Cyfarfodydd

Datganiadau 90 Eiliad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4.)

Datganiadau 90 Eiliad


Cyfarfod: 08/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.12

Gwnaeth Natasha Asghar ddatganiad am - Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Gwnaeth Russell George ddatganiad am - Dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Y Drenewydd: I anrhydeddu 70 mlynedd o Laura Ashley.

Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad am - Helen Ward: Prif sgoriwr goliau Cymru sydd wedi datgan ei bod yn ymddeol o bêl-droed.


Cyfarfod: 01/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.39

Gwnaeth Jenny Rathbone ddatganiad am - Y genhinen fel symbol o ddiwylliant Cymru.

Gwnaeth Sarah Murphy ddatganiad am - Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta (27 Chwefror i 5 Mawrth).


Cyfarfod: 15/02/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Ddatganiadau 90 Eiliad


Cyfarfod: 08/02/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.41

Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad am - Llwybrau i Lesiant, prosiect Cymru gyfan sy’n datblygu llwybrau cerdded gyda gwirfoddolwyr, yn dod i ben.

Gwnaeth Jenny Rathbone ddatganiad am - Can mlynedd o ddarlledu radio yng Nghymru. Roedd pen-blwydd y darllediad cyntaf gan y Wireless Orchestra a gafodd ei wneud o ystafell uwchben siop yng Nghaerdydd ddydd Llun 13 Chwefror.

Gwnaeth Joel James ddatganiad am - Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (6-12 Chwefror), gan dynnu sylw at ddau berson ifanc yn ei ranbarth sydd wedi cael prentisiaethau, ac un ohonynt wedi ennill gwobr prentis y flwyddyn.


Cyfarfod: 25/01/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.11

Gwnaeth Samuel Kurtz ddatganiad am - Y cytundeb cydweithio rhwng ColegauCymru a Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, a lofnodwyd yng Ngholeg Sir Benfro.

Gwnaeth Mabon ap Gwynfor ddatganiad am - Ugain mlynedd o fodolaeth y gwasanaeth O Ddrws i Ddrws ym Mhen Llŷn, menter gymunedol sy’n darparu trafnidiaeth gyhoeddus.

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Wythnos Atal Canser Ceg y Groth (23-29 Ionawr).


Cyfarfod: 18/01/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.14

Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad am - 200 mlynedd ers genedigaeth Alfred Russel Wallace, un o naturiaethwyr gorau Prydain, a damcaniaethwr esblygiadol cynnar. (8 Ionawr).

 


Cyfarfod: 11/01/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.36

Gwnaeth Jack Sargeant, Llyr Gruffydd a Tom Giffard ddatganiad am – Ymddeoliad Gareth Bale. 

 


Cyfarfod: 14/12/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.30

Gwnaeth Natasha Asghar ddatganiad am - Dechrau gŵyl Hanukkah (18 Rhagfyr).

Gwnaeth Janet Finch-Saunders ddatganiad am - #YmgyrchPickstock – ymgyrch ymwybyddiaeth troseddau cyllyll yn Aberconwy.


Cyfarfod: 07/12/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.56

Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am - Bu farw Peter Baldwin yn 13 oed oherwydd cymhlethdodau o ganlyniad i'w ddiabetes yn cael diagnosis yn rhy hwyr. Byddai Peter Baldwin wedi troi’n 21 oed ym mis Rhagfyr eleni. Cynhaliwyd digwyddiad yn y Senedd ddydd Mawrth 6 Rhagfyr fel rhan o etifeddiaeth Peter.

Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am - Radio Glangwili, a fydd yn dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu ar ddiwrnod Nadolig eleni.


Cyfarfod: 30/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.16

Gwnaeth Jenny Rathbone ddatganiad am - Tŷ bwyta “The Clink” yng ngharchar Caerdydd yn cau ar ôl 10 mlynedd.

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Ariannu’r celfyddydau a grwpiau cymunedol yng Nghymru: Penblwydd 70 Hapus i ‘The Mousetrap’ (25 Tachwedd).

Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am - Llongyfarch tîm pêl droed dynion Cymru a’r Wal Goch am hyrwyddo Cymru i’r byd.

 


Cyfarfod: 23/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Ni ddewiswyd unrhyw Ddatganiadau 90 Eiliad

 


Cyfarfod: 16/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.25

Gwnaeth Joyce Watson ddatganiad am - Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2022 (14-20 Tachwedd).

Gwnaeth Joel James ddatganiad am - Diwrnod Diabetes y Byd (14 Tachwedd).


Cyfarfod: 09/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.46

Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad am - Tabernacl Treforys yn dathlu 150 o flynyddoedd.

Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am - 40 mlynedd o S4C.

 


Cyfarfod: 26/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.09

Gwnaeth Natasha Asghar ddatganiad am - Diwali.


Cyfarfod: 19/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.34

Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad am - Nodi tri degawd o gynhyrchu peiriannau Toyota ar Lannau Dyfrdwy

Gwnaeth John Griffiths ddatganiad am - Wythnos Caru ein Colegau (17-21 Hydref).

Gwnaeth Laura Anne Jones ddatganiad am - Diwrnod Menopos y Byd (18 Hydref)

 


Cyfarfod: 12/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.03

Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am – Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref) a gwaith grŵp Metalidads, sy’n cyfuno heavy metal â chefnogaeth i dadau sy’n dioddef gyda iechyd meddwl gwael.


Cyfarfod: 05/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.10

Gwnaeth Gareth Davies ddatganiad am - Gwledd Eirin Dinbych (1 Hydref).

 


Cyfarfod: 28/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.17

Gwnaeth Samuel Kurtz ddatganiad am – Diwrnod Llaeth Ysgol y Byd (28 Medi).

Gwnaeth Peter Fox ddatganiad am - Teyrnged i’r Cyng. Bob Greenland, cyn-Ddirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy.


Cyfarfod: 21/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.22

Gwnaeth Russell George ddatganiad am - PAPYRUS Elusen Atal Hunanladdiad Ifanc - 3 thad yn codi arian er cof am eu plant sydd wedi cyflawni hunanladdiad.

Gwnaeth Natasha Asghar ddatganiad am - Diwrnod Alzheimer y Byd.

Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad am - Tony Paris, un o Dri Caerdydd a gafodd eu carcharu ar gam am lofruddiaeth, yn marw yn 65 oed.

Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad am - Teyrnged i Eddie Butler.

Gwnaeth Elin Jones ddatganiad am - Teyrnged i Mavis Nicholson, darlledwraig arloesol.


Cyfarfod: 13/07/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am – 26 mlynedd ers Srebrenica.

Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am - 85 mlynedd ers i blant o Wlad y Basg ddod i Gymru yn ystod rhyfel cartref Sbaen.

Gwnaeth Altaf Hussain ddatganiad am – Diwrnod Malala.

Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad am – Llongyfarch CF1 ar ennill Côr y Byd.


Cyfarfod: 06/07/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.48

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am – Caradog, Y Côr Mawr a Caradogfest.

Gwnaeth Laura Anne Jones ddatganiad am – Marwolaeth y Fonesig Deborah James.


Cyfarfod: 29/06/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw Ddatganiadau 90 Eiliad.

 


Cyfarfod: 22/06/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.56

Gwnaeth Elin Jones ddatganiad am - Cyhoeddi A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c800-1800 gan Dr Daniel Huws

Gwnaeth Darren Millar ddatganiad am - Wythnos y Lluoedd Arfog (20-26 Mehefin)

Gwnaeth Peter Fox ddatganiad am - Diwrnod Ymwybyddiaeth Clefyd Niwronau Motor (21 Mehefin)


Cyfarfod: 15/06/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.37

Gwnaeth Darren Millar ddatganiad am - 40 mlynedd ers ddiwedd Rhyfel y Falkland (14 Mehefin)

Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am - Teyrnged i Phil Bennett

Gwnaeth Sam Rowlands ddatganiad am - Wythnos Iechyd Dynion (13-19 Mehefin)


Cyfarfod: 08/06/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.58

Gwnaeth Jenny Rathbone ddatganiad am – 40 mlynedd ers ymosodiadau awyr Sir Galahad/Bluff Cove.

Gwnaeth Samuel Kurtz ddatganiad am – Wythnos Ddathlu Bwyd a Ffermio Cymru.


Cyfarfod: 25/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.14

Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am – Wythnos Beddau Rhyfel.

Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad am – Mis Esgyrn Brau.


Cyfarfod: 18/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.52

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am -  Diwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd.

Gwnaeth Jane Dodds ddatganiad am -  Wythnos Gweithredu ar Ddementia.

Gwnaeth Tom Giffard ddatganiad am -  Wythnos Twristiaeth Cymru.


Cyfarfod: 11/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.05

Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad am -  Dathlu deng-mlwyddiant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am - Digwyddiad Chwaraeon Amrywiol Addysg Bellach Pen-bre ar 11 Mai.


Cyfarfod: 04/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.17

Gwnaeth Mabon ap Gwynfor ddatganiad am - Dathlu 50 mlwyddiant rheilffordd bach y Bala.


Cyfarfod: 27/04/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.12

Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad am -  Wythnos Fyd-eang Pontio’r Cenedlaethau.

 


Cyfarfod: 30/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.31

Gwnaeth Mark Isherwood ddatganiad am Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, sy’n digwydd rhwng 28 Mawrth a 3 Ebrill.

Gwnaeth Hefin David  ddatganiad am Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2022 (a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf), yn dathlu llwyddiannau prentisiaid ym meysydd pynciau STEM gan gynnwys y rhai sydd wedi astudio mewn colegau addysg bellach gan gynnwys Coleg y Cymoedd sydd â champws mawr yn etholaeth yr Aelod.

Gwnaeth Buffy Williams ddatganiad am - Cronfa Forget Me Not Rhian Griffiths.

 


Cyfarfod: 23/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gwnaeth Janet Finch-Saunders ddatganiad am - Mwyngloddiau'r Gogarth. Wedi’u datguddio ym 1987 yn ystod cynllun i dirlunio ardal o’r Gogarth, mae’r mwynfeydd copr a gafodd eu darganfod ymhlith y darganfyddiadau archeolegol mwyaf syfrdanol yn y cyfnod diweddar.

Gwnaeth Russell George ddatganiad am - Cydnabod gwaith etholwr sydd wedi sefydlu taith gerdded a siarad i ddynion ar gyfer iechyd meddwl, ar ôl i nifer o ddynion ifanc, yn anffodus, gyflawni hunanladdiad yn y Drenewydd.

 


Cyfarfod: 16/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.15

Gwnaeth Siân Gwenllian ddatganiad am - Llongyfarch Cwrs Sylfaen Celf Coleg Menai  ar ddathlu 40 mlynedd.

 


Cyfarfod: 09/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.16

Gwnaeth Elin Jones ddatganiad yn talu teyrnged i Dai Jones, Llanilar.

Gwnaeth Paul Davies ddatganiad ar Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd – hyrwyddo pwysigrwydd addysg yrfaoedd dda mewn ysgolion a cholegau.

Gwnaeth Luke Fletcher ddatganiad yn amlygu pwysigrwydd heulforgwn (Basking Sharks) a’r heriau sy’n eu hwynebu. (Fel hyrwyddwr rhywogaeth).

 


Cyfarfod: 02/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

The item started at 15.21

Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad am - Llongyfarch aelodau o Fad Achub RNLI Bae Trearddur a fydd yn derbyn medalau dewrder heddiw. Dyma’r orsaf gyntaf erioed i dderbyn medal dewrder arian, am achubiaeth ar fwrdd bad achub Atlantic 85 dosbarth B (fel arfer dim ond badau achub mawr sydd yn ei derbyn, ond oherwydd difrifoldeb yr achos yma, mae’r RNLI wedi penderfynu ei rhoi i fad achub Bae Trearddur).

 


Cyfarfod: 16/02/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.21

Gwnaeth Jane Dodds ddatganiad am Ddiwrnod Gofal Rhyngwladol.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.23 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

 


Cyfarfod: 09/02/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.10

Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad ar Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.12 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.


Cyfarfod: 02/02/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.16

Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad am - Dathlu pen-blwydd Clwb Rygbi Castell-nedd yn 150 oed.

Gwnaeth Siân Gwenllian ddatganiad am - Llongyfarch disgyblion Ysgol Rhosgadfan ar ffilm ‘Blot-deuwedd’.

Gwnaeth James Evans ddatganiad am - yr Uwch Gynghrair Dartiau yn dod i Gaerdydd

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.20 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.


Cyfarfod: 26/01/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.05

Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad i nodi Diwrnod Rhyngwladol Addysg.

Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad i ddathlu canmlwyddiant yr Urdd.

Gwnaeth Carolyn Thomas ddatganiad i ddathlu sefydlu yr Adran leol gyntaf o’r Urdd yn Treuddyn, Sir y Fflint.


Cyfarfod: 19/01/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

Gwnaeth Janet Finch-Saunders ddatganiad i longyfarch Gwylwyr y Glannau ei Mawrhydi ar 200 mlynedd o wasanaeth.


Cyfarfod: 12/01/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.26

Gwnaeth Mick Antoniw ddatganiad i dalu teyrnged i Hanef Bhamjee OBE, yr ymgyrchydd gwrth-apartheid o Gaerdydd.

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad i dalu teyrnged i Ron Jones, y pencampwr chwaraeon o Gwmaman.

Gwnaeth Sioned Williamsddatganiad i dalu teyrnged i Mike Jones, yr artist o Bontardawe.


Cyfarfod: 15/12/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.09

Gwnaeth Elin Jones ddatganiad ar ganmlwyddiant Geiriadur Prifysgol Cymru.

Gwnaeth Altaf Hussain ddatganiad i gofio’r Athro Robert Owen OBE, llawfeddyg orthopaedig Cymreig rhagorol a anwyd 100 mlynedd yn ôl ar 21 Rhagfyr 1921 yn Chwilog.

Gwnaeth Lesley Griffiths ddatganiad ar Wŷl yr Angylion yn Eglwys San Silyn, Wrecsam.

Gwnaeth Peter Fox ddatganiad i nodi cyfraniad Tony Griffiths, fu’n aelod o Gyngor Cymuned Porthsgiwed am 52 mlynedd cyn ymddeol yr wythnos flaenorol.


Cyfarfod: 08/12/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.24

Gwnaeth Mabon ap Gwynfor ddatganiad ar lwyddiant Tŷ Doctor, meddygfa Nefyn, ar ei ymdrechion wrth roi’r brechlyn.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.26 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.


Cyfarfod: 01/12/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.39

Gwnaeth Adam Price ddatganiad am farwolaeth sydyn ac annisgwyl mewn perthynas ag Epilepsi.

Gwnaeth Natasha Asghar ddatganiad i dalu teyrnged i Cheryl Gillan AS, y cynhaliwyd ei gwasanaeth coffa ddydd Llun 29 Tachwedd.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.42 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.


Cyfarfod: 24/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.30

Gwnaeth Luke Fletcher ddatganiad ar Bantri Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gwnaeth James Evans ddatganiad ar Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.33 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.

 


Cyfarfod: 17/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.14

Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad am - Nodi a dathlu llwyddiant y Cynghorydd Abdul Khan ar gael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – y person Bangladeshaidd cyntaf yng Nghymru i ddod yn gadeirydd cyngor sir.

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Y cynlluniau i adfer Cofeb Ryfel Penrhiwceiber i’w hen ogoniant wrth iddi ddathlu 95 mlynedd.

Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad am - Nodi 100 mlynedd o Gymanfa Ganu Cymry Llundain Westminster.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.19 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

 


Cyfarfod: 10/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.14

Gwnaeth Peredur Owen Griffiths ddatganiad i nodi 50 mlynedd o Fand Tref Abertyleri.

Gwnaeth Sarah Murphy ddatganiad i nodi 40 mlwyddiant Seren Books.

Gwnaeth David Rees ddatganiad i nodi 20 mlynedd ers y ffrwydrad yn Ffwrnais Chwyth Rhif 5 yng ngwaith dur Port Talbot.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.19 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.


Cyfarfod: 03/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.03

Gwnaeth Tom Giffard ddatganiad am  y Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Trais a Bwlio yn yr Ysgol, gan gynnwys Seiberfwlio.

Gwnaeth Elin Jones ddatganiad am ben-blwydd Cyngor Llyfrau Cymru yn 60 oed.

Gwnaeth Peter Fox ddatganiad am ymgyrch 'Bang Out of Order' RSPCA ac effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid.

Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad i nodi 35 mlynedd o Childline.


Cyfarfod: 20/10/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.50

Gwnaeth Mabon ap Gwynfor ddatganiad am: Eryri – dathlu 70 mlynedd o Barc Cenedlaethol cyntaf y Deyrnas Unedig.

 


Cyfarfod: 13/10/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.02

Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad am: Lansiad 'Pecyn Teithio Llesol i'r Ysgol' y Grŵp Trawsbleidiol ar Deithio Llesol.

Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am: Llongyfarch y chwaraewr dartiau o Gymru, Jonny Clayton, a lwyddodd i ennill pencampwriaeth y ‘World Grand Prix’ ar y penwythnos.

Gwnaeth Altaf Hussain ddatganiad am: Cefnogi Diwrnod Arthritis y Byd.


Cyfarfod: 06/10/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.19

Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad am: Ymddeoliad Joy Aman Davies fel arweinydd Côr Orffews Treforys ar ôl 30 mlynedd o wasanaeth gyda’r Côr.

Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am: Cofio Magi Dodd, cynhyrchydd a chyflwynydd Radio Cymru.

Gwnaeth Natasha Asghar ddatganiad am: Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron.

 


Cyfarfod: 29/09/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.32

Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad am: dadorchuddio cerflun o Betty Campbell – pennaeth du cyntaf ysgol gynradd yng Nghymru, a hyrwyddodd ddiwylliant amlddiwylliannol ei chenedl drwy gydol ei hoes

Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am: 75 Mlwyddiant Clwb Llenyddol Casnewydd a Gwent.

Gwnaeth Russell George ddatganiad am: Sefydliad Prydeinig y Galon a’i ymgyrch dros Anghydraddoldeb Rhywiol a Chlefyd y Galon.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.39 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.


Cyfarfod: 22/09/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.36

Gwnaeth Gareth Davies ddatganiad am: Dathlu 50 Mlynedd o Lwybr Clawdd Offa.

Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am: Wythnos Werdd Pontypridd (18-26 Medi).

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.39 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.

 


Cyfarfod: 15/09/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.10

Gwnaeth Samuel Kurtz ddatganiad am: Diwrnod Cefnogi Ffermio Prydain (15 Medi).

Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad am: Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd (10 Medi).

Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am: 40 mlwyddiant CND Cymru (Medi 1981).

Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad am: 10 mlynedd ers trychineb gwaith glo Gleision (Medi 2011)

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.17 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.


Cyfarfod: 14/07/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.05

Gwnaeth Elin Jones ddatganiad am -  Cofio Elystan Morgan.

Gwnaeth Jane Dodds ddatganiad am -  Nodi 50 mlynedd ers agor llwybr troed Clawdd Offa.

Gwnaeth Joel James ddatganiad am - Mae Eglwys Edward Gyffeswr yn y Rhath yn dathlu can mlynedd ers gosod ei charreg sylfaen.

Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am - Dathlu 50 mlwyddiant y Mudiad Meithrin.

 


Cyfarfod: 07/07/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.44

Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad am Daith Gerdded Fawr Prostate Cymru.

Gwnaeth Altaf Hussain ddatganiad i nodi 26 mlynedd ers Hil-laddiad Srebrenica.

 


Cyfarfod: 30/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.06

Gwnaeth Vikki Howells (Cwm Cynon) ddatganiad am: Cofio trychineb Glofa’r Albion.

Gwnaeth Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) ddatganiad am: Tennis Castell-nedd – cydnabyddir gan wobrau blynyddol y Gymdeithas Tennis Lawnt fel un o’r Prosiectau Tennis Cymunedol gorau yn y DU.

Gwnaeth Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) ddatganiad am: Capel Bryn Seion yn Ystrad Mynach – bydd yn cau a chynhelir ei wasanaeth olaf ddydd Sul.

 


Cyfarfod: 23/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.25

Gwnaeth Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) ddatganiad i nodi 80 mlynedd o Gôr Merched Treforys.

Gwnaeth Darren Millar (Gorllewin Clwyd) ddatganiad am Ddiwrnod y Lluoedd Wrth Gefn.

Gwnaeth Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionydd) ddatganiad i goffáu David R Edwards a’i gyfraniadau i gerddoriaeth Gymraeg.


Cyfarfod: 16/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.49

Gwnaeth Vikki Howells (Cwm Cynon) ddatganiad am - 100 mlynedd o gân – Côr Cwmbach yn dathlu ei ganmlwyddiant.

Gwnaeth Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) ddatganiad am – Wythnos Ffoaduriaid.

Gwnaeth Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru) ddatganiad am – Nodi blwyddyn ers marwolaeth Mohammad Asghar AS.


Cyfarfod: 09/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.29

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad ar: Taith olaf y trên “pacer”.

Gwnaeth Rhianon Passmore ddatganiad ar: Rhyddhau’r ffilm ‘Dream Horse’