Cyfarfodydd

P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/10/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y ddadl ar y cyd a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar y ddeiseb ac adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar blant sydd wedi bod mewn gofal.

 

Nododd yr Aelodau y bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn parhau i fonitro cynnydd ar y materion ehangach sy’n berthnasol i’r ddeiseb hon, felly cytunwyd y dylid cau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 03/07/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y bydd dadl ar y cyd yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a gymerodd ran a nododd fod amrywiaeth eang o randdeiliaid a roddodd dystiolaeth ar gyfer y ddau ymchwiliad wedi’u gwahodd i’r Senedd i wylio’r ddadl.

 


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

6 Papur i’w nodi - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

6 Adroddiad drafft - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 21/09/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch deiseb P-06-1161

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 14/07/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 3)

3 P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 Sesiwn dystiolaeth - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data fel mater o drefn o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn.

 

Julie Morgan MS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

Alistair Davey – Llywodraeth Cymru, Dirprwy Gyfarwyddwr, Galluogi Pobl

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie Morgan, AS a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Allister Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr, Galluogi Pobl yn Llywodraeth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 8)

Trafod y dystiolaeth - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data fel mater o drefn o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn.

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd, a chroesawodd ymrwymiad y Gweinidog i brofiadau bywyd pobl mewn gofal. Roeddent yn cytuno bod yn rhaid i’r hyn sy’n deillio yn sgil yr ymchwiliad gael eu cynhyrchu mewn ffyrdd sy'n hygyrch i bobl ifanc.

 

 


Cyfarfod: 09/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd Steven Williams, Rheolwr Ymgysylltu â Dinasyddion, drosolwg o ymgysylltiad diweddar â rhieni ar draws Cymru sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan rannu rhai o’r themâu allweddol y tynnwyd sylw atynt. Diolchodd i'r 24 o unigolion a gyfrannodd a rhannu eu profiadau, a oedd yn aml yn anodd. Rhannodd Jack Sargeant AS a Buffy Williams AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau ac aelod o’r Pwyllgor, eu profiad diymhongar o wrando ar rieni â phrofiad o fod mewn gofal yn cael eu cefnogi gan Voices from Care a diolch iddynt am eu hamser ac am rannu eu profiadau.

 

Mae'r Pwyllgor wedi gwahodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfarfod yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

Sesiwn dystiolaeth - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Sally Jenkins, Cyngor Dinas Casnewydd

 

Annabel Lloyd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

 

Julie Davies, Dinas a Sir Abertawe

 

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sally Jenkins, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Dinas Casnewydd, Annabel Lloyd, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant Cyngor Rhondda Cynon Taf a Julie Davies, Pennaeth Gwasanaeth Plant a Theuluoedd Cyngor Abertawe.

 


Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 7)

Sesiwn dystiolaeth - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd y byddai’n gwahodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor er mwyn cael rhagor o dystiolaeth.

 


Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

Sesiwn dystiolaeth - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Deborah Jones, Voices from Care Cymru

 

Francesca Pritchard, Voices from Care Cymru      

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Deborah Jones, Prif Weithredwr Voices from Care Cymru a Francesca Pritchard, Rheolwr Llesiant ar gyfer Voices from Care Cymru.

 


Cyfarfod: 21/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 7)

Trafod y dystiolaeth – P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. Bydd yn cymryd tystiolaeth bellach gan awdurdodau lleol, Voices from Care Cymru a rhieni sydd wedi bod mewn gofal.

 

 


Cyfarfod: 21/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

Sesiwn dystiolaeth – P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Mark Carter - Barnardo’s Cymru South East Wales

 

Liz Baker  - Barnardo’s Cymru Cardiff and Vale

 

Sharon Lovell - NYAS

 

Daljit Kaur Morris -  NYAS

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Carter, Barnardo’s Cymru, De-ddwyrain Cymru; Liz Baker, Barnardo’s Cymru, Caerdydd a’r Fro; Sharon Lovell, y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol; a Daljit Kaur Morris, y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol.

 


Cyfarfod: 21/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 Sesiwn dystiolaeth – P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Dr Louise Roberts, CASCADE

 

Jennifer Molloy, care experienced parent

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Louise Roberts o’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), a Jennifer Molloy, rhiant sydd wedi bod mewn gofal.

 


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y dull a gafodd ei argymell yn y papur cwmpasu, a chytunodd i gymryd tystiolaeth uniongyrchol gan rieni sydd wedi bod mewn gofal, awdurdodau lleol, CAFCASS a sefydliadau yn y trydydd sector sy'n cefnogi pobl ifanc. Cytunodd hefyd i wahodd academyddion o'r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd i gyflwyno canfyddiadau eu hymchwil yn y maes hwn.

 


Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am bapur cwmpasu gan y gwasanaeth ymchwil ynglŷn â’r mater hwn, cyn penderfynu pa gamau y gellid eu cymryd mewn perthynas â’r ddeiseb hon.

 


Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y Comisiynydd Plant i gael ei hymateb i'r ddeiseb.