Cyfarfodydd

SL(5)796 - Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021

NDM7681 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.   Yn cymeradwyo Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.21

NDM7681 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 23/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021.

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes nad oedd amser i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad, gan fod y Gorchymyn wedi'i drefnu i'w drafod ar 24 Mawrth.

 

 


Cyfarfod: 22/03/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 SL(5)796 – Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021

CLA(5)-10-21 – Papur 53 – Adroddiad

CLA(5)-10-21 – Papur 54 – Gorchymyn

CLA(5)-10-21 – Papur 55 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-10-21 – Papur 56 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 17 Mawrth 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.