Cyfarfodydd

Busnes y Senedd - Y Pwyllgor Busnes

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/07/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Dyddiadau Toriadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Business Committee considered and confirmed the dates for Spring Half Term and Easter Recess 2024 and agreed provisional recess dates for Whitsun Half Term and Summer Recess 2024, adjusting the provisional dates of the Summer recess for 2024 as indicated below.

 

Recess 

Dates  

Summer Recess 2023 

Monday 17 July 2023 - Sunday 10 September 2023 

Autumn Half Term 

 

Mon 30 October 2023 – Sunday 5 November 2023 

Christmas Recess 

 

Mon 18 December 2023 – Sunday 7 January 2024 

Spring Half Term 

Monday 12 February 2024 – Sunday 18 February 2024 

Easter Recess 

Monday 25 March 2024 – Sunday 14 April 2024 

*Whitsun Half Term 

 

Mon 27 May 2024- Sunday 2 June 2024 

*Summer Recess 

Mon 22 July 2024 – Sunday 15 September 2024 

 

* Provisional dates to be confirmed by Business Committee. 

 


Cyfarfod: 11/07/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Amserlen y Senedd


Cyfarfod: 13/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Nodyn ar y trefniadau ar gyfer y sesiwn ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 7

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau arfaethedig ar gyfer sesiwn ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru i’w chynnal ar 21 Mehefin 2023, a chytuno arnynt. Fel rhan o hyn, gwnaeth y Pwyllgor Busnes yr hyn a ganlyn:

 

  • nodi bod y Llywydd, o dan Reol Sefydlog 13.3, yn bwriadu gwahodd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru i gymryd rhan mewn Cyfarfod Llawn at ddiben y sesiwn ar y cyd;
  • cytuno i wyro oddi wrth y drefn arferol o dan Reol Sefydlog 12.6 a chaniatáu i'r eitem ddechrau am 12.45 a chael ei chynnal cyn busnes y Llywodraeth;
  • nodi y bydd y Llywydd yn atal y cyfarfod dros dro ar ôl yr eitem er mwyn caniatáu i'r Siambr gael ei chlirio cyn i’r busnes arferol ailddechrau;
  • nodi y bydd manylion y trefniadau terfynol ar gyfer cynnal y sesiwn yn ymarferol yn cael eu darparu yng nghyfarfod yr wythnos ganlynol.

 

 


Cyfarfod: 06/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Dyddiadau Toriadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 10

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig 2023, a chytunwyd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y gwanwyn a’r Pasg 2024.  Y rhain yw:

 

Toriad

Dyddiadau

Hanner Tymor y Sulgwyn

 

Dydd Llun 29 Mai 2023 - dydd Sul 4 Mehefin 2023

Toriad yr Haf

Dydd Llun 17 Gorffennaf 2023 – Dydd Sul 10 Medi 2023

Hanner Tymor yr Hydref

 

Dydd Llun 30 Hydref 2023 – dydd Sul 5 Tachwedd 2023

Toriad y Nadolig

 

Dydd Llun 18 Rhagfyr 2023 - Dydd Sul 7 Ionawr 2024

*Hanner Tymor y Gwanwyn

Dydd Llun 12 Chwefror 2024 - Dydd Sul 18 Chwefror 2024

*Toriad y Pasg

Dydd Llun 25 Mawrth 2024 - Dydd Sul 14 Ebrill 2024

 

*Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.

 

 


Cyfarfod: 06/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Amserlen y Senedd


Cyfarfod: 21/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Pasg 2023

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 15

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y papur a:

 

  • chytunodd ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn, cwestiynau ysgrifenedig a gwelliannau i Filiau yn ystod toriad y Pasg, a nodyn drafft i’r Aelodau;
  • nododd y newidiadau i’r trefniadau cyflwyno, sy’n ofynnol o ganlyniad i Ŵyl Banc Calan Mai, Gŵyl Banc Coronir Brenin Charles III a Gŵyl Banc y Sulgwyn.

 

 


Cyfarfod: 21/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Amserlen y Senedd


Cyfarfod: 21/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Dyddiadau’r toriadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig 2023, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer toriad hanner tymor y gwanwyn a thoriad y Pasg 2024.  

 

Wrth wneud hynny, trafododd y Pwyllgor Busnes argymhelliad 14 yn adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a gynigiodd y dylai’r Pwyllgor Busnes ystyried ar fyrder a ddylid ymestyn tymor yr hydref i 22 Rhagfyr 2023, er mwyn darparu ar gyfer cyfarfodydd ychwanegol o’r Pwyllgor hwn ac eisteddiadau Cyfarfod Llawn ychwanegol a allai fod yn ofynnol ar gyfer ystyried rheoliadau sy’n deillio o’r Bil”.

 

Daeth y Pwyllgor Busnes i’r casgliad na fyddai’n gwneud newidiadau i’r trefniadau ar gyfer toriad Nadolig 2023 ar hyn o bryd, o ystyried nad yw ffurf derfynol y Bil na sut y byddai Llywodraeth Cymru yn ymateb i’w ddarpariaethau yn hysbys eto, ond y byddai’n ystyried ailedrych ar y mater hwn yn nes ymlaen yn y flwyddyn yn ôl yr angen.

 

 


Cyfarfod: 31/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Y defnydd o ddadleuon 30 munud yn ystod amser y gwrthbleidiau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes arferion presennol yn ymwneud â threfnu dadleuon yn amser y gwrthbleidiau a chytunodd i beidio â gwneud unrhyw ddiwygiadau ar hyn o bryd. Nododd y Llywydd y byddai hi a'r Dirprwy Lywydd yn ceisio sicrhau bod modd clywed amrywiaeth o leisiau yn ystod pob dadl, a hynny drwy nifer yr Aelodau a elwir i siarad, a’r drefn y cânt eu galw i siarad.

 

 


Cyfarfod: 31/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Busnes y Senedd


Cyfarfod: 24/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Y defnydd o ddadleuon 30 munud yn ystod amser y gwrthbleidiau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 28

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes yr arfer presennol ynghylch trefnu dadleuon yn amser y gwrthbleidiau a chytunodd i ymgynghori â grwpiau cyn dychwelyd at y mater yn y cyfarfod canlynol. 

 

 


Cyfarfod: 24/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Busnes y Senedd


Cyfarfod: 06/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 33

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar drefniadau cyflwyno ar gyfer toriad y Nadolig, gan gynnwys ar gyfer busnes y Cyfarfod Llawn am wythnos gyntaf y tymor, Cwestiynau Ysgrifenedig a gwelliannau i’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol (Cymru). Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar y trefniadau ar gyfer gosod dogfennau yn ystod cyfnod y Nadolig.

 

 


Cyfarfod: 06/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Dyddiadau’r Toriadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 36

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig yn 2023.

 


Cyfarfod: 06/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Amserlen y Senedd


Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Busnes y Senedd


Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Effaith Aelod yn gadael grŵp gwleidyddol ar gynrychiolaeth mewn Pwyllgorau a’r amser a neilltuir i wrthbleidiau yn y Cyfarfod Llawn

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 43

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes effaith y ffaith nad yw Rhys ab Owen bellach yn aelod o grŵp Plaid Cymru yn y Senedd ar bwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid gwahodd grŵp Plaid Cymru i lenwi'r swyddi gwag sydd wedi codi ar bwyllgorau, ac i gynnig bod y Senedd yn cytuno ar yr enwebiadau canlynol:

 

  • Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad - Peredur Owen Griffiths;
  • Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Mabon ap Gwynfor;
  • Pwyllgor y Llywydd - Llyr Gruffydd.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gynnig lle i Rhys ab Owen ar y Pwyllgor Deisebau, yn amodol ar gytundeb y Senedd.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â gwneud unrhyw newidiadau pellach i aelodaeth a chadeiryddiaeth pwyllgorau, na’r dyraniad amser yn y Cyfarfod Llawn ar hyn o bryd.

 

 


Cyfarfod: 08/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Papur ar yr adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 46

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur a chytunodd ar y dull arfaethedig a’r amserlen ar gyfer ei adolygiad o ddarpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys y dylai’r ymarfer hwn ystyried: y trefniadau prawf dros dro presennol ar gyfer absenoldeb rhiant; a’r posibilrwydd o ymestyn y trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy i salwch tymor hir a chyfrifoldebau gofalu eraill. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Aelodau ac i ofyn am farn Aelodau presennol a chyn-Aelodau sydd wedi defnyddio pleidleisio drwy ddirprwy yn ystod y cyfnod prawf.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried papur arall sy'n ymdrin â diffiniadau posib o salwch hirdymor a chyfrifoldebau gofalu cyn dechrau'r cyfnod ymgynghori. Nododd Darren Millar ei wrthwynebiad i ddefnyddio pleidleisio drwy ddirprwy.

 

 


Cyfarfod: 08/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy


Cyfarfod: 18/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Busnes y Senedd


Cyfarfod: 18/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Nodyn ar y Cadeirydd Dros Dro a rolau eraill sydd ar gael i gadeirio trafodion y Cyfarfod Llawn

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 53

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y papur ar y gwahanol rolau sydd ar gael i gadeirio trafodion, a chytunodd i gyflwyno cynnig bod Paul Davies AS yn cael ei ethol yn Gadeirydd Dros Dro Cyfarfodydd Llawn o dan Reol Sefydlog 6.23A, i'w ystyried ar 26 Hydref.

 

 

 


Cyfarfod: 20/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Amserlen y Senedd


Cyfarfod: 10/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Dyddiadau toriadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 58

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor yr hydref a Nadolig 2022, a chytunwyd ar ddyddiadau toriad dros dro ar gyfer hanner tymor y gwanwyn a Phasg 2023. 

 

Toriad

Dyddiadau

Hanner Tymor y Sulgwyn

 

Dydd Llun 30 Mai 2022 – dydd Sul 5 Mehefin 2022

Toriad yr Haf

Dydd Llun 18 Gorffennaf 2022 – dydd Sul 11 Medi 2022

Hanner Tymor yr Hydref

 

Dydd Llun 31 Hydref 2022 – dydd Sul 6 Tachwedd 2022

Toriad y Nadolig

 

Dydd Llun 19 Rhagfyr 2022 - dydd Sul 8 Ionawr 2022

*Toriad y Gwanwyn

Dydd Llun 20 Chwefror 2023 - Dydd Sul 26 Chwefror 2023

*Toriad y Pasg

Dydd Llun 3 Ebrill 2023 - dydd Sul 23 Ebrill 2023

 

* Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.

 

 


Cyfarfod: 10/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Amserlen y Senedd


Cyfarfod: 15/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Trefniadau Cyflwyno yn Ystod Toriad y Pasg, Calan Mai a Hanner Tymor y Sulgwyn 2022

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 63

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes:

 

  • ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn a gwelliannau i Filiau yn ystod toriad y Pasg;
  • i gytuno ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig yn ystod toriad y Pasg.
  • i nodi’r newidiadau i’r trefniadau cyflwyno, sy’n ofynnol o ganlyniad i Ŵyl Banc Calan Mai, Gŵyl Banc y Sulgwyn a Gŵyl Banc y Jiwbilî Platinwm.

 

Nododd y Trefnydd fod diwrnod braint i staff Llywodraeth Cymru ddydd Llun 6 Mehefin 2022 a gofynnodd nad oedd sesiynau craffu pwyllgorau gyda Gweinidogion yn cael eu trefnu ar gyfer y diwrnod hwnnw.

 

 


Cyfarfod: 15/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Dyddiadau Toriadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 66

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig yn 2022.

 

 


Cyfarfod: 15/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Amserlen y Senedd


Cyfarfod: 01/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Craffu ar Aelodau Dynodedig

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 71

Cofnodion:

Datganodd Sian Gwenllian fuddiant fel Aelod Dynodedig.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes yr opsiynau posibl ar gyfer hwyluso craffu ar waith Arweinydd Plaid Cymru ac Aelodau Dynodedig ar y Cytundeb Cydweithio ymhellach, yn dilyn ymgynghoriad y Rheolwyr Busnes â’u grwpiau.

Roedd grwpiau’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru o blaid cyflwyno mecanweithiau ar gyfer craffu ar waith Aelodau Dynodedig ac Arweinydd Plaid Cymru yn y Cyfarfod Llawn. Nid oedd y grŵp Llafur a'r Democrat Rhyddfrydol o blaid.

Felly, nid oedd mwyafrif o blaid cynnig unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog. Fodd bynnag, nododd y Pwyllgor Busnes y mecanweithiau presennol y gellir eu defnyddio ar gyfer craffu ar waith Aelodau Dynodedig ac Arweinydd Plaid Cymru gan bwyllgorau'r Senedd.

 

 


Cyfarfod: 01/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Busnes y Senedd


Cyfarfod: 25/01/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Busnes y Senedd


Cyfarfod: 25/01/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Craffu ar Aelodau Dynodedig

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 78

Cofnodion:

Datganodd Sian Gwenllian fuddiant fel Aelod Dynodedig.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes yr opsiynau posibl ar gyfer hwyluso craffu ar waith Arweinydd Plaid Cymru ac Aelodau Dynodedig ar y Cytundeb Cydweithredu a chytunodd y dylai Rheolwyr Busnes ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd i drafod y mater ymhellach yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.

 

 


Cyfarfod: 14/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Busnes y Senedd


Cyfarfod: 14/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Effaith y Cytundeb Cydweithio ar Fusnes y Senedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 83
  • Cyfyngedig 84
  • Cyfyngedig 85

Cofnodion:

Datganodd Sian Gwenllian fuddiant gan ei bod wedi'i phenodi'n Aelod Dynodedig.

 

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at y goblygiadau i Fusnes y Senedd sy'n deillio o'r Cytundeb Cydweithio.

 

Roedd y Ceidwadwyr a Jane Dodds o'r farn na ddylid dyrannu'r Gadeiryddiaeth i Blaid Cymru. Roedd Llafur a Phlaid Cymru o'r farn y dylai Cadeiryddiaeth y Pwyllgor Cyllid barhau i gael ei dyrannu i Blaid Cymru. Gan nad oedd mwyafrif ar y Pwyllgor Busnes o blaid, ni fyddai unrhyw newid yn cael ei gynnig. At ddibenion cofnodi, nododd y Llywydd ei barn na ddylai Plaid Cymru gadeirio'r Pwyllgor Cyllid.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai enw, cyfrifoldebau a phortffolios yr Aelodau Dynodedig yn cael eu cyhoeddi.  Trafododd y Pwyllgor sut i ddarparu ar gyfer rôl Aelodau Dynodedig o fewn trefniadau busnes presennol y Senedd gan gynnwys: cwestiynau, datganiadau, dadleuon; dyrannu amser nad yw'n amser y llywodraeth; pwyllgorau'r Senedd; a'r cyfle i graffu ar Aelodau Dynodedig. Dywedodd y Llywydd ei bod yn bwriadu cyhoeddi datganiad pellach ddydd Mercher yn amlinellu ei phenderfyniadau ar faterion o fewn ei disgresiwn.

 

Byddai'r Pwyllgor Busnes yn ystyried opsiynau ar gyfer craffu ar waith Arweinydd Plaid Cymru ac Aelodau Dynodedig ar faterion yn ymwneud â'r Cytundeb Cydweithio mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau i adolygu gweithrediad y Cytundeb ac unrhyw newidiadau a wneir wrth symud ymlaen ac i ddychwelyd atynt maes o law.

 

 


Cyfarfod: 07/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Y Cytundeb Cydweithio: Goblygiadau i Fusnes y Senedd?

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 88
  • Cyfyngedig 89
  • Cyfyngedig 90

Cofnodion:

Datganodd Sian Gwenllian fuddiant gan ei bod wedi'i phenodi'n Aelod Dynodedig.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y farn gyfreithiol allanol a ddarparwyd gan yr Arglwydd Pannick CF ar y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac y byddai'r farn gyfreithiol yn cael ei rhannu gyda'r holl Aelodau. Roedd y cyngor yn cefnogi barn ragarweiniol y Llywydd nad oedd Plaid Cymru yn grŵp ag iddo rôl weithredol. Nododd y Pwyllgor Busnes fod barn y Llywydd ar y mater yn ddigyfnewid a'i bod yn derfynol.

Cynhaliodd y Pwyllgor Busnes drafodaeth gychwynnol ar y goblygiadau posibl ar gyfer gweithredu Busnes y Senedd o ganlyniad i’r Cytundeb. Cytunodd Rheolwyr Busnes y byddent yn ceisio barn eu grwpiau cyn dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.

 

 


Cyfarfod: 07/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Busnes y Senedd


Cyfarfod: 02/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Busnes y Senedd


Cyfarfod: 02/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Llythyr gan y Prif Weinidog

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 97

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a nododd fod Comisiwn y Senedd yn cymryd camau i gyfyngu ar nifer y staff sy'n gweithio ar ystâd y Senedd mewn ymateb i'r niferoedd uchel presennol o achosion o Covid-19 ledled Cymru. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod cymryd camau tebyg gyda'u grwpiau ac i annog Aelodau nad ydynt yn mynychu'r Cyfarfod Llawn yn bersonol i ymuno â'r cyfarfod oddi ar y safle. Gofynnodd y Llywydd hefyd i Reolwyr Busnes annog Aelodau i ystyried mwy o ddefnydd o orchuddion wyneb yn y Siambr pan nad ydynt yn gwneud cyfraniad.

 

 


Cyfarfod: 19/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Busnes y Senedd


Cyfarfod: 14/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)

Busnes y Senedd


Cyfarfod: 14/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)

Canllawiau Diwygiedig ar Gynnal Busnes y Senedd yn Briodol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 104

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r canllawiau ar gyfer dethol Cynigion Deddfwriaethol yr Aelodau a chytuno arnynt.