanc a phlant o fewn y defnydd cyfredol o ddata biometreg o fewn ysgolion. 

 

 

 


Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 26

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 23 Tachwedd:

 

Jenny Rathbone

NNDM8130

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) cyhoeddi adroddiad Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd gan MIND Cymru;

b) bod gwytnwch cymunedol yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl da.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda'r sector gwirfoddol a chymunedol i adeiladu cymunedau gwydn drwy:

(i) hyrwyddo cyfalaf cymdeithasol;

(ii) buddsoddi mewn asedau cymunedol;

(iii) mynd i'r afael â rhwystrau sy'n wynebu rhai grwpiau;

b) cynnwys y rôl a chwaraeir gan asedau a rhwydweithiau cymunedol mewn unrhyw strategaeth iechyd meddwl yn y dyfodol.

Gyda'n gilydd drwy Adegau Anodd

 

 


Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 29

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 5 Hydref.

 

NNDM8074

Mark Isherwood

 

Cyd-gyflwynwyr:

Rhun ap Iorwerth

Sam Rowlands

Tom Giffard

Mabon ap Gwynfor

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:   

a) yr effaith a gaiff meigryn ar yr 1 ym mhob 10 plentyn a pherson ifanc sy'n byw gyda'r cyflwr, gan gynnwys yn yr ysgol a'u bywydau o ddydd i ddydd; 

b) bod pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt yn aml yn nodi ei fod yn ei gwneud hi'n anoddach i wneud eu gwaith ysgol, gan olygu y gall y cyflwr effeithio ar eu cyrhaeddiad addysgol heb gymorth priodol, yn ogystal ag amharu ar eu bywyd teuluol a chymdeithasol; 

c) bod ymchwil gan y Migraine Trust yn awgrymu nad yw gweithwyr addysg a gweithwyr iechyd proffesiynol yn aml yn deall meigryn, ac yn aml nid oes ganddynt fynediad at hyfforddiant ac adnoddau i roi cefnogaeth effeithiol i blant a phobl ifanc y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt; 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag'r Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol ar gyfer ysgolion, gwasanaethau iechyd, a rhieni/gofalwyr er mwyn: 

a) cryfhau'r canllawiau; 

b) darparu hyfforddiant ar sut i gefnogi a darparu ar gyfer pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt; a 

c) darparu adnoddau i rieni/gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn ac i'r bobl ifanc eu hunain ar sut i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain. 

 

 


Cyfarfod: 14/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 32

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 22 Mehefin:

 

NNDM8018

Mabon ap Gwynfor

Luke Fletcher

Buffy Williams

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Cymru'n gartref i filoedd o grwpiau cymunedol lleol, gyda channoedd yn rhedeg asedau sylweddol sy'n gwneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddynt.

2.   Yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae grwpiau cymunedol wedi'i wneud o ran cefnogi pobl leol drwy heriau'r pandemig.

3.   Yn nodi bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylai "ddatblygu rhaglen o rymuso cymunedau ledled Cymru gyda’r sector gwirfoddol, gan weithredu fel gwladwriaeth alluogi ar gyfer gweithredu cymunedol".

4.  Yn nodi'r rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn aml yn ei chwarae o ran sicrhau perchnogaeth gymunedol ar asedau, a gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill i sicrhau menter gymunedol lwyddiannus.

5. Yn nodi adroddiad diweddar y Sefydliad Materion Cymreig, Ein Tir: Cymunedau a Defnydd Tir, a ganfu mai cymunedau Cymru yw'r rhai lleiaf grymus ym Mhrydain ac sy'n galw am ad-drefnu sylweddol ym maes polisi cymunedol yng Nghymru.

6. Yn nodi ymhellach adroddiad diweddar Canolfan Cydweithredol Cymru, Tir ac asedau sy’n eiddo i’r gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned yng Nghymru.

7. Yn nodi nad oes gan Gymru, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, unrhyw ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r hawl i gymunedau brynu asedau lleol o werth cymunedol.

8. Yn credu bod galluogi grwpiau cymunedol i gadw adeiladau a thir lleol fel cyfleusterau cymunedol a'u cefnogi i ddatblygu cymunedau gweithgar ac ymgysylltiedig yn allweddol i adeiladu Cymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrddach.

9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cydweithio i greu strategaeth cymunedau i ddatblygu cyflwr sy'n galluogi gweithredu cymunedol;

b) edrych i mewn i'r opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu hawl gymunedol i brynu yng Nghymru.

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol

Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir

Tir ac asedau sy’n eiddo i’r gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned yng Nghymru

 

A’r cynnig dilynol ar 13 Gorffennaf:

 

NNDM8028

Jane Dodds

Carolyn Thomas

Jack Sargeant

Luke Fletcher

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod nifer sylweddol o weithwyr o Gymru yn cael eu cyflogi mewn diwydiannau a fydd yn cael eu newid yn sylweddol fel rhan o'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon;

b) pwysigrwydd sicrhau newid teg i economi ddi-garbon;

c) cynllun peilot incwm sylfaenol parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal.

2.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sut y gellid ymestyn y cynllun peilot incwm sylfaenol i weithwyr yn y diwydiannau hyn er mwyn llywio'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon.

 

 

 


Cyfarfod: 03/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 35

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 11 Mai 2022:

 

NNDM7994

Alun Davies

Cyd-gyflwynwyr

Rhun ap Iorwerth

Samuel Kurtz

Jane Dodds

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 90 mlynedd eleni ers yr Holodomor: y newyn a laddodd tua 4-6 miliwn o bobl yn Wcráin dros 1932/33.

2.  Yn nodi ymhellach bod y newyn hwn wedi digwydd o ganlyniad i weithredoedd a pholisïau bwriadol yr Undeb Sofietaidd.

3. Yn mynegi ei chydymdeimlad ac yn estyn ei chydgefnogaeth i bobl Wcráin ar ran pobl Cymru.

4.  Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn rhaglen goffáu i gofio dioddefwyr yr Holodomor ac i godi ymwybyddiaeth o ddioddefaint pobl Wcráin.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 25 Mai:

 

NNDM7964

Jack Sargeant

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) mai Llywodraeth Cymru oedd y gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, gan gydnabod y bygythiad difrifol y mae newid yn yr hinsawdd yn ei achosi;

b) bod cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil ac, ers blynyddoedd lawer, mae ymgyrchwyr wedi annog cynlluniau i ddadfuddsoddi;

c) bod partneriaeth bensiwn Cymru wedi symud yn gyflym i dynnu buddsoddiad o ddaliadau Rwsia yn ôl a'i fod wedi symud oddi wrth lo o'r blaen, gan ddangos felly ei bod yn bosibl i gronfeydd pensiwn wneud y penderfyniadau hyn;

d) bod Aelodau'r Senedd wedi cymryd y cam cyntaf i symud eu cronfeydd pensiwn eu hunain oddi wrth danwydd ffosil;

e) pe bai cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn dadfuddsoddi, Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y byd i gyflawni hyn, gan ddangos i ddarparwyr cronfeydd yr angen i greu cynhyrchion buddsoddi di-danwydd ffosil.

2.  Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thargedau sero net presennol y sector cyhoeddus.

 


Cyfarfod: 15/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 38

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 23 Mawrth 2022:

 

NNDM7953 Mike Hedges

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod adeiladau crefyddol, gan gynnwys eglwysi a chapeli, yn parhau i gael eu cau ledled Cymru.

2.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r gwahanol enwadau yng Nghymru i drafod dyfodol yr adeiladau hyn.

Cyd-gyflwynwyr

Rhys ab Owen

Jane Dodds

Darren Millar

Wedi’i gefnogi gan

Alun Davies

Sam Rowlands

 


Cyfarfod: 01/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 41

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 9 Mawrth 2022:

 

NNDM7925 Mike Hedges

Cynnig bod y Senedd:

Yn cefnogi datganoli plismona.

Cyd-gyflwynwyr

Alun Davies

Jane Dodds

Delyth Jewell

Rhys ab Owen

Cefnogwyr

Sarah Murphy

 

 


Cyfarfod: 18/01/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 44

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 26 Ionawr:

 

NNDM7880 James Evans

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y cymerwyd 101 miliwn o deithiau bws yng Nghymru yn 2018/19, o'i gymharu â 129 miliwn yn 2004/05.

2. Yn nodi ymhellach nad oes gan 23 y cant o bobl yng Nghymru fynediad at gar neu fan.

3. Yn cydnabod bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol yng nghefn gwlad Cymru i atal pobl rhag teimlo'n unig ac ynysig.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu cyllid hirdymor cynaliadwy i awdurdodau lleol er mwyn gwella gwasanaethau bysiau gwledig;

b) sicrhau bod cynghorau gwledig yn cael cyfran deg o fuddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau teithio llesol;

c) gwarantu bod Strategaeth Fysiau Genedlaethol Cymru yn ystyried heriau unigryw trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru;

d) blaenoriaethu buddsoddi mewn cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus nad ydynt yn achosi allyriadau mewn ardaloedd gwledig.

 

Cefnogwyr:

Rhys ab Owen

Mabon ap Gwynfor

Natasha Asghar

Samuel Kurtz

Jack Sargeant

Carolyn Thomas

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 16 Chwefror:

 

NNDM7881

Rhys ab Owen

Jane Dodds

Llyr Gruffydd

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 yn ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru, yn sicrhau dyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol, ac yn galluogi cynghorau i gael gwared ar system y cyntaf i'r felin i ethol cynghorwyr;

b) y defnyddir system fwy cyfrannol mewn etholiadau lleol yn yr Alban, gan leihau nifer y seddi lle nad oes cystadleuaeth, a sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chynghorau newydd a etholir ym mis Mai 2022 i sicrhau bod dull mwy cynrychioliadol a system genedlaethol unffurf yn cael eu defnyddio i ethol cynghorwyr ledled Cymru erbyn 2027.

 

Cefnogwyr

Rhun ap Iorwerth

Heledd Fychan

Peredur Owen Griffiths

Mabon ap Gwynfor

Sioned Williams

 

 


Cyfarfod: 23/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 47

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 1 Rhagfyr:

 

NNDM7842 Mabon ap Gwynfor

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu dull gweithredu llwybr canser sengl Llywodraeth Cymru.

2. Yn cydnabod:

a) mai canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru a bod 19,600 o bobl yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru (2016-2018).

b) bod COVID-19 wedi gwaethygu'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng Nghymru, gyda thua 1,700 yn llai o bobl yn dechrau triniaeth canser rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021.

c) bod amseroedd aros canser GIG Cymru ar gyfer mis Gorffennaf 2021 yn dangos mai 61.8 y cant o gleifion sy'n cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r dyddiad yr amheuir bod ganddynt ganser, canran llawer is na'r targed perfformiad llwybr canser tybiedig o 75 y cant.

d) hyd yn oed cyn y pandemig, fod Cymru'n profi bylchau sylweddol yn y gweithlu sy'n rhoi diagnosis o ganser ac yn ei drin, er enghraifft ym maes delweddu, endosgopi, patholeg, oncoleg nad yw'n lawfeddygol a nyrsys arbenigol.

e) heb fuddsoddiad aml-flwyddyn mewn hyfforddiant a chyflogi mwy o staff i lenwi swyddi gwag cyfredol, na fydd gan Gymru'r staff rheng flaen a'r arbenigwyr sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad canser, ymdopi â'r galw yn y dyfodol, neu wneud cynnydd tuag at uchelgeisiau i roi diagnosis a thrin mwy o ganserau yn gynnar.

f) bod Cynghrair Canser Cymru wedi beirniadu'r datganiad ansawdd ar gyfer canser, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, am beidio â darparu gweledigaeth glir i gefnogi gwasanaethau canser i adfer o effaith y pandemig a gwella cyfraddau goroesi ymhellach.  

g) mai Cymru fydd yr unig genedl yn y DU heb strategaeth ganser cyn bo hir, y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod un gan bob gwlad.

3. Yn croesawu'r cynlluniau peilot clinig diagnostig cyflym llwyddiannus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a bod Rhwydwaith Canser Cymru wedi darparu cyllid i bob bwrdd iechyd arall i ddatblygu clinigau diagnostig cyflym.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y datganiad ansawdd ar gyfer canser, gan gynnwys targedau a mecanweithiau uchelgeisiol ar gyfer olrhain buddsoddiad cynnydd ar gyfer staff, offer a seilwaith;

b) mynd i'r afael â phrinder staff hirsefydlog o fewn gwasanaethau canser a diagnostig;

c) ystyried sut y gellid cymhwyso'r argymhellion yn adolygiad yr Athro Syr Mike Richards o wasanaethau diagnostig yn Lloegr yng Nghymru.

 

Wedi’i gefnogi gan:

 

Sioned Williams

Rhun ap Iorwerth

Paul Davies

Jane Dodds

Siân Gwenllian

Altaf Hussain

Sam Rowlands

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 15 Rhagfyr 2021:

 

NNDM7843 Rhys Ab Owen

Alun Davies

Jane Dodds

Heledd Fychan

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n cael eu cyflwyno i'r Senedd.

2. Yn cydnabod bod hyn o ganlyniad i Weinidogion Cymru yn ceisio defnyddio deddfwriaeth Senedd y DU i roi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru mewn grym a Llywodraeth y DU yn ceisio diystyru ein democratiaeth, erydu'r setliad datganoli a lleihau pwerau'r Senedd.

3. Yn credu y dylai'r Senedd roi holl ddeddfwriaeth sylfaenol sylweddol ac arwyddocaol mewn grym yn hytrach na gwneud hynny drwy'r broses cynigion cydsyniad deddfwriaethol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) weithio gyda Phwyllgor Busnes y Senedd i adolygu'r broses ar gyfer cynigion cydsyniad deddfwriaethol er mwyn sicrhau ei bod yn addas i'r diben;

b) egluro egwyddorion pryd y defnyddir cynigion cydsyniad deddfwriaethol;

c) gweithio gyda'r Llywydd i ofyn am adolygiad brys o'r effaith ar y setliad datganoli a phwerau'r Senedd o ganlyniad i ddeddfwriaeth y DU. 

 

 

 


Cyfarfod: 05/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 50

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 13 Hydref:

 

NDM7794 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi pwysigrwydd ynni adnewyddadwy wrth geisio lleihau ein hôl-troed carbon.

2. Yn cytuno bod angen sicrhau fod pob datblygiad ynni yn dod a budd i’r cymunedau lle’u lleolir.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, unai drwy reoliadau neu ddeddfwriaeth newydd, i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi budd cymunedol eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiad effaith cymunedol a chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o’r broses gynllunio.

 

Cefnogwyr:

 

Janet Finch-Saunders

Altaf Hussain

Tom Giffard

Heledd Fychan

Sioned Williams

Luke Fletcher

 

 


Cyfarfod: 21/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau - Dewis cynnig ar gyfer dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 53

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 29 Medi:

NNDM7773 Luke Fletcher

Rhun ap Iorwerth

Paul Davies

Janet Finch-Saunders

Jenny Rathbone

Jack Sargeant

Delyth Jewell

Altaf Hussain

Jane Dodds

Rhys ab Owen

Peredur Owen Griffiths

Mabon ap Gwynfor

Sioned A Williams

Gareth L Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) effaith sylweddol pandemig COVID-19 ar bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru a phobl y mae dementia yn effeithio arnynt;

b) pwysigrwydd gofalwyr di-dâl o ran sicrhau bod y system gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gallu gweithredu yn ystod y pandemig.

2.  Yn nodi ymhellach yr angen am ddiagnosis cywir o ddementia i ganiatáu i ofalwyr di-dâl, y systemau iechyd a gofal cymdeithasol a chyrff a darparwyr gwasanaethau eraill gynllunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gywir, fel y nodir yn y cynllun gweithredu cenedlaethol ar ddementia.

3.  Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ariannu ymchwil i ddatblygu dulliau diagnostig cywir i sicrhau bod pobl sy'n cael diagnosis o ddementia yn gallu cael y cymorth cywir ar unwaith ar ôl cael diagnosis;

b) ariannu cymorth ôl-ddiagnostig ar gyfer pob math o ddementia ledled Cymru;

c) sefydlu arsyllfa ddata dementia genedlaethol i sicrhau cywirdeb mewn data dementia a chasglu, dadansoddi a lledaenu data ar ddementia i bob darparwr gwasanaeth sy'n dymuno cael gafael ar ddata i helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau dementia ledled Cymru.

Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia 2018-22

 

 


Cyfarfod: 29/06/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 56

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 7 Gorffennaf:

 

NNDM7744

Hefin David

John Griffiths

Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r rôl sylweddol y mae busnesau bach yn ei chwarae o ran cynnal economïau lleol drwy gydol pandemig y coronafeirws drwy addasu i amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r blaen.

2. Yn nodi pwysigrwydd busnesau bach lleol, yn enwedig rhai yn y sector twristiaeth a'r sectorau cysylltiedig, wrth i ni adfer o'r pandemig a dechrau ail-adeiladu ein cymunedau a'n heconomïau lleol.

3. Yn nodi ymhellach yr anogaeth gref gan Lywodraeth Cymru i bobl fynd ar wyliau yng Nghymru eleni a mwynhau ei hatyniadau a'i safleoedd o harddwch naturiol eithriadol niferus.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynrychiolwyr y gymuned busnesau bach a thwristiaeth i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy drwy gydol y flwyddyn. 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r un rhanddeiliaid er mwyn integreiddio'r ddau sector i'w strategaeth economaidd a chynlluniau adfer COVID-19 yn nhymor y chweched Senedd er mwyn sicrhau bod y ddau yn cael eu cefnogi'n ddigonol a bod ganddynt y gwydnwch angenrheidiol i gynnal unrhyw ergydion yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 15/06/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 59

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 23 Mehefin:

NDM7704 Huw Irranca–Davies (Ogwr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod cytundeb gwasanaethau bysiau o fis Mawrth 2021 yn ymrwymo £37.2 miliwn o gyllid i barhau i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

2. Yn nodi bod y cytundeb yn ymrwymo i ail-lunio gwasanaethau bysiau lleol yn sylfaenol, gan ddiwallu anghenion teithwyr yn well.

3. Yn nodi bod y cytundeb hefyd yn ceisio ailadeiladu nawdd ar ôl COVID-19, gan annog niferoedd cynyddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros amser ar gyfer ystod eang o deithiau, fel y mae amodau'n caniatáu.

4. Yn nodi ymhellach y cyhoeddwyd Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, sy'n cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau gan gynnwys:

a) ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau bysiau;

b) datblygu deddfwriaeth bysiau newydd i roi mwy o reolaeth i'r sector cyhoeddus dros wasanaethau bysiau lleol;

c) darparu gwasanaethau bysiau arloesol, mwy hyblyg, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y sector masnachol a'r trydydd sector; a

d) sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn ddiogel i bawb.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi cynlluniau ac amserlenni manwl ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau ar wasanaethau bysiau yn Llwybr Newydd.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a phartneriaid i ymgysylltu'n ystyrlon â chymunedau lleol ledled Cymru ar y strategaeth ac wrth ail-lunio gwasanaethau bysiau i ddiwallu'r anghenion trafnidiaeth a nodwyd gan y cymunedau hynny.

Cytundeb Gwasanaeth Bysiau - Mawrth 2021

Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021

Cefnogwyr:

 

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Hefin David (Caerffili)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru)