Cyfarfodydd

P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd ei fod wedi mynd â’r mater cyn belled ag y gall fel pwyllgor a chytunodd i gau’r ddeiseb ac i ddiolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ohirio ystyried y ddeiseb ymhellach nes bod Cadeirydd y Pwyllgor, Jack Sargeant AS, yn bresennol o ystyried ei ddiddordeb blaenorol yn y maes pwnc hwn.

 


Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2021 bellach wedi cwblhau Cyfnod 2, a threfnwyd trafodion Cyfnod 3 ar gyfer dydd Mawrth 21 Mehefin 2022. Cytunodd yr Aelodau i drafod y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol unwaith y bydd trafodion Cyfnod 3 wedi dod i ben.

 

 


Cyfarfod: 09/12/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 6)

6 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sydd wrthi’n craffu ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil, gan ofyn iddo ystyried a fydd yr anghysondeb a amlygwyd gan y deisebydd yn parhau yn sgil y Bil, ac i ystyried a fyddai modd newid y Bil er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i rannu’r linc ar gyfer yr ymgynghoriad cyfredol ynghylch y Bil gyda’r deisebwyr. Cytunodd y Pwyllgor i ddod â'r ddeiseb yn ôl unwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 


Cyfarfod: 20/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Roedd wedi cael trafodaeth yn flaenorol gyda’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg mewn perthynas â hyfforddiant Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR).

&

Mae'n gyn-beiriannydd

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i:

  • nodi ei siom yn y ffaith bod y fframwaith deddfwriaethol yn golygu bod un grŵp o fyfyrwyr yn cael ei heithrio rhag cael y cymorth ychwanegol a roddir i’w cyfoedion,  gan gynnwys grŵp ehangach o fyfyrwyr nar rhai syn cael bwrsariaeth STEMM yn unig; a

·         gofyn iddo edrych eto ar yr anghysondeb hwn a sut y gellid mynd i'r afael ag ef o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol.

 


Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n beiriannydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

·         Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i ofyn am ymateb i'r mater a godir gan y ddeiseb; a’r

·         Ganolfan Technolegau Amgen yn gofyn a yw wedi ceisio cael ei dynodi'n Sefydliad Addysg Uwch gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cwrs hwn a chyrsiau eraill, neu a yw’n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol.