Cyfarfodydd
Busnes y Senedd - Y Pwyllgor Busnes
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5.2)
Trefniadau Cyflwyno ar gyfer Toriad y Pasg 2023
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cyfarfod: 21/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5.)
Amserlen y Senedd
Cyfarfod: 21/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5.1)
Dyddiadau Toriadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cyfarfod: 31/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Y defnydd o ddadleuon 30 munud yn ystod amser y gwrthbleidiau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes arferion presennol yn ymwneud
â threfnu dadleuon yn amser y gwrthbleidiau a chytunodd i beidio â gwneud
unrhyw ddiwygiadau ar hyn o bryd. Nododd y Llywydd y byddai hi a'r Dirprwy
Lywydd yn ceisio sicrhau bod modd clywed amrywiaeth o leisiau yn ystod pob
dadl, a hynny drwy nifer yr Aelodau a elwir i siarad, a’r drefn y cânt eu galw
i siarad.
Cyfarfod: 31/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 24/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 24/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Y defnydd o ddadleuon 30 munud yn ystod amser y gwrthbleidiau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes yr arfer presennol ynghylch trefnu dadleuon yn amser y
gwrthbleidiau a chytunodd i ymgynghori â grwpiau cyn dychwelyd at y mater yn y
cyfarfod canlynol.
Cyfarfod: 06/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar drefniadau cyflwyno ar gyfer toriad y Nadolig, gan gynnwys
ar gyfer busnes y Cyfarfod Llawn am wythnos gyntaf y tymor, Cwestiynau
Ysgrifenedig a gwelliannau i’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol (Cymru). Cytunodd
y Pwyllgor hefyd ar y trefniadau ar gyfer gosod dogfennau yn ystod cyfnod y
Nadolig.
Cyfarfod: 06/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Dyddiadau’r Toriadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y Sulgwyn a thoriad
yr haf, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor yr hydref a
thoriad y Nadolig yn 2023.
Cyfarfod: 06/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Amserlen y Senedd
Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Effaith Aelod yn gadael grŵp gwleidyddol ar gynrychiolaeth mewn Pwyllgorau a’r amser a neilltuir i wrthbleidiau yn y Cyfarfod Llawn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes effaith y ffaith nad yw Rhys ab Owen bellach yn aelod o
grŵp Plaid Cymru yn y Senedd ar bwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid gwahodd grŵp Plaid Cymru i lenwi'r swyddi gwag
sydd wedi codi ar bwyllgorau, ac i gynnig bod y Senedd yn cytuno ar yr
enwebiadau canlynol:
- Y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad - Peredur Owen Griffiths;
- Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Mabon ap Gwynfor;
- Pwyllgor y Llywydd - Llyr
Gruffydd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i
gynnig lle i Rhys ab Owen ar y Pwyllgor Deisebau, yn amodol ar gytundeb y
Senedd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio
â gwneud unrhyw newidiadau pellach i aelodaeth a chadeiryddiaeth pwyllgorau,
na’r dyraniad amser yn y Cyfarfod Llawn ar hyn o bryd.
Cyfarfod: 08/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Papur ar yr adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur a chytunodd ar y dull arfaethedig a’r amserlen ar gyfer
ei adolygiad o ddarpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys y dylai’r
ymarfer hwn ystyried: y trefniadau prawf dros dro presennol ar gyfer absenoldeb
rhiant; a’r posibilrwydd o ymestyn y trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy i
salwch tymor hir a chyfrifoldebau gofalu eraill. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
ymgynghori â’r Aelodau ac i ofyn am farn Aelodau presennol a chyn-Aelodau sydd
wedi defnyddio pleidleisio drwy ddirprwy yn ystod y cyfnod prawf.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ystyried papur arall sy'n ymdrin â diffiniadau posib o salwch
hirdymor a chyfrifoldebau gofalu cyn dechrau'r cyfnod ymgynghori. Nododd Darren
Millar ei wrthwynebiad i ddefnyddio pleidleisio drwy ddirprwy.
Cyfarfod: 08/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy
Cyfarfod: 18/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 18/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Nodyn ar y Cadeirydd Dros Dro a rolau eraill sydd ar gael i gadeirio trafodion y Cyfarfod Llawn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 37
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor
Busnes y papur ar y gwahanol rolau sydd ar gael i gadeirio trafodion, a
chytunodd i gyflwyno cynnig bod Paul Davies AS yn cael ei ethol yn Gadeirydd
Dros Dro Cyfarfodydd Llawn o dan Reol Sefydlog 6.23A, i'w ystyried ar 26 Hydref.
Cyfarfod: 20/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Amserlen y Senedd
Cyfarfod: 10/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Amserlen y Senedd
Cyfarfod: 10/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Dyddiadau toriadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor yr hydref a Nadolig
2022, a chytunwyd ar ddyddiadau toriad dros dro ar gyfer hanner tymor y gwanwyn
a Phasg 2023.
Toriad |
Dyddiadau |
Hanner
Tymor y Sulgwyn |
Dydd Llun
30 Mai 2022 – dydd Sul 5 Mehefin 2022 |
Toriad yr
Haf |
Dydd Llun
18 Gorffennaf 2022 – dydd Sul 11 Medi 2022 |
Hanner
Tymor yr Hydref |
Dydd Llun
31 Hydref 2022 – dydd Sul 6 Tachwedd 2022 |
Toriad y
Nadolig |
Dydd Llun
19 Rhagfyr 2022 - dydd Sul 8 Ionawr 2022 |
*Toriad y
Gwanwyn |
Dydd Llun
20 Chwefror 2023 - Dydd Sul 26 Chwefror 2023 |
*Toriad y
Pasg |
Dydd Llun
3 Ebrill 2023 - dydd Sul 23 Ebrill 2023 |
* Dyddiadau
dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.
Cyfarfod: 15/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Trefniadau Cyflwyno yn Ystod Toriad y Pasg, Calan Mai a Hanner Tymor y Sulgwyn 2022
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 47
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes:
- ar y trefniadau ar gyfer
cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn a gwelliannau i Filiau yn ystod toriad y
Pasg;
- i gytuno ar y trefniadau ar
gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig yn ystod toriad y Pasg.
- i nodi’r newidiadau i’r
trefniadau cyflwyno, sy’n ofynnol o ganlyniad i Ŵyl Banc Calan Mai, Gŵyl
Banc y Sulgwyn a Gŵyl Banc y Jiwbilî Platinwm.
Nododd y
Trefnydd fod diwrnod braint i staff Llywodraeth Cymru ddydd Llun 6 Mehefin 2022
a gofynnodd nad oedd sesiynau craffu pwyllgorau gyda Gweinidogion yn cael eu
trefnu ar gyfer y diwrnod hwnnw.
Cyfarfod: 15/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Dyddiadau Toriadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
Cofnodion:
Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner
tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar
gyfer hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig yn 2022.
Cyfarfod: 15/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Amserlen y Senedd
Cyfarfod: 01/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Craffu ar Aelodau Dynodedig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 55
Cofnodion:
Datganodd Sian Gwenllian fuddiant fel Aelod Dynodedig.
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes yr opsiynau
posibl ar gyfer hwyluso craffu ar waith Arweinydd Plaid Cymru ac Aelodau
Dynodedig ar y Cytundeb Cydweithio ymhellach, yn dilyn ymgynghoriad y Rheolwyr
Busnes â’u grwpiau.
Roedd grwpiau’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru o
blaid cyflwyno mecanweithiau ar gyfer craffu ar waith Aelodau Dynodedig ac
Arweinydd Plaid Cymru yn y Cyfarfod Llawn. Nid oedd y grŵp Llafur a'r
Democrat Rhyddfrydol o blaid.
Felly, nid oedd mwyafrif o blaid cynnig
unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog. Fodd bynnag, nododd y Pwyllgor Busnes y
mecanweithiau presennol y gellir eu defnyddio ar gyfer craffu ar waith Aelodau
Dynodedig ac Arweinydd Plaid Cymru gan bwyllgorau'r Senedd.
Cyfarfod: 01/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 25/01/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 25/01/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Craffu ar Aelodau Dynodedig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 62
Cofnodion:
Datganodd Sian Gwenllian fuddiant fel Aelod Dynodedig.
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes yr opsiynau
posibl ar gyfer hwyluso craffu ar waith Arweinydd Plaid Cymru ac Aelodau
Dynodedig ar y Cytundeb Cydweithredu a chytunodd y dylai Rheolwyr Busnes
ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd i drafod y mater ymhellach yng nghyfarfod yr
wythnos nesaf.
Cyfarfod: 14/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 14/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Effaith y Cytundeb Cydweithio ar Fusnes y Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 67
- Cyfyngedig 68
- Cyfyngedig 69
Cofnodion:
Datganodd Sian Gwenllian fuddiant gan ei bod wedi'i phenodi'n Aelod
Dynodedig.
Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at y goblygiadau i Fusnes y Senedd sy'n
deillio o'r Cytundeb Cydweithio.
Roedd y Ceidwadwyr a Jane Dodds o'r farn na ddylid dyrannu'r Gadeiryddiaeth
i Blaid Cymru. Roedd Llafur a Phlaid Cymru o'r farn y dylai Cadeiryddiaeth y
Pwyllgor Cyllid barhau i gael ei dyrannu i Blaid Cymru. Gan nad oedd mwyafrif
ar y Pwyllgor Busnes o blaid, ni fyddai unrhyw newid yn cael ei gynnig. At
ddibenion cofnodi, nododd y Llywydd ei barn na ddylai Plaid Cymru gadeirio'r
Pwyllgor Cyllid.
Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai enw, cyfrifoldebau a phortffolios yr
Aelodau Dynodedig yn cael eu cyhoeddi. Trafododd y Pwyllgor sut i
ddarparu ar gyfer rôl Aelodau Dynodedig o fewn trefniadau busnes presennol y
Senedd gan gynnwys: cwestiynau, datganiadau, dadleuon; dyrannu amser nad yw'n
amser y llywodraeth; pwyllgorau'r Senedd; a'r cyfle i graffu ar Aelodau
Dynodedig. Dywedodd y Llywydd ei bod yn bwriadu cyhoeddi datganiad pellach
ddydd Mercher yn amlinellu ei phenderfyniadau ar faterion o fewn ei disgresiwn.
Byddai'r Pwyllgor Busnes yn ystyried opsiynau ar gyfer craffu ar waith
Arweinydd Plaid Cymru ac Aelodau Dynodedig ar faterion yn ymwneud â'r Cytundeb
Cydweithio mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau i adolygu gweithrediad y Cytundeb ac
unrhyw newidiadau a wneir wrth symud ymlaen ac i ddychwelyd atynt maes o law.
Cyfarfod: 07/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Y Cytundeb Cydweithio: Goblygiadau i Fusnes y Senedd?
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 72
- Cyfyngedig 73
- Cyfyngedig 74
Cofnodion:
Datganodd Sian Gwenllian
fuddiant gan ei bod wedi'i phenodi'n Aelod Dynodedig.
Nododd y Pwyllgor
Busnes y farn gyfreithiol allanol a ddarparwyd gan yr Arglwydd Pannick CF ar y
Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac y byddai'r farn gyfreithiol
yn cael ei rhannu gyda'r holl Aelodau. Roedd y cyngor yn cefnogi barn
ragarweiniol y Llywydd nad oedd Plaid Cymru yn grŵp ag iddo rôl
weithredol. Nododd y Pwyllgor Busnes fod barn y Llywydd ar y mater yn
ddigyfnewid a'i bod yn derfynol.
Cynhaliodd y Pwyllgor
Busnes drafodaeth gychwynnol ar y goblygiadau posibl ar gyfer gweithredu Busnes
y Senedd o ganlyniad i’r Cytundeb. Cytunodd Rheolwyr Busnes y byddent yn ceisio
barn eu grwpiau cyn dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 07/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 02/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 02/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Llythyr gan y Prif Weinidog
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 81
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a nododd fod Comisiwn y Senedd yn cymryd camau i
gyfyngu ar nifer y staff sy'n gweithio ar ystâd y Senedd mewn ymateb i'r niferoedd
uchel presennol o achosion o Covid-19 ledled Cymru. Cytunodd y Rheolwyr Busnes
i drafod cymryd camau tebyg gyda'u grwpiau ac i annog Aelodau nad ydynt yn
mynychu'r Cyfarfod Llawn yn bersonol i ymuno â'r cyfarfod oddi ar y safle.
Gofynnodd y Llywydd hefyd i Reolwyr Busnes annog Aelodau i ystyried mwy o
ddefnydd o orchuddion wyneb yn y Siambr pan nad ydynt yn gwneud cyfraniad.
Cyfarfod: 19/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 14/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 14/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)
Canllawiau Diwygiedig ar Gynnal Busnes y Senedd yn Briodol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 88
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r canllawiau ar gyfer dethol Cynigion
Deddfwriaethol yr Aelodau a chytuno arnynt.