Cyfarfodydd

Enwebu'r Prif Weinidog

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/05/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 3)

Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.47.

Penderfynodd y Senedd gymryd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog, yn unol â Rheol Sefydlog 12.11.

Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog yn unol â Rheol Sefydlog 8.2.

Cafodd Mark Drakeford ei enwebu gan Rebecca Evans.

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. Felly, yn unol ag adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru, datganodd y Llywydd ei bwriad i argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Mark Drakeford yn Brif Weinidog Cymru.

Gwahoddodd y Llywydd Mark Drakeford i annerch y Senedd, a dilynwyd ef gan arweinwyr y gwrthbleidiau.