Cyfarfodydd
Rheolau Sefydlog
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
Cynnig i addasu Rheolau Sefydlog - Newidiadau amrywiol
NDM8241 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol',
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 22 Mawrth 2023.
2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 6 yn Gymraeg, a Rheolau
Sefydlog 8, 9, 26, 26A, 26B, 26C yn y ddwy Iaith, fel y nodir yn Atodiad A i
adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.11
NDM8241 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad
y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2023.
2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 6 yn Gymraeg, a Rheolau
Sefydlog 8, 9, 26, 26A, 26B, 26C yn y ddwy Iaith, fel y nodir yn Atodiad A i
adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 29/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Pleidleisio drwy ddirprwy
NDM8240 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Pleidleisio Drwy
Ddirprwy', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 22 Mawrth 2023.
2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad A i
adroddiad y Pwyllgor Busnes
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.02
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8240 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Pleidleisio Drwy
Ddirprwy', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2023.
2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad A i
adroddiad y Pwyllgor Busnes
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
12 |
48 |
Oherwydd y cafodd y Cynnig ei gefnogi gan
ddau draean o’r Aelodau pleidleisio, cytunwyd ar y Cynnig.
Cyfarfod: 21/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ei adroddiad ar nifer o
newidiadau amrywiol i’r Rheolau Sefydlog, ac i gyflwyno cynnig ar gyfer dadl yn
y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 29 Mawrth.
Cyfarfod: 21/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Pleidleisio drwy ddirprwy
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
Cofnodion:
Trafododd a chytunodd y Pwyllgor Busnes ar ei adroddiad,
a diwygiadau cysylltiedig i’r canllawiau, o’i ystyriaethau a’i gynigion ar
ddarpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno
cynnig ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 29 Mawrth.
Cyfarfod: 21/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Y Rheolau Sefydlog
Cyfarfod: 13/07/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)
Cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog - Pleidleisio drwy Ddirprwy
NDM8062 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog
12.41A-H Dros Dro ar Bleidleisio Drwy Ddirprwy’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022.
2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad A i
adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.24
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8062 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1.
Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau
Sefydlog 12.41A-H Dros Dro ar Bleidleisio Drwy Ddirprwy’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022.
2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad A i
adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
14 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 13/07/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)
Cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog - Rheol Sefydlog 34 a chymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd
NDM8063 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 34 a
chymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd', a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022.
2. Yn cymeradwyo'r
cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 6, 12 a 17, fel y nodir yn Atodiad A i
adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3.
Yn nodi argymhelliad y Pwyllgor Busnes y dylai Rheol Sefydlog 34 beidio â bod
yn effeithiol, fel y trefnwyd, ar 1 Awst 2022.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.24
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8063 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1.
Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheol
Sefydlog 34 a chymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd', a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022.
2.
Yn cymeradwyo'r cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 6, 12 a 17, fel y nodir yn
Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3.
Yn nodi argymhelliad y Pwyllgor Busnes y dylai Rheol Sefydlog 34 beidio â bod yn
effeithiol, fel y trefnwyd, ar 1 Awst 2022.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
14 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 05/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog Dros Dro 12.41 A-H ar Bleidleisio Drwy Ddirprwy
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad a chytunodd
arno.
Cyfarfod: 05/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Y Rheolau Sefydlog
Cyfarfod: 28/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Y Rheolau Sefydlog
Cyfarfod: 28/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Adolygiad o Reol Sefydlog 12.41 A-H ar Bleidleisio Drwy Ddirprwy
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y Rheolau Sefydlog dros dro
(12.41A-H) ar bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant a chytunodd
i gynnig i'r Senedd y caiff y rhain eu hymestyn tan 1 Ebrill 2023 er mwyn
galluogi adolygiad llawn o'r darpariaethau yn ddiweddarach, ar ôl i'r adolygiad
presennol o Reol Sefydlog 34 a chyfranogi o bell ddod i ben.
Cyfarfod: 26/05/2022 - Fforwm y Cadeiryddion (Eitem 3.)
Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a ffyrdd o weithio yn y dyfodol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
Cyfarfod: 03/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Rheolau Sefydlog
Cyfarfod: 03/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfrannu at drafodion y Senedd o bell: dull arfaethedig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Cytunodd
y Pwyllgor Busnes ar y cylch gorchwyl a'r dull arfaethedig o gasglu tystiolaeth
ar gyfer yr adolygiad, gan gynnwys y dylai ystyried statws y darpariaethau sydd
wedi'u cynnwys ar hyn o bryd yn Rheol Sefydlog 34 (Gweithdrefnau Brys) a
pharhau i gymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd yn y tymor canolig cyn
toriad yr haf. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai'r sefyllfa yn y tymor
hwy o ran cyfranogiad a phleidleisio o bell, gan gynnwys ar gyfer tymhorau
Seneddau’r dyfodol, gael ei hystyried ymhellach ac y dylid ymgynghori arni yn
ddiweddarach yn ystod tymor y Senedd hon.
Cyfarfod: 22/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Y Rheolau Sefydlog
Cyfarfod: 22/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Cymryd rhan yn y Cyfarfod Llawn o bell ac adolygu Rheol Sefydlog 34
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 37
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai
cymryd rhan a phleidleisio o bell yn y Cyfarfod Llawn barhau ar ôl toriad y
Pasg a chynhaliodd drafodaeth gychwynnol am y sefyllfa yn y tymor hwy. Cytunodd
y Pwyllgor y dylai’r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno cynigion manwl pellach yn gynnar
yn nhymor yr haf ar gyfer cynnal adolygiad llawn o Reol Sefydlog 34
(Gweithdrefnau Brys) ac argaeledd cymryd rhan o bell a hybrid ym musnes y
Senedd yn y dyfodol.
Nododd y Rheolwyr Busnes hefyd fod
angen adolygiad o Reol Sefydlog 12.41AH (Pleidleisio drwy Ddirprwy) cyn toriad
yr haf hefyd.
Cyfarfod: 07/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 40
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y llythyr
gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a chytunodd i wahodd y Pwyllgor hwnnw i
ystyried y pwyntiau a godwyd mewn perthynas â Rheolau Sefydlog 2.6 a 2.7
(Datganiadau o Fuddiant y gellir eu Cofrestru) fel rhan o'i adolygiad
arfaethedig o gofrestru buddiannau.
Cyfarfod: 07/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Cynnig i ddiwygio Rheola Sefydlog 23.4 sy'n ymwneud â'r trothwy llofnodion ar gyfer deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 43
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes ar Adroddiad drafft y Pwyllgor Busnes ar y newid y gofynnwyd amdano gan
y Pwyllgor Deisebau, ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog i'w
drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 15 Rhagfyr 2021.
Cyfarfod: 07/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Y Rheolau Sefydlog
Cyfarfod: 23/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Trothwy llofnodion ar gyfer deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 49
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i godi'r trothwy ar gyfer
deisebau, ac y dylai adroddiad yn nodi'r newid sydd ei angen gael ei ddarparu
mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Gofynnodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i'r Pwyllgor Deisebau fonitro effaith trothwy newydd ar
nifer y deisebau a dderbynnir ac a ystyrir, gan nodi na ddylai capasiti fod yn
rhwystr i ddeisebau gael eu hystyried.
Cyfarfod: 23/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Y Rheolau Sefydlog
Cyfarfod: 17/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
NDM7826 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio
Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 22,
fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.26
NDM7826 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1.
Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad’, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021.
2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 22, fel y nodir yn Atodiad A
adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 09/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 56
- Cyfyngedig 57
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad drafft, ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r
Rheolau Sefydlog, i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 17 Tachwedd
2021.
Cyfarfod: 09/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Rheolau Sefydlog
Cyfarfod: 19/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 62
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes y cais i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i ganiatáu dirprwyon yng
nghyfarfodydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac eithrio wrth ystyried cwynion.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddiwygio Rheol Sefydlog 22 fel rhan o'i adolygiad
o'r Rheolau Sefydlog.
Cyfarfod: 19/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Y Rheolau Sefydlog