Cyfarfodydd
Busnes yr wythnos hon
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 24/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Dydd Mawrth
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm.
Dydd
Mercher
Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr
Busnes at y newidiadau a ganlyn:
- Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(
3010 munud) - Cynnig i ethol Aelod i
bwyllgor (5 munud)
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.55pm.
Cyfarfod: 17/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Dydd Mawrth
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
- Datganiad gan y Gweinidog
Newid Hinsawdd: Llifogydd (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar gwrdd ag undebau llafur
y GIG (30 munud)
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)Gohiriwyd tan 24 IonawrCynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) (15 munud)Gohiriwyd tan 14 Chwefror
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.30pm.
Dydd
Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Cyfarfod: 10/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Dydd Mawrth
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
- Datganiad gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Gaeaf y GIG (
3045 munud)
Gofynnodd
Siân Gwenllian bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ymestyn ymhellach yr amser a
ddyrannwyd i'r datganiad uchod , yn sgil y pwysau a welwyd ar y GIG dros gyfnod
y Nadolig. Nododd y Llywydd y byddai'n hyblyg o ran yr amseriadau er mwyn
sicrhau bod modd galw nifer digonol o'r Aelodau i wneud cyfraniadau.
- Ni fydd cyfnod pleidleisio
ddydd Mawrth.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 5.30pm.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.15pm.
Cyfarfod: 13/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Dydd Mawrth
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
- Rheoliadau Ardrethu Annomestig
(Symiau a Godir) (Cymru) 2022 (15 munud) ail-drefnwyd i eitem 5
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm.
Cydnabu’r Trefnydd y pryderon sydd
wedi’u mynegi am y nifer o bwyntiau adrodd a godwyd ar y ddwy gyfres o
Reoliadau. Byddai'n cwrdd â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad cyn y Cyfarfod Llawn i drafod y mater hwn ymhellach a bydd yn rhoi
diweddariad i'r Pwyllgor Busnes yn dilyn y cyfarfod hwnnw.
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu
hatgoffa gan y Llywydd bod 90 munud wedi'i ddyrannu i’r datganiad heddiw ar y
gyllideb ddrafft a bydd ar ffurf dadl, yn unol â’r arfer ers 2017. Ni fydd
pleidlais.
Dydd
Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Cyfarfod: 06/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Dydd Mawrth
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
- Datganiad gan y Dirprwy
Weinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau (30 munud)
- Dadl: Cyfnod 4 Bil Diogelu'r
Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (15 munud)
Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd egwyl fer cyn dechrau trafodion Cyfnod 3,
gyda’r gloch yn canu 5 munud cyn ailddechrau.
- Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio
cyn trafodion Cyfnod 3.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 19:50.
Dydd
Mercher
- Cwestiynau
i Gomisiwn y Senedd (15
30munud)
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr
Busnes fod dehongliad Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei drefnu ar gyfer dadl
Mark Isherwood ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau, gyda'r bwriad y gellir
darparu hwn yn fyw ar Senedd.tv.
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 18:55.
Cyfarfod: 29/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Dydd Mawrth
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
- Datganiad gan y Dirprwy
Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyhoeddi'r Adolygiad Ymarfer Plant i
farwolaeth Logan Mwangi (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl Anabl (30
munud) wedi’i
aildrefnu i eitem 8
Dywedodd y
Trefnydd wrth y Pwyllgor y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn rhoi ei
datganiad o bell.
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.05pm.
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.45pm.
Cyfarfod: 22/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
Dydd Mawrth
Nid oes dim
newidiadau i fusnes y llywodraeth yr wythnos hon. Dywedodd y Trefnydd wrth y
pwyllgor mai hi fydd yn ateb cwestiynau heddiw ar ran y Prif Weinidog.
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel eitem 5.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 5.40pm.
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.55pm.
Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
Nid oes dim
newidiadau i fusnes y llywodraeth yr wythnos hon.
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm.
Dydd
Mercher
Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr
Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24 (30 munud)- wedi'i dynnu'n ôl a'i aildrefnu ar gyfer 23 Tachwedd- Cynigion
i ethol Aelodau i bwyllgorau (5 munud)
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Cyfarfod: 08/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
Cofnodion:
Rhoddodd y Trefnydd
wybod i'r Rheolwyr Busnes y byddai hi'n ateb Cwestiynau'r Prif Weinidog gan fod
y Prif Weinidog yn anhwylus.
Hefyd,
tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Gynllun Ariannol a Rhagolygon Economaidd Llywodraeth y DU (30 munud)Wedi'i ohirio tan 22 Tachwedd- Datganiad gan y Gweinidog
Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ffliw Adar (30 munud)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon (45 munud)Wedi’i ohirio tan 22 Tachwedd
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.00pm.
Dydd
Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.40pm.
Cyfarfod: 25/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn i fusnes dydd
Mawrth:
- Datganiad gan y Dirprwy
Weinidog Newid Hinsawdd: Cau Pont Menai (30 munud)
Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip: Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol (30 munud)- Tynnwyd yn ôlDadl: Adroddiad Blynyddol 2021-22 Comisiynydd y Gymraeg (60 munud)Gohiriwyd tan 15 Tachwedd
- Ni fydd cyfnod pleidleisio.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 5.15pm.
Nododd y Llywydd y bydd ffotograffydd yn y Siambr ar
ddechrau trafodion dydd Mawrth i dynnu lluniau newydd i'w defnyddio ar wefan y
Senedd.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.45pm.
Cyfarfod: 18/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
- Datganiad gan y Gweinidog
Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i ddatganiad y
Canghellor ar y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (30 munud)
Rheoliadau’r Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 (15 munud)Tynnwyd yn ôl
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 5.40pm.
Gwnaeth y Trefnydd gais i’r
Pwyllgor Busnes gytuno i drefnu dadl ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y
Bil Prisiau Ynni ddydd Mercher 19 Hydref, gan atal Rheolau Sefydlog dros dro i
ganiatáu i’r ddadl gael ei chynnal. Derbyniwyd y cais gan fod yr amserlen yn
symud yn gynt ar gyfer pasio'r Bil yn San Steffan, gyda'r Bil wedi'i gyflwyno
ar 12 Hydref a dyddiad arfaethedig ar gyfer Cydsyniad Brenhinol ar 25 Hydref.
Oherwydd diffyg amser, cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â chyfeirio'r Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol i Bwyllgor ar gyfer gwaith craffu.
Yn sgil hynny, mae'r eitemau
canlynol wedi'u hychwanegu at agenda dydd Mercher:
- Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
dros dro (5 munud)
- Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni (30 munud)
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 8.25pm.
Cyfarfod: 11/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Dydd Mawrth
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.00pm.
Dydd
Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr
Busnes ei bod yn bwriadu dod â’r egwyl cyn y cyfnod pleidleisio i ben, gan
ddechrau o'r Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Gofynnodd i Reolwyr Busnes atgoffa
Aelodau eu grwpiau mai eu cyfrifoldeb nhw fydd sicrhau eu bod yn bresennol ac
yn barod i bleidleisio cyn dechrau'r cyfnod pleidleisio, a nododd y gall hyn
fod yn gynharach na'r amseru dangosol ar yr agenda.
Cyfarfod: 04/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
- Datganiad gan Weinidog yr
Economi: Datblygu Economaidd Rhanbarthol (
3045 munud) Symudwyd ymlaen o 11 Hydref - Datganiad gan y Gweinidog
Newid Hinsawdd – Bioamrywiaeth (30 munud)
- Ni fydd cyfnod pleidleisio.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 5.00pm.
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.20pm.
Nododd y Llywydd, gan mai un
cwestiwn yn unig a gyflwynwyd, fod y dyraniad amser ar gyfer Cwestiynau i'r
Comisiwn wedi ei leihau i 10 munud.
Bydd seibiant cyn y Cyfnod
Pleidleisio ddydd Mercher er mwyn galluogi Aelodau i ymgyfarwyddo ymhellach â’r
gweithdrefnau pleidleisio newydd.
Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr
Busnes y bydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog yr wythnos hon a
thynnodd sylw Rheolwyr Busnes at y newidiadau canlynol:
Dydd Mawrth
- Datganiad
gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad Ariannol
Llywodraeth y DU (45 munud)
- Datganiad
gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (60 munud) – aildrefnwyd o eitem 3 i
eitem 8
Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip: Treftadaeth y Byd yng Ngogledd Orllewin Cymru (30 munud)- gohiriwyd tan 4 Hydref
- Ni fydd cyfnod pleidleisio.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm.
Dydd Mercher
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Cyfarfod: 20/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n talu
teyrnged fer i’r cyn-Aelod Mick Bates, a fu farw’n ddiweddar, ar ddechrau'r
cyfarfod heddiw.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai
busnes a ohiriwyd o 13 a 14 Medi oherwydd y cyfnod o Alaru Cenedlaethol ar
gyfer Ei Mawrhydi y Frenhines yn cael ei aildrefnu ar gyfer 20 a 21 Medi, gan
gynnwys y Cwestiynau Llafar a chynigion sydd eisoes wedi'u cyflwyno ar gyfer
dadl. Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn i
fusnes dydd Mawrth:
- Datganiad gan y Prif Weinidog:
Diweddariad ar gostau byw (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid a Phwysau'r Gaeaf
(30 munud)
- Datganiad gan Weinidog y
Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Brydau Ysgol am Ddim (30 munud)
- Ni fydd cyfnod pleidleisio.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm.
Dydd
Mercher
Esboniodd y
Llywydd, gan nad oes ffenestr lawn ar gyfer cyflwyno gwelliannau i gynigion y
ddadl ddydd Mercher wedi bod yn bosibl cyn hyn, y bydd y Swyddfa Gyflwyno yn
derbyn gwelliannau a gyflwynwyd heddiw. Yn unol â hynny, bydd Cynnig i atal
y Rheolau Sefydlog dros dro yn cael ei ychwanegu i agenda dydd Mercher i
ganiatáu i unrhyw welliannau a gyflwynwyd gael eu trafod.
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.15pm.
Hysbysodd y
Llywydd y Rheolwyr Busnes o sawl newid i weithdrefnau pleidleisio yn y Cyfarfod
Llawn o ddechrau tymor yr hydref, yn dilyn trafodaethau blaenorol yn y Pwyllgor
Busnes a diwygiadau a wnaed i Reolau Sefydlog ar ddiwedd tymor yr haf. Nododd
hefyd y bwriad i roi'r gorau i'r arfer o gael egwyl cyn y cyfnod pleidleisio,
unwaith y mae Aelodau wedi cael cyfle i ymgyfarwyddo â'r trefniadau newydd.
Bydd
canllawiau wedi'u diweddaru ar drafodion hybrid a rhithwir yn cael eu trafod
ymhellach gan y Pwyllgor Busnes a Fforwm y Cadeiryddion yn fuan, cyn cael eu
darparu i Aelodau.
Cyfarfod: 12/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 47
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
Dydd Mawrth
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022- tynnwyd yn ôl
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.50pm.
Dydd
Mercher
Nododd y Pwyllgor Busnes fod
grŵp Llafur yn bwriadu newid yr aelod sydd ganddo ar y Pwyllgor Iechyd a
Gofal Cymdeithasol, o Mike Hedges i Sarah Murphy. Felly, tynnodd y Llywydd sylw'r
Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer y cyfarfod
yfory:
- Cynnig
i ethol Aelod i bwyllgor (5 mun)
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.55pm.
Cyfarfod: 05/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
Cofnodion:
Dydd Mawrth
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid a ganlyn:
- Dadl: Cyfnod 3 Bil Deddfau
Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (
12090 munud)
- Ni fydd Cyfnod Pleidleisio ar
wahân i drafodion Cyfnod 3 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i
Addasu).
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.30pm.
Dydd Mercher
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Cyfarfod: 28/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
Cofnodion:
Dydd Mawrth
- Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i
6.30pm.
Nododd y Trefnydd fod y Llywodraeth wedi aildrefnu busnes
dydd Mawrth ac y bydd y dadleuon a'r cyfnod pleidleisio yn cael eu cynnal ar
ddiwedd y sesiwn, yn dilyn gohirio darlith gyfansoddiadol a drefnwyd yn
flaenorol ar gyfer y noson hon.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Cadarnhaodd y Llywydd amseriad Datganiad Cadeirydd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, gan gynnwys y bydd gan y
siaradwr cyntaf o'r grŵp Llafur hyd at bum
munud ar gyfer eu cyfraniad.
Cyfarfod: 21/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 56
Cofnodion:
- Ni fydd Cyfnod Pleidleisio ar
wahân i drafodion Cyfnod 3 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru).
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 9.30pm.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.
Cyfarfod: 14/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 59
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Ddiogelwch Adeiladau (30 munud)- tynnwyd yn ôl- Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar gostau byw (30 munud)
Dywedodd y Trefnydd y bydd y
Diweddariad ar Ddiogelwch Adeiladau yn debygol o gael ei gyhoeddi fel Datganiad
Ysgrifenedig yn ddiweddarach y mis hwn.
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.05pm.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.
Cyfarfod: 07/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 62
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid a ganlyn:
Dydd Mawrth
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 -Tynnwyd Yn Ôl- Datganiad gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr (30 munud)
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm
Dydd Mercher
Nododd y Pwyllgor Busnes fod
grŵp y Ceidwadwyr yn bwriadu newid ei aelod ar y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad o Peter Fox i James Evans. Felly, tynnodd y Llywydd
sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer y
cyfarfod yfory:
- Cynnig
i ethol Aelod i bwyllgor (5 mun)
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.40pm.
Cafodd y Pwyllgor Busnes ei atgoffa
gan y Llywydd o’i bwriad ynghylch amser siarad a ddyrennir i Aelodau yn ystod y
ddadl 120 munud yfory ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r
Senedd.
Gorchuddion wyneb
Cafodd y Pwyllgor Busnes
ddiweddariad ar y sefyllfa o ran gwisgo gorchuddion wyneb ar yr ystâd. Gan nad
yw gwisgo gorchuddion wyneb bellach yn ofynnol wrth symud o gwmpas yr adeilad,
er bod defnyddwyr adeiladau'n cael eu hannog i barhau i wneud hynny mewn
sefyllfaoedd risg uwch, cytunodd y Pwyllgor y byddai defnyddio gorchuddion
wyneb yn y Siambr bellach yn fater o ddewis unigol i'r Aelodau. Cytunwyd y
byddai diweddariad cyffredinol ar ddefnyddio gorchuddion wyneb ar yr Ystâd yn
cael ei ddosbarthu i'r Aelodau.
Cyfarfod: 24/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 65
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor
Busnes at y newid canlynol i gyfarfod dydd Mawrth:
- Datganiad gan y Cwnsler
Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyfiawnder yng Nghymru (
3045 munud)
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm.
Nododd y
Pwyllgor Busnes fod grŵp Llafur yn bwriadu newid yr aelod sydd ganddo ar y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, o Alun Davies i Jane Bryant. Felly, tynnodd y
Llywydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer
cyfarfod dydd Mercher:
- Cynnig
i ethol Aelod i bwyllgor (5 mun)
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.
Cyfarfod: 17/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 68
Cofnodion:
Dydd Mawrth
Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd y Prif
Weinidog yn ateb Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn rhithwir, gan ei fod yn
teithio ar fusnes swyddogol.
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm.
Dydd Mercher
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Nododd y Pwyllgor Busnes mai dim
ond 9 cwestiwn a gyflwynwyd i'r Gweinidog Newid Hinsawdd i’w hateb yr wythnos
hon.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan aelodau’r Pwyllgor Diwylliant,
Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i newid trefn y dadleuon ddydd Mercher fel y gall Aelodau gyfrannu at
ddadl Plaid Cymru ar Iechyd Menywod, cyn teithio i ogledd Cymru ar gyfer busnes
pwyllgor. Byddai’r Pwyllgor Busnes yn dychwelyd at y drafodaeth ynghylch
egwyddorion absenoldeb Aelodau o’r Cyfarfod Llawn er mwyn gallu bod yn
bresennol ym musnes arall y Senedd mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Dywedodd y Trefnydd ei bod wedi
codi mater yn ymwneud â Gweinidogion yn bod yn bresennol yn y Siambr ar amser
ar gyfer eu heitemau busnes yn y Cabinet.
Cyfarfod: 10/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 71
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
- Datganiad gan y Gweinidog
Cyllid a Llywodraeth Leol: Etholiadau Llywodraeth Leol (30 munud)
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.15pm.
Dydd Mercher
Nododd y Pwyllgor Busnes bod Plaid
Cymru yn bwriadu newid ei haelod ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus o Cefin Campbell i Rhys ab Owen. Hefyd, cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu i’r
Ddadl Fer gael ei chynnal gan nad oedd y pwnc ar gyfer y ddadl wedi’i gyflwyno
erbyn y terfyn amser.
Felly, tynnodd y Llywydd sylw'r
Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer y cyfarfod
yfory:
- Cynnig
i ethol Aelod i bwyllgor (5 mun)
- Cynnig
i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.20pm.
Cyfarfod: 03/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 74
Cofnodion:
Dydd Mawrth
- Datganiad gan Weinidog yr
Economi: Mesurau Rheoli Ffin (30 munud)
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu
hwnt i 5.30pm.
Dydd
Mercher
- Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(
3015 munud) Dadl fer: Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) (30 munud)
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.10pm.
Cyfarfod: 26/04/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 77
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19- Tynnwyd yn ôl- Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
dros dro (5 munud)
- Rheoliadau Dyrannu Tai a
Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022 (15 munud)
- Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022 (15
munud)
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.05pm.
Dydd Mercher
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.10pm.
Trafododd y Pwyllgor y sefyllfa o
ran gwisgo gorchuddion wyneb. Dywedodd y Llywydd y bydd y defnydd o orchuddion
wyneb yn cael ei annog yn y Siambr.
Cyfarfod: 29/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 80
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad arCovid-19 (30 munud)- tynnwyd yn ôl- Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i
Ffoaduriaid Wcráin (30 munud)
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Ddiogelwch Adeiladau (45 munud)- tynnwyd yn ôl- Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
dros dro (5 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog
12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn
gyda’i
gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)
o
Rheoliadau
Deddf Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022
o
Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7)
2022
o
Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.55pm.
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu
hatgoffa gan y Dirprwy Lywydd fod amseriad y Cwestiynau i’r Prif Weinidog
wedi'i newid oherwydd bod y Prif Weinidog yn mynd i Wasanaeth Diolchgarwch i’r
Tywysog Philip yn Llundain. Bydd yn digwydd fel eitem 2 yn dilyn y Datganiad a
Chyhoeddiad Busnes.
Dydd Mercher
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor
Busnes y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ateb cwestiynau llafar ar
ran y Gweinidog Newid Hinsawdd.
Nododd y
Pwyllgor Busnes gais gan Blaid Cymru i newid ei haelod ar y Pwyllgor Safonau
Ymddygiad o Heledd Fychan i Peredur Owen Griffiths. Dywedodd Darren Millar y
gallai'r grŵp Ceidwadol hefyd wneud cais i newid ei aelodaeth o'r Pwyllgor
Safonau Ymddygiad ar yr un pryd ac y byddai hyn yn cael ei gadarnhau y tu allan
i'r cyfarfod.
Felly, tynnodd y Dirprwy Lywydd
sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer y
cyfarfod yfory:
- Cynnig
i ethol Aelod i bwyllgor (5 mun)
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Gofynnodd y Dirprwy Lywydd i'r
Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau y disgwylir iddynt, fel y cytunwyd yr
wythnos diwethaf, barhau i wisgo gorchuddion wyneb yn y Siambr yr wythnos hon,
ac eithrio wrth siarad. Bydd nodyn hefyd yn cael ei ddosbarthu i bob Aelod.
Cyfarfod: 22/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 83
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor
Busnes at y newidiad a ganlyn:
Dydd Mawrth
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd Cymru- Gohiriwyd
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid
yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.00pm.
Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes fod grid seddi
sefydlog bellach ar waith yn y Siambr ac mai dim ond y sedd a neilltuwyd iddynt
y dylai Aelodau ei defnyddio. Yn ogystal, gofynnwyd i Reolwyr Busnes atgoffa eu
Haelodau i beidio ag addasu’r meicroffonau a sicrhau eu bod yn sefyll yn union
o’u blaenau, fel y gellir clywed eu cyfraniadau.
Dywedodd y Llywydd hefyd y bydd y disgwyl i Aelodau wisgo
gorchuddion wyneb yn y Siambr, ac eithrio pan fyddant yn siarad, tan o leiaf
doriad y Pasg.
Dydd Mercher
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Cyfarfod: 15/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 86
Cofnodion:
Dydd Mawrth
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm.
Dydd Mercher
- Cwestiynau
i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (
4530 mins) - Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.55pm.
Trafododd y
Pwyllgor Busnes ymhellach y posibilrwydd o wneud 30 munud yn amseriad diofyn ar
gyfer datganiadau’r llywodraeth. Dywedodd y Trefnydd fod y llywodraeth wedi
cwtogi'r amser a neilltuwyd i rai datganiadau yn ystod yr wythnosau nesaf ac y
byddai'n parhau i adolygu hyn hyd nes doriad y Pasg.
Cyfarfod: 08/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 89
Cofnodion:
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor
Busnes at y newidiadau a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) Tynnwyd yn ôl- Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
dros dro (5 munud)
- Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) (15 munud)
Esboniodd y
Trefnydd fod Llywodraeth Cymru wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol (Rhif 2) ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) ar 3 Mawrth, ar ôl i'r
cynnig gwreiddiol ar gyfer y ddadl gael ei gyflwyno. Felly, er mwyn
sicrhau eglurder i'r Senedd, cafodd y cynnig ei dynnu yn ôl a'i ddisodli ar 7
Mawrth ac mae angen cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn gallu trafod y
cynnig newydd.
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 8.00pm.
Dydd Mercher
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Cyfarfod: 01/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 92
Cofnodion:
Dydd Mawrth
- Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm.
-
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu newydd ar Anabledd Dysgu (45 munud)– Tynnwyd yn ôl - Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
dros dro
- Cynnig o dan Reol Sefydlog
12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd - cynnig
1
- Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd - cynnig
2
Yn dilyn gohebiaeth a dderbyniwyd gan y Trefnydd, nododd
y Llywydd ei bod wedi rhoi ei chytundeb, yn unol â Rheol Sefydlog 33.8, y
gallai'r Senedd ystyried y Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog heddiw yng ngoleuni'r
amserlenni ynghylch ystyried Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd yn
Senedd y DU.
Cadarnhaodd y Llywydd ei bod wedi derbyn Cwestiwn Brys
i'w ofyn ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ar Wcrain.
Dywedodd y Llywydd hefyd y byddai ffotograffydd yn bresennol
yn y Siambr am gyfnod byr ar ddechrau’r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.
Fformat y Cyfarfod Llawn
Cadarnhaodd y Llywydd y bydd cynllun eistedd sefydlog ar
waith ar gyfer y Cyfarfod Llawn o heddiw ymlaen, ar ôl dileu'r cyfyngiadau ar
nifer yr Aelodau sy'n gallu bod yn y Siambr ar unrhyw adeg.
Cyfarfod: 15/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 95
Cofnodion:
Dydd Mawrth
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y bydd y Llywydd yn arwain teyrngedau i Aled Roberts ar
ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth gyda'r Prif Weinidog a chynrychiolwyr y
pleidiau yn cael eu galw i wneud cyfraniadau.
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.25pm.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm.
Cyfarfod: 08/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 98
Cofnodion:
Dydd Mawrth
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.55pm.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm.
Cyfarfod: 01/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 101 , View reasons restricted (3/1)
Cofnodion:
Dydd Mawrth
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.35pm.
Dydd Mercher
Tynnodd y Llywydd sylw'r Pwyllgor
Busnes at y newid canlynol i fusnes dydd Mercher:
Dadl Fer – James Evans (Brycheiniog
a Sir Faesyfed) (Tynnwyd
yn ôl)
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm.
Trafododd y Pwyllgor Busnes
ailddechrau trafodion hybrid yn y Cyfarfod Llawn a'r trefniadau mewn perthynas
ag egwyl ac ymyriadau. Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau
eu bod yn cael eu cynghori'n gryf i wisgo masgiau yn y Siambr ar wahân i pan
maent yn siarad, ac i gymryd Profion Llif Unffordd cyn dod i ystâd y Senedd.
Gofynnodd y Llywydd hefyd i Reolwyr
Busnes atgoffa eu Haelodau i gadw at derfynau amser o ran cyfraniadau yn y
Cyfarfod Llawn.
Cyfarfod: 25/01/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 104
Cofnodion:
Dydd Mawrth
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (15 munud)
- Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm.
Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr
Busnes at y gwelliant a gyflwynwyd i’r Ddadl Aelodau, a dywedodd y byddai'n
gwneud penderfyniad ar ddethol yfory.
Dydd Mercher
- Caiff
y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid
yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm.
Datganiadau
o fuddiant ôl-weithredol
Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr
Busnes atgoffa'r Aelodau mai eu cyfrifoldeb hwy yw gwneud unrhyw ddatganiadau
angenrheidiol yn ystod eu cyfraniadau.
Fformat y Cyfarfod Llawn
Cytunodd y rhan fwyaf o'r Pwyllgor
Busnes y dylai'r Cyfarfod Llawn ddychwelyd i gyfarfodydd hybrid gydag uchafswm
o 30 o Aelodau ar y tro yn y Siambr o 1 Chwefror os yw'r gofyniad i weithio
gartref, yn ôl y disgwyl, wedi'i godi.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
ddychwelyd i drafod y trefniadau a ddylai fod yn gymwys, gan gynnwys cynnydd
posibl i 60 o Aelodau, ar ôl y toriad hanner tymor mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Gofynnodd y Trefnydd am weld yr Asesiad Risg ar gyfer y Cyfarfod Llawn.
Cyfarfod: 18/01/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 107
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiad a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:
- Datganiad gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Diweddariad ar COVID-19 (45 munud)
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.30pm.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Fformat y
Cyfarfod Llawn
Cytunodd y rhan fwyaf o'r Pwyllgor
Busnes y dylai'r Cyfarfod Llawn barhau i gael ei gynnal yn rhithwir yn ystod yr
wythnos yn cychwyn 24 Ionawr a dychwelyd i gyfarfodydd hybrid o 1 Chwefror os
caiff y gofyniad i weithio gartref ei ddileu, fel y disgwylir, cyn hynny.
Cyfarfod: 11/01/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 110
Cofnodion:
Dydd Mawrth
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:
- Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
dros dro (5 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog
12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar
wahân (45 munud)
- Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021
- Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021
- Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd -gohiriwyd tan 18 Ionawr
Cytunodd y
Trefnydd hefyd i ymestyn yr amser a neilltuwyd i'r Ddadl ar Ddatganiad:
Cyllideb Ddrafft 2022-23 o 60 munud i 90 munud.
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i ethol Sioned Williams yn aelod o'r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Sian Gwenllian, yn dilyn ei phenodiad yn
Aelod Dynodedig.
Fformat y
Cyfarfod Llawn
Trafododd y
Pwyllgor Busnes fformat y Cyfarfodydd Llawn ar gyfer yr wythnosau nesaf.
Cytunodd mwyafrif y bydd y Cyfarfod Llawn yn parhau'n rhithwir yr wythnos
nesaf, gyda'r sefyllfa ar gyfer wythnosau i ddod yn cael ei hadolygu'n gyson.
Cyfarfod: 14/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 113
Cofnodion:
Dydd Mawrth
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 8.15pm.
Gofynnodd
Darren Millar i'r amser ar gyfer Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Cwricwlwm
Cymru, gael ei ymestyn o ystyried nifer yr Aelodau a allai fod yn dymuno siarad
arno. Dywedodd y Llywydd y bydd yn defnyddio ei disgresiwn i geisio sicrhau bod
pob Aelod sy'n dymuno siarad yn gallu gwneud
hynny.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm.
Cyfarfod
llawn rhithwir
Dywedodd y Llywydd ei bod, ar ôl ymgynghori ag arweinwyr
grwpiau, wedi penderfynu y cynhelir y Cyfarfod Llawn mewn fformat rhithwir yr
wythnos hon oherwydd y sefyllfa bresennol mewn perthynas â Coronafeirws, ond
bod Aelodau a'u staff yn parhau i allu cael mynediad i Dŷ Hywel at
ddibenion busnes, pan fydd angen hynny o ran llesiant neu os nad yw eu
hamgylchiadau'n caniatáu iddynt weithio'n effeithiol gartref.
Gofynnodd y
Llywydd i Reolwyr Busnes roi gwybod i'r Aelodau nad oes unrhyw seibiannau
wedi'u trefnu felly yn ystod y trafodion ac y bydd ymyriadau yn y Cyfarfod
Llawn rhithwir yr wythnos hon yn aros yr un fath ag y buont mewn trafodion
hybrid diweddar – dylai Aelodau godi llaw yn gorfforol i nodi pryd y maent yn
dymuno ymyrryd.
Adalw
Nododd y
Llywydd y byddai unrhyw achos o adalw’r Senedd a fyddai’n ofynnol dros doriad y
Nadolig yn digwydd yn rhithwir.
Cyfarfod: 07/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 116
Cofnodion:
Dydd Mawrth
·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.40pm.
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid canlynol i agenda dydd Mawrth:
·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Newid Hinsawdd: Gwaith Ymchwil Manwl ar Ynni Adnewyddadwy (45 munud) – datganiad ysgrifenedig i'w gyhoeddi yr wythnos hon gyda datganiad
llafar o bosibl i'w ddilyn yn y flwyddyn newydd unwaith y bydd yr Aelodau wedi
cael cyfle i ddarllen yr adroddiad llawn
Hysbysodd y
Llywydd Rheolwyr Busnes y bydd artist yn braslunio Cyfarfod Llawn o'r oriel
gyhoeddus fel rhan o brosiect am 'sut mae democratiaeth i’w weld’. Nid yw
hwn yn un o brosiectau’r Comisiwn.
Dydd
Mercher
·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm.
Cyfarfod: 30/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 119
Cofnodion:
Dydd Mawrth
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.15pm.
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn i agenda heddiw:
- Datganiad gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Diweddariad ar COVID-19 (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol - Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl (45 munud)
Mae'r
datganiad ar 'Cymru Iachach' a'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr
Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ill dau wedi'u gohirio tan 11 Ionawr.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.20pm.
Rhoddodd y
Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes am ei bwriad i gyhoeddi canlyniadau etholiad
Senedd Ieuenctid Cymru ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, cyn galw’r
busnes ffurfiol.
Nododd y
Llywydd y bwriedir i’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid
Cymru ddechrau ar 1 Rhagfyr. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod
wedi bod yn gohebu â'r Prif Weinidog am fanylion y cytundeb ac wedi gofyn am i
wybodaeth am sut y bydd yn gweithio'n ymarferol gael ei rhannu ag Aelodau'r
Senedd cyn gynted â phosibl. Unwaith y bydd y wybodaeth hon ar gael, dywedodd y
Llywydd ei bod yn bwriadu gwneud datganiad i'r Cyfarfod Llawn ar unrhyw effaith
y gallai'r trefniadau ei chael ar weithrediad Busnes y Senedd.
Cyfarfod: 23/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 122
Cofnodion:
Dydd Mawrth
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 8.00pm.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm.
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn i agenda heddiw:
- Datganiad gan y Gweinidog
Newid Hinsawdd - Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog y
Gymraeg ac Addysg - Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg (30 munud)
Dywedodd
Darren Millar wrth y Pwyllgor Busnes mai ef fydd yn gofyn cwestiynau Arweinwyr
y Pleidiau ar ran arweinydd grŵp y Ceidwadwyr heddiw.
Cyfarfod: 16/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 125
Cofnodion:
Dydd Mawrth
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 18.25.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 18.55.
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at ychwanegu'r Datganiad ar COP26, a gyflwynir
gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Mae datganiad ar Ail Gartrefi a
Fforddiadwyedd a datganiad ar Gynllun Tai Cymunedau Cymraeg a ychwanegwyd yn
flaenorol at agenda heddiw, wedi’u gohirio.
Egwyliau
Gofynnodd y
Llywydd i Reolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau i adael y Siambr yn ystod yr
egwyliau, fel y gall staff gyflawni'r paratoadau angenrheidiol wrth gadw pellter
addas.
Bil Aelod -
defnyddio'r bleidlais fwrw
Hysbysodd y
Llywydd y Pwyllgor Busnes, pe bai pleidlais gyfartal ar y cynnig yn ceisio
cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod yr wythnos hon, y byddai'r bleidlais
fwrw yn cael ei defnyddio o blaid yn unol â'r canllawiau cyfredol. Fodd bynnag,
mae'r Llywydd yn bwriadu adolygu'r canllawiau i sicrhau ei fod yn gyson ar
draws pob math o gynigion a bydd yn sicrhau bod Rheolwyr Busnes yn ymwybodol o
unrhyw ddiwygiadau.
Cyfarfod: 09/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 128
Cofnodion:
Busnes yr
wythnos hon
Dydd Mawrth
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.15pm.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm.
Nododd y
Pwyllgor Busnes drefniadau diogelwch ar gyfer protestiadau posibl y prynhawn
yma ynghylch y diwygiad diweddaraf i Reoliadau Coronafeirws, yn ymwneud â'r
estyniad arfaethedig o basys Covid-19 i gynnwys lleoliadau ychwanegol.
Cyfarfod: 02/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 131
Cofnodion:
Dydd Mawrth
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.30pm.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.20pm.
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at aildrefnu'r datganiad gan Weinidog yr
Economi: Economi Wyrddach a’r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg:
Gweithredu carbon sero-net a rhaglen ysgolion a cholegau'r 21ain ganrif.
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn i agenda dydd
Mawrth:
Dydd Mawrth 2 Tachwedd 2021
·
Cynnig i
atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
·
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd (15 munud)
·
Cyfnod
Pleidleisio (15 munud)
Nododd y
Llywydd fod datganiad gan y llywodraeth ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil
(Cymru) wedi'i drefnu ddydd Mercher. Esboniodd y Trefnydd fod hyn o ganlyniad i
hyd agenda dydd Mawrth, ac y byddai'r llywodraeth yn parhau i osgoi trefnu
eitemau ar ddydd Mercher oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol.
Cyfarfod: 19/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 134
Cofnodion:
Dydd Mawrth
·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.50pm.
Dydd
Mercher
·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.55pm.
Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes ei bod yn bwriadu gwneud datganiad o
gydymdeimlad yn dilyn marwolaeth Syr David Amess AS ar ddechrau'r Cyfarfod
Llawn heddiw, wedi’i ddilyn gan funud o dawelwch. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y
bydd Arweinwyr y Pleidiau a Jane Dodds hefyd yn talu teyrnged yn dilyn y funud
o dawelwch.
Cyfarfod: 12/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 137
Cofnodion:
Dydd Mawrth
·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.25pm.
Dydd
Mercher
·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.25pm.
Tynnodd y
Llywydd sylw'r Pwyllgor Busnes at ychwanegu'r eitem ganlynol ddydd Mercher, er
mwyn caniatáu i Lafur newid eu haelod ar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a’r Cyfansoddiad:
·
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5
mun)
Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd y Prif Weinidog yn ateb Cwestiynau i'r
Prif Weinidog yn rhithwir heddiw, ac y bydd y Trefnydd wrth gefn rhag ofn y
bydd problemau technegol.
Nododd y
Pwyllgor Busnes fod Paul Davies yn gweithredu fel Arweinydd dros dro Grŵp
y Ceidwadwyr. Dywedodd Darren Millar y byddai cwestiwn 5 i'r Prif Weinidog
heddiw yn cael ei dynnu'n ôl, yn unol â chytundeb blaenorol y Pwyllgor Busnes
nad yw arweinwyr y pleidiau yn rhan o’r balot ar gyfer Cwestiynau i’r Prif
Weinidog. Bydd Paul Davies hefyd yn tynnu ei hun allan dros dro o'r balot ar
gyfer Cwestiynau i’r Prif Weinidog tra mae'n Arweinydd Dros Dro.
Cyfarfod
Llawn yr wythnos diwethaf
Gofynnodd y
Llywydd i Reolwyr Busnes atgoffa Aelodau o'r Canllaw i'r Cyfarfod Llawn
Rhithwir a Hybrid, yn enwedig mewn perthynas â'r cyfnod pleidleisio.
Gofynnodd y
Llywydd i'r Trefnydd atgoffa'r Gweinidogion i fod yn bresennol ar amser ar
gyfer eu heitemau, yn dilyn yr angen i atal dros dro cyn eitem o fusnes yr
wythnos flaenorol.
Cyfarfod: 05/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 140
Cofnodion:
Dydd Mawrth
·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.55pm.
Dydd
Mercher
·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm.
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at newid teitl eitem ddydd Mawrth:
·
Datganiad
gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus ‘Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y Stori Hyd Yma '
Rhoi Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar waith yn genedlaethol (45
munud)
Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes ei bod yn bwriadu caniatáu amser ychwanegol i
Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus gyfrannu yn
ystod yr eitem, yng ngoleuni'r
ffaith bod y datganiad yn cynnwys cyfeiriad at adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus y Bumed Senedd.
Cyfarfod: 28/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 143
Cofnodion:
Dydd Mawrth
·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.25pm.
Dydd
Mercher
·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm.
Yn dilyn
cadarnhad bod y llywodraeth wedi gosod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 ac wedi trefnu dadl a
phleidlais ar 5 Hydref, dywedodd Darren Millar wrth y Pwyllgor Busnes na fydd
grŵp y Ceidwadwyr yn gwneud eu cynnig ar basys COVID a gyflwynwyd i'w
drafod ar 29 Medi. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn dadl y Ceidwadwyr ar
Drafnidiaeth y diwrnod hwnnw i awr.
Cyfarfod: 21/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 146
Cofnodion:
Dydd Mawrth
·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.10pm.
Dydd
Mercher
·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
·
Nid yw'r Cyfarfod
Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.
Gofynnodd y
Llywydd i’r Rheolwyr Busnes sicrhau, os bydd yr Aelodau’n bresennol yn y Siambr
cyn ac ar ôl y toriad, y dylent barhau i ddefnyddio’r un sedd.
Gofynnodd y
Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau o’r gofynion i ddatgan buddiannau
perthnasol, lle bo hynny’n briodol, cyn cyfrannu at y trafodion. Bydd y Swyddfa
Gyflwyno hefyd yn cyhoeddi nodyn i'r holl Aelodau.
Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd canlyniad balot cyntaf y Chweched Senedd
ar gyfer Bil Aelod yn cael ei gyhoeddi ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn ddydd
Mercher.
Cyfarfod: 14/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 149
Cofnodion:
Dydd Mawrth
·
Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 5.10pm.
Dydd Mercher
·
Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm.
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn i agenda dydd Mawrth:
·
Datganiad
gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Affganistan (45 munud)
·
Datganiad
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am
Covid-19 (45 munud)
·
Datganiad
gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y
Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (45 munud)
·
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Amgylchedd (45 munud) - gohiriwyd tan 28 Medi
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y byddai egwyl ar ôl y datganiad ar Affganistan ddydd Mawrth,
ac ar ôl y Datganiadau 90 Eiliad dydd Mercher.
Nododd y
Rheolwyr Busnes fod uchafswm o 30 o Aelodau bellach yn gallu bod yn bresennol
yn gorfforol yn y Siambr yn ystod y trafodion, a bod Aelodau'n cael eu hannog i
wisgo gorchuddion wyneb wrth fynd i mewn i'r Siambr a'i gadael a chânt eu
hannog yn gryf i gymryd Prawf Llif Unffordd cyn bod yn bresennol. Trafododd y
Rheolwyr Busnes hefyd agweddau ymarferol ynghylch cyflwyno ymyriadau mewn
sesiynau hybrid a lleihau’r cyfnodau o egwyl i un ym mhob sesiwn. Cytunodd y
Llywydd y dylai'r wythnos hon fod yn gyfle i brofi’r gweithdrefnau hyn, ac y
dylai'r Pwyllgor ddychwelyd at y materion hyn yr wythnos nesaf.
Cyfarfod: 13/07/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 152
Cofnodion:
Busnes yr
wythnos hon
Dydd Mawrth
·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.05pm.
Dydd Mercher
·
Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.50pm.
Cododd y
Rheolwyr Busnes bryderon eto am gyhoeddiadau polisi sylweddol gan Lywodraeth
Cymru sy'n cael eu gwneud i'r cyfryngau yn hytrach nag i'r Senedd.
Ailadroddodd
y Llywydd mai ei barn hi ers tro oedd y dylai cyhoeddiadau polisi sylweddol
gael eu gwneud yn y Cyfarfod Llawn, ac y byddai'n parhau i ddefnyddio ei
disgresiwn i dderbyn Cwestiynau Amserol yn ymwneud â materion o'r fath.
Cyfarfod: 06/07/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 155
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu dau ddatganiad at agenda dydd Mawrth:
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Fforddiadwyedd, Ail Gartrefi a'r Gymraeg (45 munud)
·
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac
Addysg: Diwygio'r Cwricwlwm – Y Camau Nesaf (45 munud)
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes hefyd at y ffaith mai hi fyddai'n ateb
cwestiynau'r Prif Weinidog yr wythnos hon, a byddai'r datganiad ar y Rhaglen
Ddeddfwriaethol yn cael ei gyflwyno gan y Cwnsler Cyffredinol, yn absenoldeb y
Prif Weinidog.
Dydd Mawrth
·
Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.05pm.
Dydd Mercher
·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer gyntaf.
·
Nid yw'r Cyfarfod
Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm.
Cyfarfod: 29/06/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 158
Cofnodion:
Tynnodd y Llywydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu'r enwebiadau ar gyfer cadeiryddion
pwyllgorau at agenda dydd Mawrth.
Dydd Mawrth
·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.05pm.
Dydd Mercher
·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer gyntaf.
·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm.
Cefndiroedd
ar Zoom
Gofynnodd y
Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau y dylai cefndiroedd fod yn blaen
fel bod Aelodau sy'n cyfrannu o'r Siambr a thrwy Zoom yn cael eu trin yn deg.
Mae'r canllawiau a roddir i Aelodau hefyd yn gofyn i Aelodau sicrhau bod
ganddynt gefndir plaen, heb unrhyw beth i dynnu sylw, am resymau technegol.
Dehongliad
BSL
Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar
gael ar Senedd.tv ar gyfer cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
ddydd Mercher, i’w dreialu i ddechrau. Bydd y dehongliad yn cael ei ychwanegu
at y recordiad 'fel i fod yn fyw' i'w gyhoeddi ar Senedd.tv y diwrnod canlynol,
fel sy'n digwydd ar hyn o bryd gyda Chwestiynau'r Prif Weinidog.
Oriel
gyhoeddus - egwyliau
Cafodd y
Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y bydd yr oriel gyhoeddus ar agor am
y tro cyntaf yr wythnos hon, a gofynnodd iddynt hysbysu'r Aelodau y bydd angen
iddynt fod yn ymwybodol o'r ffaith y gellir eu gweld a'u clywed yn ystod
egwyliau.
Cyfarfod: 22/06/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 161
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu’r datganiadau canlynol:
Dydd Mawrth
22 Mehefin 2021
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Coronafeirws (45 munud)
·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Newid Hinsawdd: Adolygiad o Ffyrdd (45
munud)
Dydd Mawrth
·
Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.05pm.
Dydd
Mercher
·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer gyntaf.
·
Nid yw'r Cyfarfod
Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm.
Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd yn rhannu'r Siambr yn 4 'bloc':
Gweinidogion, Aelodau meinciau cefn Llafur, y Ceidwadwyr a Plaid/Jane Dodds. Os
bydd un Aelod mewn unrhyw floc yn newid yn ystod egwyl, yna bydd y Llywydd yn
gofyn i'r bloc cyfan adael, ac yna ni ddylai unrhyw Aelodau fynd i mewn i'r
Siambr nes bod y gloch wedi'i chanu.
Cyfarfod: 15/06/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 164
Cofnodion:
Busnes yr
wythnos hon
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu’r datganiadau canlynol:
Dydd Mawrth
15 Mehefin 2021
·
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y
Rhaglen Lywodraethu (60 munud)
Dydd
Mercher 16 Mehefin 2021
·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Newid Hinsawdd: Newid yn yr Hinsawdd (45
munud)
Dydd Mawrth
·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.50pm.
Dydd
Mercher
·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ddechrau Cyfarfod Llawn dydd Mercher am 12.30 ac i ohirio
Dadl Fer Jack Sargeant tan ddydd Mercher nesaf.
Cyfarfod: 08/06/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 167
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu’r datganiadau canlynol:
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Coronafeirws (45 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Statws Preswylydd Sefydlog yr UE (45 munud)
·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol: Cronfa i roi seibiant neu egwyl fer i ofalwyr di-dâl
(45 munud)
Cytunodd y
Trefnydd i adfer hyd y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes i 30 munud o'r wythnos
hon ymlaen.
Dydd Mawrth
·
Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 5.10pm.
Dydd
Mercher
·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm.
Cyfarfod: 25/05/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 170
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu’r datganiad canlynol:
·
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac
Addysg: Adnewyddu a diwygio: cefnogi lles a chynnydd dysgwyr (45 Munud)
Cytunodd y
Trefnydd i ymestyn yr eitem rheoliadau coronafeirws i 30 munud.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i'r un cyfle arfaethedig i newid drosodd. Gofynnodd y Llywydd
i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau i adael y Siambr yn gyflym, ac i'r rhai
sy'n dod i mewn i beidio â gwneud hynny nes bod y gloch wedi'i chanu.
Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd Aelodau'n parhau i gael 1 funud fesul
cwestiwn atodol, a bydd gan arweinwyr y pleidiau 3 x 1 funud ar gyfer eu
cwestiynau, fel o'r blaen.
Dydd
Mercher
·
Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 4.30pm.