Cyfarfodydd

P-06-1160 Ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau arholiadau lleol yng Nghymru dderbyn myfyrwyr sy'n cael addysg yn y cartref ar gyfer arholiadau cyhoeddus

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1160 Ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau arholiadau lleol yng Nghymru dderbyn myfyrwyr sy'n cael addysg yn y cartref ar gyfer arholiadau cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod llythyr y Gweinidog yn nodi’r trefniadau ar gyfer arholiadau 2022, y bwriad i feithrin perthynas well â theuluoedd sy’n darparu Addysg Ddewisol yn y Cartref, a’r cyllid sy’n cael ei ddarparu i Awdurdodau Lleol i gefnogi teuluoedd. Yn sgil yr ymateb cadarnhaol gan y Gweinidog, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1160 Ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau arholiadau lleol yng Nghymru dderbyn myfyrwyr sy'n cael addysg yn y cartref ar gyfer arholiadau cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog unwaith eto i ofyn am eglurder ynghylch a fydd gan fyfyrwyr sy’n cael addysg yn y cartref yr un hawliau a’r un mynediad at gymwysterau â phlant eraill, ac ynghylch a fyddant yn gallu sefyll eu harholiadau mewn canolfannau arholi lleol, a hynny’n rhad ac am ddim.

 


Cyfarfod: 20/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1160 Ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau arholiadau lleol yng Nghymru dderbyn myfyrwyr sy'n cael addysg yn y cartref ar gyfer arholiadau cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y mater a godwyd yn y ddeiseb eto, yn dilyn ymateb gan Lywodraeth Cymru, a nododd nad yw’r materion a godwyd yn y ddeiseb dan sylw’n ymwneud yn benodol â phandemig Covid-19. Cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru eto yn gofyn am ragor o wybodaeth am eu gwaith polisi tymor hir yn ymwneud â dysgwyr sy’n cael eu haddysg yn y cartref - gwaith a ddaeth i ben dros dro oherwydd y pandemig. 

 


Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1160 Ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau arholiadau lleol yng Nghymru dderbyn myfyrwyr sy'n cael addysg yn y cartref ar gyfer arholiadau cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ofyn am ymateb i’r ddeiseb.