Cyfarfodydd

Penodi Cwnsler Cyffredinol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/05/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 2)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 9.1 i gytuno ag argymhelliad Prif Weinidog Cymru i'w Mawrhydi ynglŷn â pherson i'w benodi'n Gwnsler Cyffredinol

NDM7688 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â'r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Mick Antoniw AS yn Gwnsler Cyffredinol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.41

NDM7688 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â'r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Mick Antoniw AS yn Gwnsler Cyffredinol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.