Cyfarfodydd
Pwyllgorau - Y Pwyllgor Busnes
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5.2)
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch slotiau cyfarfodydd pwyllgor ychwanegol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cyfarfod: 23/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5.3)
Sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Cymru ar Ymchwiliad Covid-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
Cyfarfod: 23/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5.1)
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch cais i Aelodau'r Pwyllgor gynnal busnes y Pwyllgor yn ystod toriad yr haf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
Cyfarfod: 23/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5.)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 16/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5.1)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch cais i ymgymryd â busnes y Pwyllgor yng Nghaeredin a Barcelona
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
Cyfarfod: 16/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5.)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 17/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch ymweliad y pwyllgor sydd ar y gweill
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cais i Aelodau’r Pwyllgor gael eu hesgusodi o'r Cyfarfod
Llawn ar 26 Ebrill 2023, a chytunwyd arno.
Cyfarfod: 17/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 08/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Llythyr gan Fforwm y Cadeiryddion - cais i newid dyddiadau cyfarfodydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gais gan Fforwm y Cadeiryddion i newid y slot cyfarfod a
ddyrannwyd iddo, o ddydd Iau olaf pob hanner tymor i'r bore Llun olaf sydd ar
gael ym mhob hanner tymor (pan nad oes gwrthdaro gyda slot naill ai'r Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol neu Gomisiwn y Senedd).
Cyfarfod: 08/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 08/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Deisebau am ddadl ar ddeiseb P-06-1302 -
Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi
yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a gafodd 20,889 o lofnodion, a
chytunodd i drefnu dadl 30 munud o hyd ddydd Mercher 30 Tachwedd.
Cyfarfod: 12/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 07/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i gais y Pwyllgor Deisebau am ddadl ar ddeiseb P-06-1277 Achub yr
Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw
gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol,
i'w hamserlennu ar 29 Mehefin.
Cyfarfod: 07/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 24/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y cais i ganiatáu i Aelodau’r Pwyllgor gael eu hesgusodi o’r
Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 15 Mehefin er mwyn teithio i’r Alban ar gyfer
cyfarfod cyntaf Fforwm y Pwyllgor Cyllid Rhyngseneddol.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drafod ymhellach, mewn cyfarfod yn y dyfodol, ei rôl mewn
perthynas ag ystyried ceisiadau i Aelodau fod yn absennol o’r Cyfarfod Llawn
oherwydd busnes pwyllgor.
Cyfarfod: 24/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 10/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 37
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais
y Pwyllgor Deisebau am ddadl ynghylch deiseb P-06-1249 Darparu llwybr clinigol,
gofal meddygol, ac arbenigwyr ar gyfer pobl â syndrom Tourette yng Nghymru,
i’w threfnu ar gyfer 25 Mai.
Cyfarfod: 10/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 26/04/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 42
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais
Aelodau’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd i gael eu hesgusodi o'r
Cyfarfod Llawn o 15:30 ar 27 Ebrill.
Cyfarfod: 26/04/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 08/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 47
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
Cyfarfod: 01/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar ddeiseb P-05-949 Achub Ysgol
Ganolradd i Ferched y Bont-faen dydd Mercher 16 Chwefror 2022.
Cyfarfod: 01/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 18/01/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru ac Ofcom
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 55
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth at y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i'w ystyried a rhoi sylwadau
arno. Gofynnwyd i swyddogion gysylltu â Llywodraeth Cymru am yr amserlen
ar gyfer y gwaith hwn.
Cyfarfod: 18/01/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 14/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Papur gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 60
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i roi caniatâd i Aelodau'r Pwyllgor Diwylliant,
Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol adael y Cyfarfod Llawn
yn gynnar ddydd Mercher 9 Chwefror 2022.
Cyfarfod: 14/12/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 30/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 65
Cofnodion:
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am ragor o
wybodaeth am statws presennol penderfyniadau sy'n ymwneud â dyfodol yr adeilad
cyn iddynt wneud penderfyniad ynghylch a ddylid cytuno i drefnu dadl.
Cyfarfod: 30/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 19/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Dadl Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn - Craffu ar Weithredu Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 70
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar y cyd rhwng y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar
graffu ar weithredu cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015).
Tynnodd y
Trefnydd sylw at y ffaith bod datganiad y llywodraeth y cyfeirir ato yn y
llythyr yn ychwanegol at, ac nid yn lle, ymateb i'r adroddiad ar y testun hwn a
gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ddiwedd y Bumed Senedd.
Cyfarfod: 05/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 73
Cofnodion:
Dros dro,
cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i'r Pwyllgor gwrdd ar 21 Hydref, yn amodol
ar gadarnhad o ran aelodaeth y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
Cyfarfod: 05/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 76
Cofnodion:
Dros dro,
cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y ceisiadau a ganlyn gan y pwyllgor am slotiau
cyfarfod ychwanegol:
·
Dydd Mercher 20 Hydref 2021;
·
Dydd Iau 18 Tachwedd 2021; a
·
Dydd Mercher 15 Rhagfyr 2021.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylai pwyllgorau anelu at wneud ceisiadau bob tymor am
slotiau cyfarfodydd ychwanegol, lle bo hynny'n bosibl.
Cyfarfod: 05/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 79
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu dadl ar ddeiseb ‘P-06-1208: Deddfau newydd i
amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu
poblogaeth’.
Cyfarfod: 05/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 21/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 84
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i drefnu’r ddadl ar y ddeiseb.
Cyfarfod: 21/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 87
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar ei ymateb i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus i nodi ei ddull o fynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed gan
Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd.
Cyfarfod: 21/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Ceisiadau o ran amserlen pwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 90
- Cyfyngedig 91
- Cyfyngedig 92
- Cyfyngedig 93
- Cyfyngedig 94
- Cyfyngedig 95
- Cyfyngedig 96
- Cyfyngedig 97
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes geisiadau o ran amserlen gan nifer o bwyllgorau ac effaith yr
Agoriad Swyddogol ar fusnes y Senedd. Nododd y llythyrau gan y Pwyllgor Iechyd
a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon
a Chysylltiadau Rhyngwladol, a chytunodd ar y camau gweithredu canlynol:
·
Pwyllgor Cyllid – cyfarfodydd
ychwanegol fore dydd Gwener 8 Hydref, bore dydd Llun 18 Hydref, bore dydd
Gwener 19 Tachwedd a bore dydd Mercher 22 Rhagfyr;
·
Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg - cyfarfodydd ychwanegol fore dydd Llun 18 Hydref
a naill ai bore dydd Llun 13 Rhagfyr neu ddydd Gwener 17 Rhagfyr (bore a/neu
brynhawn);
·
Pwyllgor y Llywydd – cyfarfod ychwanegol
fore dydd Llun 11 Hydref;
·
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol – cyfarfod ychwanegol fore dydd Mercher 20 Hydref;
·
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr
Amgylchedd a Seilwaith – slot cyfarfod amgen fore dydd Mercher 20 Hydref;
·
Pwyllgor yr Economi, Masnach a
Materion Gwledig – slot cyfarfod amgen brynhawn dydd Llun 18 Hydref neu ddydd
Gwener 22 Hydref (bore a/neu brynhawn);
·
Pwyllgor Safonau – hyblygrwydd i
gwrdd fore dydd Mawrth os oes angen gwneud hynny er mwyn ystyried cwyn; a
·
Pwyllgor Deisebau - gofyn am symud
yn barhaol o slot fore Llun i slot brynhawn Llun.
Cyfarfod: 21/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 14/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 102
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i barhau â'r trefniadau blaenorol mewn
perthynas â deisebau a drafodir yn y Cyfarfod Llawn.
Cyfarfod: 14/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 20/05/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Sefydlu pwyllgor interim at ddibenion Rheol Sefydlog 21
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 107
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd Nodiadau Cyngor
Cyfreithiol yn cael eu paratoi er mwyn helpu i lywio dadleuon ar 26 Mai ar
gynigion i gymeradwyo offerynnau statudol gwneud cadarnhaol a chytunwyd mewn
egwyddor i sefydlu pwyllgor interim ar gyfer craffu ar offerynnau statudol o
dan Reol Sefydlog 21.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i sefydlu Pwyllgor Offerynnau Statudol interim gyda phedwar
aelod (gan gynnwys y Cadeirydd), gydag un aelod o'r Grŵp Llafur, un o
grŵp y Ceidwadwyr ac un o grŵp Plaid Cymru, yn ogystal â'r Dirprwy
Lywydd fel Cadeirydd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynigion
perthnasol i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Mai.
Cyfarfod: 20/05/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Pwyllgorau