Cyfarfodydd
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 24/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Nid oes
unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos
nesaf.
Cyfarfod: 17/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau
a ganlyn:
Dydd Mawrth
24 Ionawr –
·
Datganiad
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynyddu nifer y gweithwyr
proffesiynol perthynol i iechyd mewn gofal sylfaenol a chymunedol (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud) wedi’i ohirio o 17 Ionawr
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y newidiadau a ganlyn i fusnes ar yr amserlen:
Dydd Mawrth
31 Ionawr –
·
Cwestiynau
i Weinidog yr Economi (45 munud) Symudwyd o 1 Chwefror
·
Cwestiynau i’r
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) Symudwyd o 1 Chwefror
·
Cwestiynau
Amserol (20 munud) Symudwyd
o 1 Chwefror
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) (15 munud)
Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)Symudwyd i 31 IonawrCwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)Symudwyd i 31 Ionawr
Cyfarfod: 10/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr
ychwanegiadau a ganlyn i’r amserlen:
Dydd Mawrth
24 Ionawr 2023
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac
Addysg: Gwella Ysgolion a'r Dirwedd Wybodaeth (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac
Addysg: Cyfrifiad 2021 – Canlyniadau o ran y Gymraeg (30 munud)
· Rheoliadau’r Dreth Gwarediadau
Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 (15 munud)
· Rheoliadau Dyrannu Tai a
Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 (15 munud)
Ystyriodd y
Pwyllgor nodyn ar y strwythur ac amseriad ar gyfer gwrandawiad cyntaf dadl
Ystyriaeth Gychwynnol ar Fil Cydgrynhoi - Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru),
sydd wedi’i hamserlennu ar gyfer dydd Mawrth 17 Ionawr.
Cyfarfod: 13/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr
ychwanegiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
10 Ionawr 2023
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau'r Gaeaf ar y GIG (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Costau Byw (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol: Amrywiaeth mewn Democratiaeth – Canlyniadau'r Arolwg (30
munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Bioamrywiaeth (30 munud)
Dydd Mawrth
17 Ionawr 2023
· Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Blaenoriaethau Economaidd a Chysylltiadau Llywodraeth y DU (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac
Addysg: Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (30 munud)
· Rheoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru)
(Diwygio) 2023 (15 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) (45 munud)
· Dadl Ystyriaeth Gychwynnol ar Fil
yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (45 munud)
Cyfarfod: 06/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau
a ganlyn:
Dydd Mawrth 13 Rhagfyr
· Rheoliadau Ardrethu Annomestig
(Symiau Taladwy) (Cymru) 2022 (5 munud)
Dydd Mawrth
10 Ionawr
· Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Datblygu Clystyrau Technolegol yng Nghymru - cynhyrchu isotopau radio meddygol
ac arbenigedd meddygaeth niwclear (30 munud)
Cyfarfod: 29/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau
a ganlyn:
Dydd Mawrth
13 Rhagfyr
· Rheoliadau’r Fasnach mewn
Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol)
ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022 (15
munud)
· Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid
(Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 (15 munud)
Dywedodd y
Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes fod y Llywodraeth yn bwriadu gwneud cynnig heb
rybudd o dan Reol Sefydlog 26.48 ar 6 Rhagfyr er mwyn cynnig bod y Senedd yn pasio'r
Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), yn syth ar ôl i
drafodion Cyfnod 3 ddod i ben. Nododd y Pwyllgor Busnes ei fodlonrwydd â
defnyddio’r dull hwnnw ar gyfer y Bil hwn ond mynegodd farn na ddylai fod yn
arfer cyffredin.
Cyfarfod: 22/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau
a ganlyn:
Dydd Mawrth
29 Tachwedd
· Cynnig i amrywio’r drefn o ystyried
gwelliannau Cyfnod 3 i Fil Diogelu'r Amgylchedd (Plastigau Untro) (Cymru) (5
munud)
Dydd Mawrth
6 Rhagfyr
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd:
Newid Hinsawdd – Datganiad Terfynol ar gyfer Cyllideb Garbon 1 (30 munud)
Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau
a ganlyn:
Dydd Mawrth
22 Tachwedd 2022
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder
Cymdeithasol: Glasbrintiau Cyfiawnder Menywod a Chyfiawnder Ieuenctid:
Adroddiad cynnydd a'r camau nesaf (30 munud)
Dydd Mawrth
29 Tachwedd 2022
· Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi
(Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygio Canlyniadol) 2022 (15 munud)
· Rheoliadau’r Cynllun Morol,
Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 (15 munud)
Cyfarfod: 08/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau
a ganlyn:
Dydd Mawrth 15 Tachwedd -
· Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru (30 munud)
Dydd Mawrth 22 Tachwedd -
· Rheoliadau Daliadau Amaethyddol
(Ffi) 2022 (5 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
Fil Protocol Gogledd Iwerddon (45 munud) - Wedi’i ohirio o 8 Tachwedd
· Cyfnod Pleidleisio (5 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Datblygu Clystyrau Technolegol yng Nghymru - cynhyrchu isotopau radio meddygol
ac arbenigedd meddygaeth niwclear (30 munud) – wedi'i ohirio tan 13 Rhagfyr
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref a Rhagolygon Ariannol ac
Economaidd Llywodraeth y DU (30 munud) – wedi'i ohirio o 8 Tachwedd
Cyfarfod: 25/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
Dydd Mawrth
8 Tachwedd -
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Wella Gwasanaeth Mamolaeth a
Newydd-anedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (30 munud) -Tynnwyd yn ôl
Dydd Mawrth
15 Tachwedd -
- Dadl: Adroddiad Blynyddol
2021-22 Comisiynydd y Gymraeg (60 munud)
Cyfarfod: 18/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd
Mercher 26 Hydref –
- Cynnig i Ethol Cadeirydd Dros
Dro yn y Cyfarfodydd Llawn (5 munud)
Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022 –
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Cysylltedd digidol - band eang
(60 munud)
- Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr
Economi, Masnach a Materion Gwledig: Pwysau costau byw (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r
Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Cyfarfod: 11/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau
a ganlyn:
Dydd Mawrth
18 Hydref –
·
Datganiad
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Model Addysg Gyflenwi (30 munud) Tynnwyd yn ôl
Dydd Mawrth
25 Hydref –
·
Dadl: Adroddiad
Blynyddol 2021-22 Comisiynydd y Gymraeg (60 munud) wedi’i symud o 8 Tachwedd
Cyfarfod: 04/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau
a ganlyn:
Dydd Mawrth
11 Hydref –
·
Datganiad gan
Weinidog yr Economi: Datblygu Economaidd Rhanbarthol (30 munud) – symudwyd i 4 Hydref
·
Datganiad
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Tai mewn Cymunedau Cymraeg (30 munud)
Dydd
Mercher 12 Hydref –
·
Cwestiynau
i Weinidog yr Economi (45 munud) – gohiriwyd i 19 Hydref
·
Cwestiynau
i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud) – symudwyd o 19 Hydref
Dydd Mawrth
18 Hydref –
·
Rheoliadau
Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol)
(Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022 (15 munud)
Dydd
Mercher 19 Hydref –
·
Cwestiynau
i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud) - symudwyd i 12 Hydref
·
Cwestiynau
i Weinidog yr Economi (45 munud) – symudwyd o 12 Hydref
Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 4 Hydref 2022 –
·
Datganiad gan
Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip: Treftadaeth y Byd
yng Ngogledd-orllewin Cymru (30 munud) - gohiriwyd o 27 Medi
Nododd y Trefnydd fod y Llywodraeth
yn ystyried a fyddai modd symud unrhyw eitemau o fusnes ymlaen o 11 Hydref i 4
Hydref er mwyn gwella cydbwysedd y busnes sydd wedi'i drefnu ar gyfer y
cyfarfodydd hynny.
Dydd Mawrth 11 Hydref 2022 –
·
Rheoliadau’r
Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 (15
munud) - gohiriwyd
tan 18 Hydref
·
Gorchymyn
Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022 (15
munud) - gohiriwyd
tan 18 Hydref
Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn
egwyddor i newid y cwestiynau llafar i Weinidog yr Economi ar 12 Hydref gyda
naill ai’r cwestiynau llafar i'r Gweinidog Newid Hinsawdd neu Weinidog y
Gymraeg ac Addysg, a drefnwyd ar gyfer 19 Hydref, yn amodol ar gael cadarnhad
gan y Llywodraeth.
Cyfarfod: 20/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
27 Medi 2022 -
- Datganiad
gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bil
Amaethyddiaeth (Cymru) (60 munud)
- Datganiad
gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Darpariaeth y
Blynyddoedd Cynnar - Ehangu Dechrau’n Deg (30 munud)
- Datganiad
gan y Gweinidog Addysg: Cefnogi’r Gweithlu'r Addysg (30 munud)
- Datganiad
gan Weinidog yr Economi: Qatar 2022 (30 munud)
- Datganiad
gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)
- Datganiad
gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip:
Treftadaeth y Byd yn y Gogledd-orllewin (30 munud)
Dydd Mawrth
4 Hydref 2022 –
- Datganiad
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 Adroddiad Blynyddol 2020-21
(30 munud)
Dydd Mawrth
11 Hydref 2022 –
- Datganiad
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyhoeddi’r Papur
Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol (30 munud)
- Datganiad
gan Weinidog yr Economi: Datblygu Economaidd Rhanbarthol (30 munud)
- Datganiad
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymdrin â Feirysau
Anadlol (30 munud)
- Datganiad
gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Gwerthusiad o’r
Strategaeth “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl” a’r Camau Nesaf (30 munud)
- Rheoliadau’r
Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022
(15 munud)
- Gorchymyn
y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022
(15 munud)
- Cynnig
o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond
gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
o
Dadl ar
Egwyddorion Cyffredinol y Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro)
(Cymru)
o
Cynnig i
gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Diogelu’r Amgylchedd
(Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
Mae’r dyddiadau ar gyfer sesiynau
Cwestiynau Llafar yn y dyfodol hefyd wedi'u haddasu yn dilyn y cyfnod o Alaru
Cenedlaethol a byddant yn cael eu hailgyhoeddi.
Cyfarfod: 12/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 47
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr
ychwanegiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
13 Medi 2022 –
·
Datganiad gan
y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig
Untro) (Cymru) (60 munud)
·
Datganiad gan
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr (45
munud)
Cyfarfod: 05/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
Cofnodion:
Ni wnaed unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth
ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Cyfarfod: 28/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau
a ganlyn:
Dydd Mawrth 12 Gorffennaf 2022 -
·
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr
eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)
o
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
(Tenantiaethau Cymdeithasau Tai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022
o
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
(Diwygiadau Canlyniadol) 2022
o
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
(Diwygio Atodlen 12) 2022
o
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
(Diwygio) 2022
·
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol)
(Rhif 2) (Cymru) 2022 (10 munud)
·
Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20
mya) (Cymru) 2022 (30 munud)
·
Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd)
(Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2022 (15 munud)
·
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr
Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (10 munud)
Cyfarfod: 21/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 56
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 28 Mehefin -
·
Datganiad gan
y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer
Pobl sy’n Gadael Gofal (30 munud) - aildrefnwyd
·
Datganiad
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladu (30 munud)
·
Datganiad
gan Weinidog yr Economi: Mesurau Rheoli Ffiniau (30 munud)
Dydd Mawrth
5 Gorffennaf -
·
Datganiad
gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu (60 munud)
·
Datganiad gan
y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol
(Cymru) (45 munud)
Cyfarfod: 14/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 59
Cofnodion:
Ni wnaed
unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos
nesaf.
Cyfarfod: 07/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 62
Cofnodion:
Nid oes
unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos
nesaf. Tynnodd y Trefnydd sylw at y ffaith bod dadleuon a'r cyfnod
pleidleisio wedi'u trefnu cyn datganiadau gweinidogol ar 28 Mehefin oherwydd
bod darlith gyfansoddiadol yn cael ei chynnal y noson honno, ac y bydd pob
Aelod yn cael gwahoddiad.
Cyfarfod: 24/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 65
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a
ganlyn:
Dydd Mawrth
14 Mehefin 2022 –
·
Datganiad gan
y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)
Cyfarfod: 17/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 68
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad a ganlyn:
Dydd Mawrth
24 Mai 2022
·
Datganiad
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyfiawnder yng Nghymru
(30 munud)
Cyfarfod: 10/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 71
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
17 Mai 2022 -
·
Datganiad
gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)
·
Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10)
2022 (15 munud)
Cyfarfod: 03/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 74
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 10 Mai -
- Datganiad
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru 2
- Datganiad
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Fframwaith
Canlyniadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dydd Mawrth 17 Mai -
- Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y
Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol: cyflawni'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer
Addysg Gerddoriaeth
- Datganiad gan y Gweinidog
Newid Hinsawdd: Y Gronfa Tai â Gofal
- Datganiad gan Weinidog yr
Economi: Ynni Morol Alltraeth
Nododd y Pwyllgor Busnes fod trefn y cwestiynau i weinidogion ar 11 Mai
wedi'i haddasu, gyda chwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol yn dod cyn cwestiynau i Weinidog yr Economi.
Cyfarfod: 26/04/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 77
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
3 Mai 2022
·
Datganiad
gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)
·
Datganiad
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Presenoldeb Ysgol (30 munud)
·
Dadl: Hawliau Dynol (60 munud)
Dydd Mawrth 10 Mai 2022
·
Rheoliadau
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol)
(Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 (15 munud)
Gwnaeth Sian
Gwenllian gais am wybodaeth bellach ynghylch Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol
ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a
Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022. Cytunodd y Trefnydd i ddarparu hyn yn dilyn
y cyfarfod.
Cyfarfod: 29/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 80
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
26 Ebrill 2022 -
- Datganiad gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19
- Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin
- Datganiad gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Adfer Gofal wedi'i Gynllunio
- Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i
ariannu Swyddogion ychwanegol Cymorth Cymunedol yr Heddlu
- Datganiad gan y Dirprwy
Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Therapi Trosi
- Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal
- Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21
Cyfarfod: 22/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 83
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor
Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 29 Mawrth 2022 –
·
Datganiad gan
y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Gwaith Teg: diweddariad cynnydd
blynyddol (45 30 munud)
·
Datganiad gan
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iach (45 munud) - tynnwyd yn ôl
·
Rheoliadau
Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 (15 munud)
·
Cynnig i
atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
·
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau (15 munud)
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr
Busnes ei bod yn debygol y bydd Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn cael eu cynnal
yn hwyrach na’r arfer yn ystod y cyfarfod ar 29 Mawrth oherwydd argaeledd y
Prif Weinidog.
Dywedodd y Trefnydd fod y
llywodraeth yn bwriadu cynnal dadl ar reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020
(Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 ar 29 Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor Busnes
i gyfeirio’r Rheoliadau at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
er mwyn craffu arno a’r dyddiad cau ar gyfer adrodd fydd bore 28 Mawrth.
Dydd Mawrth 26 Ebrill 2022 -
- Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Iaith Arwyddion Prydain (15 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog
12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar
wahân (60 munud)
o
Dadl ar
Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)
o
Cynnig i
gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Deddfau Trethi Cymru
etc. (Pŵer i Addasu)
Cafodd y Pwyllgor Busnes y
wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd ar y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol
cyfredol:
- Bydd Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Etholiadau yn cael ei osod heddiw.
Cytunwyd y dylid pennu dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef bore 29
Mawrth. Byddai’r cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy’n ymwneud â’r
Bil hwn yn cael eu trafod yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
- Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
adolygu’r dyddiad cau ar gyfer adrodd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol
ar Fil Iaith Arwyddion Prydain i 26 Ebrill oherwydd bod amserlen y Bil yn
San Steffan wedi cyflymu.
- Disgwylir i Gynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (rhif 5) ar y Bil Diogelwch Adeiladau gael ei osod
yr wythnos hon, a bwriedir cynnal y ddadl ar 29 Mawrth. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar bob Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil hwn i 29 Mawrth er mwyn rhoi pob cyfle
i’r pwyllgor graffu arno.
Cyfarfod: 15/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 86
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 22 Mawrth 2022 -
·
Datganiad gan
y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Gronfa Tai â Gofal (45 munud) – tynnwyd yn ôl
·
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (30 munud) - gohiriwyd tan 29 Mawrth
Dydd Mawrth 29 Mawrth 2022 –
·
Datganiad gan
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 (45
30 mins)
·
Datganiad
gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio Ardrethi Annomestig (30
munud)
·
Rheoliadau
Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022
(15 munud)
·
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (30 munud)
Cyfarfod: 08/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 89
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 15 Mawrth 2022 -
·
Datganiad
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau Net Sero
Cyson y DU (45 munud)
Dydd Mawrth 22 Mawrth 2022 -
·
Datganiad gan
y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Gronfa Tai â Gofal (45 munud)
·
Cynnig o
dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân (15 munud)
- Rheoliadau Cyd-bwyllgorau
Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022
- Gorchymyn Deddf Trosedd ac
Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022
·
Rheoliadau’r
Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol)
(Cymru) 2022 (30 munud)
·
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (30 15 munud)
Yng ngoleuni’r ffaith y rhagwelir nifer o achosion pan
fydd y Cyfarfod Llawn yn gorffen yn hwyr ar ddydd Mawrth, cynigiodd Darren
Millar y gallai fod yn fuddiol dychwelyd at amserlennu datganiadau’r
llywodraeth fel mater o drefn am 30 munud ac eithrio pan fydd diddordeb
sylweddol gan Aelodau. Trafododd y Pwyllgor Busnes oblygiadau hyn i nifer
yr Aelodau y byddai modd eu galw a chytunwyd y dylai'r Llywodraeth ystyried hyn
wrth iddi amserlennu busnes.
Cyfarfod: 01/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 92
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau
a ganlyn:
Dydd Mawrth 8 Mawrth 2022 -
- Datganiad gan
Weinidog yr Economi: Cymru Gryfach, Decach, Wyrddach: Cynllun ar gyfer
Cyflogadwyedd a Sgiliau (45 munud)
- Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) (15
munud)
Dydd Mawrth 15 Mawrth 2022 -
·
Dadl: Ail
Gyllideb Atodol 2021-22 (30 munud)
·
Dadl:
Diwygiad i Setliad Llywodraeth Leol 2021-2022 (15 munud)
Gofynnodd Darren Millar a yw'n fwriad gan Lywodraeth
Cymru i wneud datganiad llafar ar y trefniadau ar gyfer erthyliad meddygol
cynnar gartref, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 24 Chwefror.
Cytunodd y Trefnydd i ddarparu rhagor o wybodaeth ar ffurf nodyn i Aelodau'r
Pwyllgor Busnes.
Cyfarfod: 15/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 95
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd
Mercher 1 Mawrth 2022 -
- Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022 (20
munud)
Dydd Mawrth
8 Mawrth 2022 -
- Rheoliadau Etholiadau Lleol
(Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022 (15 munud)
Cyfarfod: 08/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 98
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd
Mercher 1 Mawrth 2022 -
- Datganiad gan Weinidog y
Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 – y camau nesaf (45 munud)
- Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau (15 munud)
Dadl: Cymraeg 2050 Adroddiad Blynyddol 2020-21 (60 munud)
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i adolygu'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar y
Memorandwm Atodol (Rhif 2) ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau hyd at fore 1 Mawrth
2022, yn hytrach na 3 Mawrth, yng ngoleuni'r dyddiad a bennwyd ar gyfer y
ddadl.
Cyfarfod: 01/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 101
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
8 Chwefror 2022 -
·
Datganiad
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Arloesedd mewn Ynni Adnewyddadwy (45 munud) – caiff ei gyhoeddi fel datganiad
ysgrifenedig
·
Datganiad gan
y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr (45 munud) – caiff ei gyhoeddi fel datganiad
ysgrifenedig
·
Datganiad
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cap ar Brisiau Ynni (45 munud)
Dydd Mawrth
15 Chwefror 2022 -
·
Rheoliadau
Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 2022 (15 munud)
·
Rheoliadau
Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol
a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022 (15 munud)
·
Rheoliadau
Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022 (15
munud)
·
Rheoliadau
Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022 (15 munud)
Cyfarfod: 25/01/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 104
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
1 Chwefror 2022 -
·
Dadl: Adroddiad Effaith Blynyddol y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (60 munud) Wedi’i ohirio gan dymor yr haf
Dydd Mawrth
8 Chwefror 2022 -
·
Cynnig
Cydsyniad Deddfwiaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi
Barnwrol (15 munud)
Cyfarfod: 18/01/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 107
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
25 Ionawr 2022 -
·
Datganiad
gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gaffael
(45 munud)
·
Datganiad gan
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Cyllid Hosbisau (45
munud)
·
Datganiad
gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Cofio'r Holocost (45 munud)
·
Datganiad
gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y
Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019/22 (45 munud)
Dydd Mawrth
1 Chwefror 2022 -
·
Datganiad
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lansio Cronfa newydd
Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)
·
Datganiad
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Archwilio diwygio'r diwrnod ysgol a'r
flwyddyn ysgol (45 munud)
·
Datganiad
gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Mis Hanes LHDTC+ (45 munud)
·
Datganiad
gan Weinidog yr Economi: Cymru ac Ewrop – rheoli perthynas newydd (45 munud)
·
Gorchymyn
Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2022 (5 15
munud)
·
Rheoliadau
Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru)
(Ymadael â’r UE) 2021 (5 10 munud)
·
Dadl: Adroddiad Effaith Blynyddol y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (60 munud)
Cyfarfod: 11/01/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 110
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
18 Ionawr 2022 -
·
Datganiad
gan Weinidog yr Economi: Economïau Rhanbarthol Cryfach (45 munud)
·
Datganiad
gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip Y wybodaeth
ddiweddaraf am y cynnydd yn dilyn cyhoeddi 'Y Fasnach Gaethweision a'r
Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o goffáu yng Nghymru’ (45 munud)
·
Datganiad
gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: BlasCymru/TasteWales – hyrwyddo
bwyd a diod o Gymru i’r byd (45 munud)
·
Datganiad
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cymorth Cyfreithiol a
Mynediad at Gyfiawnder (45 munud)
·
Cynnig o
dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y canlynol gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân: (30 munud)
o
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd:
Cynnig 1
o
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd:
Cynnig 2
Cyfarfod: 14/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 113
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
11 Ionawr 2022 -
·
Datganiad gan
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach (45 munud) - tynnwyd yn ôl
·
Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22)
2021 (30 munud)
Cyfarfod: 07/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 116
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
14 Rhagfyr 2021 –
·
Datganiad gan
y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Llunio Dyfodol Cymru – Gosod cerrig
milltir cenedlaethol, dangosyddion cenedlaethol diwygiedig a chyhoeddi
adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol (45 munud)
·
Datganiad
gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Diweddariad ar
y cynnydd yn dilyn cyhoeddi 'The Slave Trade and the British Empire: An
audit of commemoration in Wales' (45 munud) – gohirio
·
Datganiad
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladu (45 munud)
·
Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21)
2021 (30 munud)
Nododd y Pwyllgor Busnes fod
disgwyl i'r adolygiad tair wythnos diweddaraf o’r Rheoliadau Coronafeirws gael
ei gynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon, a bod posibilrwydd o newidiadau i’r
Rheoliadau Coronafeirws o ganlyniad. Cododd Rheolwyr Busnes gyda'r Trefnydd y
byddent yn dymuno cael pleidlais ddangosol yn y Cyfarfod Llawn cyn toriad y
Nadolig pe bai newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud.
Cyfarfod: 23/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 119
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
30 Tachwedd 2021 –
·
Datganiad
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Cynllun Gweithredu Digartrefedd (45 munud)
·
Datganiad gan
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trawsnewid Proffesiynau Iechyd
Perthynol (45 munud) -
wedi'i dynnu'n ôl
Dydd Mawrth
7 Rhagfyr 2021 –
·
Datganiad
gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
Ymchwil Manwl ar Ynni Adnewyddadwy (45 munud)
·
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhenti Tir) (15
munud) –
gohiriwyd tan 14 Rhagfyr
Tynnodd y
Llywydd sylw at y Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru
a gofynnodd i'r Trefnydd a fydd datganiad yn cael ei drefnu cyn i'r Cytundeb
ddod i rym ar 1 Rhagfyr. Dywedodd y Trefnydd y bydd y Rhaglen Lywodraethu yn
cael ei diweddaru ac y bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad cyn y Nadolig.
Cyfarfod: 16/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 122
Cofnodion:
Cynghorodd y
Trefnydd y Pwyllgor Busnes nad oedd unrhyw newidiadau i amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Cyfarfod: 09/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 125
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
16 Tachwedd 2021 -
·
Datganiad
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diweddariad ar y Comisiwn
Cyfansoddiadol (30 munud)
Dydd Mawrth
23 Tachwedd 2021 -
·
LCM ar y
Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) (15 munud) - gohirio tan 7 Rhagfyr
Cadarnhaodd
y Trefnydd fod y Rheoliadau y cynigir eu grwpio ar gyfer un ddadl ar 30
Tachwedd i gyd yn ymwneud â sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol.
Cyfarfod: 02/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 128
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
9 Tachwedd 2021 –
·
Datganiad gan
y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru ac Affrica (45 munud)
·
Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19)
2021 (20 munud)
·
Rheoliadau
Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021 (15 mun)
Dydd Mawrth
16 Tachwedd 2021 –
·
Datganiad
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Llafaredd a Darllen Plant Y
Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol (45 munud)
Cyfarfod: 19/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 131
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd
Mercher 2 Tachwedd 2021 –
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19 (45 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Strategaeth Sero-Net (60 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Lleihau allyriadau o gynhyrchu ynni (45 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd:
Rhaglen Ôl–osod er mwyn Optimeiddio 2 – Cynhesrwydd Fforddiadwy Arbennig (45
munud)
Dydd
Mercher 9 Tachwedd 2021 –
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19 (45 munud)
Cyfarfod: 12/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 134
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
19 Hydref 2021 –
·
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Symud
Economi Cymru Ymlaen (45 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Diogelu'r Gaeaf Iechyd a Gofal Cymdeithasol
2021-22 (45 munud)
Cyfarfod: 05/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 137
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
19 Hydref 2021 –
·
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Cyfansoddiadol (45 munud)
·
Rheoliadau'r Fasnach mewn
Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) (Rhif
3) 2021 (10 munud)
Dydd
Mercher 20 Hydref 2021 –
·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Metro
(45 munud)
Cyfarfod: 28/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 140
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd
Mercher 5 Hydref 2021 –
·
Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 (45 munud)
Dydd
Mercher 12 Hydref 2021 –
·
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac
Addysg: Cefnogi llesiant meddwl mewn addysg (45 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19 (45 munud)
·
Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru
2020-21 (60 munud)
Cytunodd y
llywodraeth i ymestyn faint o amser a amserlennwyd ar gyfer dadl ar Reoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17)
2021 o 30 i 45 munud.
Cyfarfod: 21/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 143
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
28 Medi 2021 -
·
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Cyfansoddiadol (45 munud) - Gohiriwyd
Dydd Mawrth
5 Hydref 2021 -
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (45 mun)
·
Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
‘Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y Stori Hyd yma’ (45 munud)
·
Dadl: Datganoli Pwerau Trethu
Newydd (60 munud)
Gofynnodd y
Rheolwyr Busnes i’r Trefnydd drefnu cyfle i’r Aelodau drafod cyflwyno pasys
COVID a gofynnwyd pa mor aml y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud datganiadau
ar COVID yn y dyfodol. Dywedodd y Trefnydd y byddai’n ymgynghori â’r Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y materion hyn.
Cyfarfod: 14/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 146
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
21 Medi 2021 -
·
Datganiad gan y Gweinidog Materion
Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Polisi Ffermio'r Dyfodol a'r Cynllun
Ffermio Cynaliadwy (45 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymagwedd at wasanaethau optometreg yn y dyfodol (45
munud)
·
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad: Codau cyfraith Cymru: rhaglen i wella hygyrchedd
cyfraith Cymru (45 munud)
·
Cynnig
o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân (30 munud)
o
Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021
o
Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2021
o
Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2021
·
Rheoliadau'r Fasnach mewn
Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) (Rhif
2) 2021 (15 munud)
Dydd Mawrth
28 Medi 2021 -
·
Datganiad gan y Prif Weinidog:
Cysylltiadau Rhynglywodraethol (45 munud)
·
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Cyfansoddiadol (45 munud)
·
Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (45 munud)
·
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Bil Amgylchedd (45 munud)
·
Dadl: Defnyddio’r Adolygiad o Wariant Llywodraeth y
DU i fynd i'r afael â diogelwch tipiau glo yng Nghymru (60 munud)
Cyfarfod: 13/07/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 149
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i weithio ar y sail na fyddai unrhyw adalw dros doriad yr haf,
oni bai bod consensws gwleidyddol i wneud hynny. Byddai unrhyw Gyfarfod Llawn a
gaiff ei adalw yn gyfarfod rhithwir.
Cyfarfod: 06/07/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 152
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
13 Gorffennaf 2021
·
Datganiad gan
y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Confensiwn ar ein Dyfodol
Cyfansoddiadol (30 munud)
·
Datganiad
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 (30 munud)
·
Datganiad
gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
Coed a Phren (30 munud)
Dydd Mercher
14 Gorffennaf 2021
·
Datganiad
gan y Prif Weinidog: Cynllun Rheoli Coronafeirws (45 munud)
Dydd Mawrth
14 Medi 2021
·
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
Fil yr Amgylchedd (145 munud)
Cododd
Darren Millar a Sian Gwenllian bryderon am gyhoeddiadau polisi sylweddol gan
Lywodraeth Cymru sy'n cael eu gwneud i'r cyfryngau yn hytrach nag i'r Senedd.
Dywedodd y
Llywydd mai ei barn hi ers tro oedd y dylai cyhoeddiadau polisi sylweddol gael
eu gwneud yn y Cyfarfod Llawn, ac y byddai'n parhau i ddefnyddio ei disgresiwn
i dderbyn Cwestiynau Amserol yn ymwneud â materion o'r fath. Diolchodd y
Trefnydd i'r Rheolwyr Busnes am godi'r mater a chytunodd i gyflwyno eu pryderon
i Weinidogion.
Cyfarfod: 29/06/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 155
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
6 Gorffannaf 2021
·
Datganiad
gan Weinidog yr Economi: Dyfodol y Diwydiant Dur (45 munud)
·
Datganiad gan
y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal
a Chymorth - y camau nesaf (45 munud)
Dydd Mawrth
13 Gorffannaf 2021
·
Dadl: Blaenoriaethau ar gyfer Paratoadau Cyllideb
2022-23 (60 munud)
Cyfarfod: 15/06/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 158
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
22 Mehefin 2021
·
Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol (45
munud)
Dydd Mawrth
29 Mehefin 2021
·
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Hybu Cydraddoldeb LGBTQ+
yng Nghymru (45 munud)
Cyfarfod: 08/06/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 161
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
15 Mehefin 2021
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau sy’n helpu pobl i wella o COVID-19 (45
munud)
·
Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021 (30 munud)
·
Dadl: Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Ffyniant
Gyffredin y DU (60 munud)
Dydd Mawrth
22 Mehefin 2021
·
Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol (45
munud)
Dydd Mawrth
29 Mehefin 2021
·
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Hybu Cydraddoldeb LGBTQ+
yng Nghymru (45 munud)
Cyfarfod: 25/05/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 164
Cofnodion:
Gofynnodd y
Rheolwyr Busnes pryd y byddai eitemau pellach yn cael eu hychwanegu at yr
amserlen 3 wythnos. Eglurodd y Trefnydd y bydd datganiadau'n cael eu hychwanegu
at yr agenda ar gyfer 8 Mehefin yn ddiweddarach yr wythnos nesaf.